Gafael ac abwyd; afon a chlogfaen; cawio a chlymu; plu suddo a chlip, carabiner a phlu sych; Llyn Ogwen a Chaeredin; cystadleuaeth a thrwydded. Noson felly bu heno yng Nghymdeithas Eglwys Minny Street - Shani ac Alun; y ddau a'i ddiléit - y naill yn dringo, y llall yn pysgota. Noson ddifyr, gynnes hwyliog - mawr ein diolch i'r ddau.
TRI RHYBUDD...
...cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi.
Ceir tri rhybudd yn 2 Timotheus 3: 5...
GALL CREFYDD AR EI GORAU DDIRYWIO’N GYFLYM!
A chaniatáu mai un o lythyrau olaf y Testament Newydd yw hwn, syndod meddwl fod perygl dirywiad eisoes yn y golwg. A’r atgof am Bentecost yn fyw, ymddengys tuedd yn barod i syrthio’n ôl i grefydd is. Digwyddodd hyn drosodd a throsodd yn hanes yr Eglwys. Cofiwn, felly mae celfyddyd yw crefydd ar ei gorau, ac amod ei chadw yw gwyliadwriaeth barhaus ac ymgysegriad cyson.
HAWDD YW BODLONI AR GREFYDD SYDD WEDI DIRYWIO!
Y mae syrthio’n ôl i grefydd is yn beryglus am ei bod yn bosibl dygymod â hi. Yn wir, y mae’n bosibl dod mor fodlon nes colli’r gallu i ymateb i’r uchaf. Cofiwn, felly mai peth peryglus eithriadol yw crefydd uchel sydd wedi dirywio.
MAWR YW’R GALW AM GREFYDD RYMUS!
Grym yw gair mawr y Testament Newydd. Rhyddhad nerthoedd ysbrydol yw ei syniad am Gristnogaeth. Cofiwn, felly nad syniad i’w gofleidio yw Cariad Duw, ond gallu y mae’n rhaid ildio iddo. Ildio i gariad Duw yw grym crefydd. Rhith yw popeth arall!
N’ad im fodloni ar ryw rith
o grefydd, heb ei grym,
ond gwir adnabod Iesu Grist
yn fywyd annwyl im.
(Dafydd Morris, 1744-91. CFf.: 291)
(OLlE)
NEWYDDION Y SUL
Tachwedd...daw’r flwyddyn i afael y gaeaf ym mis Tachwedd. Pur anaml inni’n barod i’r gaeaf; fe ddaeth eleni eto’n sydyn, a phrofi cylchrediad y gwaed yn ein gwythiennau a lluchio glaw yn erbyn ein ffenestri. Nid hoff gennym y gaeaf a’i gyfeillion. Mae curiad calon natur yn arafu yn y gaeaf; dylem ddiolch felly am bob arwydd o ynni ym mywyd yr eglwys, ac am bob ffyddlondeb i achos Iesu Grist yn ein plith. 'Rydym yn ddyledus i’r rheini ohonom sydd yn hynod weithgar, rhai yn yr amlwg, ac eraill, yn llawn mor ddyfal, o’r golwg.
Thema’r Oedfa Deulu oedd y rhif ‘3’; ond cyn mynd i'r afael â '3' a'i arwyddocâd, gwahoddwyd ni gan y Gweinidog i ymdawelu, a chofio'n dawel teuluoedd ac anwyliaid teithwyr yr awyren KGL9268. 'Does dim geiriau cymwys, cynhaliwn y galarus â’n gweddïau.
Wedi’r Gweinidog dderbyn adnodau’r oedolion, plant a phlantos, arweiniwyd y defosiwn gan Shani a Connor. Cafwyd ganddynt blethwaith o adnod, stori a gweddi, ac yn echel i’r cyfan: Tachwedd.
Enw drwg, mynnai Connor sydd i fis Tachwedd. Mis diflas y glaw yw mis Tachwedd; mis a’r Nadolig mor agos, ac eto...mor mor bell i ffwrdd yw mis Tachwedd. Mis du yw Tachwedd, a gyda hynny fe’n harweiniwyd ganddo i wawl y weddi fach hon o eiddo Ieuan S. Jones (CFf.:606):
O! cadw ni, ein Duw,
mewn dyddiau du,
rhag colli rhamant byw
dan ofnau lu.
Ychwanegodd Shani mai enw hen iawn ar fis Tachwedd yn Lloegr oedd Blodmonath, mis y gwaed; ac yn wir, hen air am ladd yw ‘tachweddu’! Ond, mae ambell i beth na ellir ei ladd, byth!
Wrth gofio’i goncwest ef
y trydydd dydd,
tydi, O! Frenin nef,
cryfha ein ffydd.
Gŵyl yr Holl Saint y gelwir heddiw. Tanlinellwyd, gan Connor, y gwirionedd holl bwysig nad Gŵyl i gofio’r Saint mo heddiw; wedi'r cyfan mae gan bob Sant ei ddydd gŵyl ei hun! ‘Roedd y gynulleidfa gegrwth wrth i Shani ag yntau rhestri, bob yn ail, yr holl Seintiau Cymreig sydd â heddiw yn ddygwyl iddynt: Aelhaern, Bigal, Cadfan, Caffo, Callwen, Cedol, Clydau, Clydwyn, Cynfelin, Dwna, Gwenfyl, Gwenrhiw, Gwynlleu, Gwrin, Gwryd, Gwyddin, Gwynnoro, Morhaearn a Rhwydrys! Mae Dydd Gŵyl yr Holl Saint yn gyfle i bobl fel ni cael dathlu pobl fel ni. Heddiw yw dydd gