Chwiliwch heddiw am yr angel hwn a'r adnod hon.
ADFENT 2015
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud:
"Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith
dynion sydd wrth ei fodd."
(Luc 2:13,14)
Angylion - y llu nefol - fydd yn ein tywys ar hyd llwybr yr Adfent eleni. Pan gyflwynir drama’r Geni, gorau po fwyaf o angylion a fydd yn y set fawr! A gorau i gyd os bydd digon o adenydd ar gael, a digon o le i’r angylion eu lledu.
Daw angylion i mewn i hanes geni Iesu ein harglwydd, yn hollol naturiol, a dywedant ddau beth wrthym am Dduw - ei fod yn agos, agos atom ond ei fod hefyd gyfan gwbl, gwbl gyfan ar wahân i ni! Rhaid inni ddal y naill wirionedd a'r llall mewn tensiwn deinamig. Daeth yr angel, ac wedyn y dyrfa o’r llu nefol at y bugeiliaid a rhoi neges iddynt am waredwr, Meseia, Arglwydd, a’u hannog at y preseb: Daeth Duw mor agos â hynny atom, ond...y ‘roedd y gân a glywsant am seinio clod a gogoniant Duw yn y goruchaf ac ar y ddaear tangnefedd. Ni ellid gwahanu’r ddeubeth, na thorri’r anthem yn ddwy. Oni bydd tangnefedd ar y ddaear nis adlewyrchir y gogoniant sydd fry. Ni cheir tangnefedd ar y ddaear nes inni gydnabod gogoniant Duw. Mae’r cyswllt yn anorfod, ac yn annatod.
UWD
Ar y cyfan nid hoff gennyf y gaeaf. Mae’r gaeaf yn llawer rhy dywyll, oer a gwlyb i mi, ond... fe berthyn i’r gaeaf un o’m hoff bethau: uwd. Tardd y cyfan, mae’n siŵr gen i, o aeafau fy mhlentyndod: Ready Brec â gormod o siwgr, bob bore; a phob bore bron iawn fy nhad yn twt-twtian y fath uwd esgus, gan sôn am rinweddau uwd go iawn: ei uwd yntau - a dim ond dad oedd yn medru bwyta’r stwff soeglyd, lwmpiog! Bu yna gyfnod, meddai mam, pan wrthodais fwyta Ready Brec rhagor, gan fy mod i’n ystyried fy hun yn aeddfed ddigon bellach i fwyta uwd dad...pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd (1 Corinthiaid 13:11b). Ildiodd fy nhad, a thrannoeth, o’m mlaen i ‘roedd llond powlen o uwd go iawn. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad yn amlwg i mi a phawb. ‘Roedd dad yn hoffi halen yn ei uwd. Yn rhyfedd iawn, erbyn hyn, fi sydd yn twt-twtian uwd esgus y plant wrth fwynhau uwd go iawn gyda mwy halen nad sydd yn dda i mi. Mi gredaf fod y ffaith ein bod ymdebygu i’n rhieni yn brawf fod gan y Bod Mawr sense of humour!
Digwyddodd rywbeth dechrau’r wythnos. Dydd Mawrth oedd hi. Yng nghanol anhrefn hyfryd amser brecwast, braf oedd cael eistedd wrth y bwrdd a gweld gwraig a phlant o’r diwedd yn llonydd ac yn bwyta'n dawel. ‘Roedd gen i gwpaned o foddion-goffi-cryf, a llond powlen o uwd. Gyda’r llwyaid gyntaf, daeth fy nghamgymeriad y bore hwnnw’n amlwg. Dim halen. Mi es i ôl yr halen, ac allan o barch i’r doctor taenu ychydig bach ohono ar yr uwd - a chan fod yfory bob amser yn ddiwrnod da i ddechrau torri lawr ar bethau - taenu ychydig bach rhagor o halen, a’i gymysgu i’r uwd. Wn i ddim pam, rhaid bod rheswm gwyddonol, ond nid yw ychwanegu halen i’r uwd ar ôl ei baratoi yn creu cystal blas a halen yn gymysg â’r uwd wrth ei baratoi.
