• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'LE BATEAU'

December 3, 2015 Owain Evans

Heddiw, yn 1961, sylweddolodd staff Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd, fod y llun Le Bateau gan Henri Matisse (1869-1954) a'i ben i waered ganddynt ers 46 niwrnod.

Mae'r Adfent yn gyfle i ystyried beth sydd a'i ben i waered yn ein perthynas â Duw, ag eraill ac â'n hunain.

Ofnaf weithiau, O! Dduw, fy mod yn ceisio gwneud gormod yn fy nerth fy hun a pheidio â gadael i’th fywyd Di fod yn fywyd ynof fi. Amen.

Pa un sydd yn gywir? Bydd rhaid i chi ddyfalu...neu ymchwilio!

(OLlE)

'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (4)

December 2, 2015 Owain Evans

Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.

CROSSING THE RUBICON

December 2, 2015 Owain Evans

Crossing the Rubicon...

Er i mi ddarllen a chlywed yr ymadrodd sawl gwaith, nid oedd y syniad lleiaf gennyf beth oedd Rubicon, a beth yn union oedd arwyddocâd y croesi!

Afon yw'r Rubicon. Iŵl Cesar fu'n croesi, yntau a'i filwyr. Wrth groesi'r afon Rubicon, fe groesodd o Gâl i'r Eidal.

Daeth diwedd y Rhyfeloedd Galicanaidd, a gorchmynnodd y Senedd i Iŵl Cesar ddychwelyd i Rufain, heb ei fyddin, heb ei awdurdod. Gwrthododd. I'r gwrthwyneb, yn 49 CC, croesodd y Rubicon, yntau a lleng o filwyr creithiog a blinedig gan frwydro, ond bob un, yn ddiwahân, yn gwbl deyrngar i Cesar. Bellach, wedi croesi'r afon Rubicon, nid gwas y Senedd oedd Iŵl Cesar, ond gelyn; 'roedd gwrthdrawiad â'r Senedd yn anorfod - a thywallt gwaed difrifol yr un modd. Felly y bu, ac Iŵl Cesar a orfu.

Daeth yr ymadrodd Crossing the Rubicon felly i olygu'r un cam hwnnw na ellir byth camu'n ôl rhagddo. Wedi croesi'r Rubicon, nid oes dychwelyd.

Safwn heddiw, ar lan Rubicon o benderfyniad. Mae David Cameron yn ceisio cefnogaeth y Tŷ’r Cyffredin i ehangu’r cyrchoedd awyr yn Irac i Syria, er mwyn ymosod ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Erfyniwn i'n Haelodau Seneddol ddoethineb, fel y penderfynant helaethu, nid crebachu terfynau cyfiawnder a chymod ar y ddaear.

(OLlE)

 

 

CYMDEITHAS DDIWYLLIANNOL EGLWYS MINNY STREET

December 1, 2015 Owain Evans

'Seiat Holi'...

Y Panel? Angharad Mair, Eurfyl ap Gwilym, Betsan Powys, a Vaughan Roderick.

Pwy yn y byd allasai gadw trefn ar y fath banel?

Hywel Gwynfryn!

Diolch i'r pump. Noson hyfryd; cwestiynau safonol, trafodaeth sylweddol. Daeth budd a bendith o'r 'Seiat Holi' hon.

DYDD BYD-EANG AIDS

December 1, 2015 Owain Evans

Y Rhuban Coch.

Dydd Byd-eang AIDS.

Gweddïwn dros ddioddefwyr AIDS drwy’r byd, a’r rhai y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan HIV.

RHAGFYR

December 1, 2015 Owain Evans

Mae'r wybodaeth isod yn gywir yn unol â'r wybodaeth sydd gennym ar y pryd ond cofiwch ddarllen y Cyhoeddiadau ar y Sul er mwyn cadarnhau pob cyfarfod.

'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (3)

December 1, 2015 Owain Evans

Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.

'ANGEL AG ADNOD' ADFENT I'R TEULU (2)

November 30, 2015 Owain Evans

Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021