Mae yna gysylltiad pwysig rhwng uwd a’r Adfent.
Nid yw ffydd yn gweithio, ni all weithio o gwbl, os mai rhywbeth yr ychwanegwn at fywyd ydyw. Os yw ffydd i weithio, mae’n rhaid iddo fod yn rhan annatod o’r hyn oll ydym, yr hyn oll a wnawn. Mae taenu halen ffydd dros wyneb ein bywyd yn ychwanegu ychydig o flas, Da hynny wrth gwrs, ond mil gwaith gwell y blas o gymysgu halen ffydd i’n bywyd, i’w sylwedd a’i berfedd. Mae’r Adfent, yn union fel y Grawys, yn ein hatgoffa mai annigonol yw taenu ychydig o Dduw dros wyneb pob peth arall sydd yn bwysig i ni. Nid ychwanegiad i’n byw, nid atodiad i’n bywyd mo Duw: ein byw a’n bywyd ydyw: Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod (Actau 17:28). Amod cael gorau Duw yng Nghrist yw cymysgu ei gariad i gymysgedd ein bywyd. Yr unig fyw a ddymuna Iesu o hyd yw byw ynom ni. Nid digon Crist yn haenen dros bopeth arall, rhaid cael Crist yn a thrwy bob peth ein bywyd: y gwaith a’r gweddi, y llonyddwch a’r llafur, yr ymdawelu a’r ymdrechu.
‘Roedd Christina ac Ann wedi deall hyn. Gofyn Christina Rosetti (1830-94):
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
ac yn ateb...
Fy mywyd oll.
(CFf.:466 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964)
Dyma ddyhead Ann Griffiths - yr Adfent mewn cwpled:
O! am fywyd o sancteiddio
sanctaidd enw pur fy Nuw...
(Ann Griffiths, 1776-1805)
(OLlE)
'MALICE'
1982... â finnau’n 13 mlwydd oed; es i gyda Geraint, fy mrawd mawr i Our Price Records yn y dre’. Mae gen i’r hen 45 cynta’ na o hyd - yn scratches i gyd.
https://m.youtube.com/watch?v=YfpRm-p7qlY
Y record gyntaf imi brynu erioed oedd A Town called Malice gan The Jam. Gwych! Bues i’n esgus bod yn Mod am flynyddoedd - llawn gwrthryfel tanllyd yn erbyn pawb a phopeth... nes i mam a dad dodi stop ar y peth. Ond, yr un yw’r dyn a’r bachgen o hyd. Mae’r blynyddoedd yn cuddio, ond nid ydynt yn claddu. Rhyw ddydd, byddaf yn troi fyny i’r oedfa fore Sul ar gefn Vespa, mewn cot parker gwyrdd.
Lle bynnag inni’n byw, dinas, tref neu bentref, mae pawb ohonom yn byw yn A Town called Malice. Y mae pawb heddiw o fewn y dre' galed honno. Aeth byw y tu allan iddi yn amhosibl. Felly, mae angen ychydig o her The Jam ar ein crefydda ninnau:
Time is short
Life is cruel
But it’s up to us to change this town called Malice.
(OLlE)
GWELEDIGAETH
...ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol...
(Paul. Actau 26:19)
Mae gweledigaeth yn bwysig. Rhaid wrth weledigaeth i dorri llwybr newydd ymlaen.
Gofynnodd cyfaill i’r bardd Tennyson (1809-1892) rhywdro What would you wish for most? a’r ateb I would like to have a clearer vision of God.
Mae gweledigaeth yn hanfodol i’r gwir Gristion, ond erys un peth yn bwysicach na’r weledigaeth o Dduw: ufuddhau iddi.
Y fraint a gawn yw cael, yng Nghrist, y weledigaeth hon, a mwy fyth y fraint o ufuddhau iddi.
Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try
o’m crwydro ffôl:
i’th ddilyn hyd y llwybrau dyrys, du
heb syllu’n ôl;
a moes dy law i mi’r eiddilaf un,
ac arwain fi i mewn i’th fyd dy hun.
(George Rees, 1873-1950 CFf.:541)
Datguddia dy hun o’r newydd, O! Dduw, a chysegra ni i’th waith mawr, nawr, drwy Iesu Grist. Amen.
(OLlE)
BETHSAIDA
Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Ni ellid cynnal y bywyd defosiynol heb addoliad y gynulleidfa, a buan y mae addoliad yn colli ei flas heb elfen o ddefosiwn personol. Rhaid wrth allor yn y galon, yn ogystal â’r allor yn y deml. Diben Bethsaida yw datblygu ein bywyd defosiynol ni. Braf a buddiol y cyfarfodydd hyn.
Wedi cyd-ddarllen Salmau 90 a 133, fe’n harweiniwyd gan y Gweinidog mewn astudiaeth a thrafodaeth o weddi Iesu (Ioan 17).
Mae’r weddi’n ymrannu’n naturiol yn dair rhan -
17:1-5 - Tad a Mab
17: 6-19 - Y Mab a’r Disgyblion
17: 20-26 - Y Mab, y Disgyblion a’r Byd.
Tad a Mab
Mae Iesu ymgysegru o’r newydd i ewyllys ei Dad. Mae’r weddi’n yn cael ei hoffrymu yng nghysgod y groes, ond rhagdybir ynddi fuddugoliaeth y groes - y mae’r gwaith sydd o’i flaen eisoes wedi ei gyflawni: Yr wyf wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i’w wneud (17:4).
Y Mab a’r Disgyblion
Yn ail ran y weddi mae Iesu’n eiriol dros ei ddisgyblion: i’r dynion a roddaist imi allan o’r byd (17:6). Drostynt hwy yw wyf yn gweddïo...(17:9). Nid dros y byd yr wyf yn gweddïo...(Ioan 17:9). Nid yw Iesu’n dweud nad oes ganddo ddiddordeb yn y byd, na chwaith yn awgrymu bod y byd yn rhy ddrwg i weddïo trosto. Dweud y mae nad yw’r gweddïo dros y byd ar hyn o bryd. Yn y rhan hon o’i weddi, ei brif ddiddordeb yw anghenion ei ddisgyblion wrth iddynt wynebu’r byd, a hynny hebddo.
Y Mab, y Disgyblion a’r Byd
Yn nhrydedd ran y weddi (20-26) mae’r pwyslais yn newid, a chylch y weddi’n lledu i gynnwys y Mab, Disgyblion a’r Byd. Nid dros y disgyblion yn unig y gweddïa Iesu bellach (17:20): ...ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy. Mae’r byd - pawb, a phopeth ym mhob man - yn wrthrych ddiddordeb a gofal y Gwaredwr.
John Leonard Wilson (1897-1970); Esgob Singapore (1941-1948) a Birmingham (1958-1969).
Wedi cyfnod da o drafodaeth aethom ymlaen i ystyried geiriau a phrofiad John Leonard Wilson (1897-1970), Esgob Singapore (1941-48) a maes o law Birmingham (1958-1969), fel cymorth i garu gelynion, a gweddïo dros y rhai sy’n eich erlid...(Mathew 5:44)
Awgrymodd y Gweinidog fod yr erchyllterau diweddar ym Mharis yn amlygu’r ffaith fod gennym elynion, a hynny dim ond yn sgil y ffaith ein bod â rhan yn niwylliant y Gorllewin. Sut felly mae gweddïo dros y terfysgwyr hyn - sut mae gweddïo dros ein gelynion?
Bu Leonard Wilson yng ngharchar Changi, Singapore dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Arteithiwyd ef yno gan filwyr Siapaneaidd. Fe oroesodd, ac wedi dychwelyd bu’n ymdrin â’i brofiad ar raglen radio. Meddai:
By the grace of God
I saw those men
- not as they were then,
but as they had been.
Once they were children
with their brothers and sisters
happy in their parents’ love,
in those far-off days
before they had been conditioned
by their false nationalist ideas.
And it is hard to hate little children.
So I saw them
- not as they were in the present -
but as they were capable of becoming,
redeemed by the power of God’s love,
and I knew that I should say:
‘Father, forgive’.
Bu trafod mawr ar hyn. Dyma rhai o’r prif bwyntiau:
- Cytunwyd bod gweld y plentyn yn ein gelyn yn gwneud maddau iddo'n haws.
- Rhaid i'r gelyn weld y plentyn yn eraill; hyn, a dim ond hyn all ei atal rhag creulondeb a lladd.
- Rydym mewn trafferth - gofid yn esgor ar ofid, trais ar drais - rhaid wrth ymateb, a rhaid i'r ymateb hwnnw ddechrau gyda ni, a lledu ohonom. Mae ein parodrwydd unigol i gymodi yn sicrhau fod cymod lletach yn bosibl. Mynnwn ddylanwadau ar yr hyn y gallwn ddylanwadu arno, a newid yr hyn sydd o fewn ein cyrraedd i newid, gan gredu bod y newid bychan, 'lleol' hwnnw yn peri newid ehangach, byd-eang.
- Onid oes rhai pethau - erchyllterau - nad oes maddeuant iddynt?
- Rhaid i'r eglwys leol estyn i bobl gyfle a gofod i fynegi'i hofnau a'i harswyd gyda Duw, gyda phobl Dduw.
- Mae llif di-baid o newyddion bellach trwy gyfryngau dirifedi - ond mae'r cymorth i brosesi'r newyddion hynny yn brin iawn. Dylasai hyn fod yn rhan o weinidogaeth yr eglwys leol.
- Er mor 'naïf' ein pwyslais ar ffydd, gobaith, cariad, ni fu erioed y fath angen ar bobl ffydd i ledu, rhannu a chyhoeddi'r grasusau hyn.
Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Bu Bethsaida eto’n fendith.
CAPERNAUM
Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)
Colomen...
Ganed yr aderyn mewn cawell, a thyfodd heb wybod dim am ryddid yr awyr. Un diwrnod, dodwyd hi ar garreg y ffenestr, â’r ffenestr ar agor. Mentrodd, ehedodd; yn wir hedai’n berffaith. Aeth ar ei chylch a’i thro am dipyn fel petai ar adain erioed, ond yn sydyn, dechreuodd ymwylltio, ac o’r diwedd syrthio i’r ddaear. ‘Roedd greddf hedfan ganddi, ond ni wyddai pryd i orffwys ar yr awel, a chymryd hamdden. Holl bwysig, yng nghanol rhuthr ein byw yw mynnu hamdden ysbrydol. Llesol yw ymollwng i dawelwch myfyrdod a gweddi; ymlonyddu yn Nuw gyda phobl Dduw. Dyna ddiben ‘Capernaum’.
Gweddi Dafydd oedd testun ein sylw heno. Ni chafodd brif ddymuniad y brenin hwn ei ganiatáu - ni chafodd adeiladu teml i Dduw. ‘Roedd hyn yn siom mawr i Dafydd. Ond rhyfeddod iddo oedd deal, trwy Nathan, bod Duw am godi tŷ iddo ef: Y mae’r ARGLWYDD yn dy hysbysu mae ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tŷ i ti...( 2 Samuel 7:11), yn hytrach na bod Dafydd yn codi tŷ i Dduw.
Eisteddai Dafydd o flaen Arch y Cyfamod - arwydd o bresenoldeb Duw - dyna ystyr y cymal: ...eistedd o flaen yr ARGLWYDD... (2 Samuel 7:18). Yno, mae’r brenin yn cofio mai Duw sydd wedi ei ddewis i fod yn frenin; Duw sydd wedi ei gynnal, ei gadw a’i gynorthwyo hyd yn hyn. Duw sydd wedi dewis Israel i fod yn Bobl iddo’i hun. Sylweddolai, a chydnabyddai’r brenin ei fod, a’i deulu, a’r bobl yn llwyr ddibynnol ar Dduw. Mae Dafydd yn gweddïo am i’r cymorth a’r gynhaliaeth barhau. Dewis a galwad Duw sydd yn bwysig yn y weddi hon, nid bod Dafydd, yn sgil ei ddoniau, neu hap a damwain wedi llwyddo i lwyddo. Mae’r awdur yn pwysleisio hynny yn ei ffordd o gofnodi’r weddi. Defnyddir y cyfarchiad O! Arglwydd naw o weithiau mewn un adnod ar ddeg! Gwraidd y llwyddant a’r fendith, ddoe, heddiw, ac ymlaen i bob yfory yw Duw. Mae’r thema hon yn ganolog yn y Beibl - mae gan Dduw bwrpas, a dewisa pobl i’w gyflawni.
Pan fydd ein calon yn disgwyl wrth Dduw, yn cydnabod dibyniaeth arno, ac yn ymddiried ynddo, fel yn hanes a phrofiad Dafydd, yna bydd lle i obeithio am gael profi o fendith Duw, yn ein bendithio; ein cynnal, cynorthwyo a chefnogi.
Er mai profiad newydd o hyd yw cwrdd mor hwyr y dydd, gwyddom mai buddiol y cwrdd hwnnw. Ynddo, a thrwyddo, ar derfyn dydd, cawn ryw wastadrwydd meddwl ac enaid.
PIMS AR WAITH
Heno, eto, 'roedd PIMS ar waith yn warws Banc Bwyd Caerdydd. Da oedd cael cwmni Lowri a Lewis - bu pawb ohonom, trwy'r trwch, o'r ieuangaf i'r hynaf yn gweithio a chyd-weithio. Alun Treharne, un o wirfoddolwyr gweithgar Eglwys Minny Street yn y Banc Bwyd, a fu’n tywys 12 o PIMSwyr trwy weithgarwch y sesiwn. Yn gyntaf, sgwrs fer yn egluro sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio. Cyfraniadau o nifer o ffynonellau - eglwysi, ysgolion, archfarchnadoedd ac unigolion; y cyfan yn dod i’r warws lle caiff y nwyddau eu didoli, eu gwirio o ran addasrwydd (heb fod yn rhy hen, pecynnau cyflawn ac ati), ac yna sôn sut y’u dosberthir i’r chwe canolfan ar draws y ddinas... yn Llanedern, Llaneirwg, Splot, Trelái a’r Waun Ddyfal, ynghyd â’r City Temple. Yna, daeth yn amser i dorchi llewys! Yn gyntaf, dyddio pob nwydd sydd wedi dod i law. Rhaid yn gyntaf weld a ydy’r bwyd yn dderbyniol i’w rannu - chwilio felly am y ‘Best Before’. Os nad yw’n gyfredol, rhaid ei wahanu; nid yw’n dderbyniol i’r Banc Bwyd rannu bwyd a all fod yn hen. Yna, os yn gyfredol, labeli pob tin, pecyn a bocs gyda’r dyddiad priodol - hyn yn gymorth i sicrhau pa fwyd sy’n mynd allan o'r warws gyntaf. Braf a buddiol yw torchi llewys: ein cyffes mewn cymwynas a'n credo mewn caredigrwydd. Bydd PIMS yn ôl yn y warws yn y flwyddyn newydd.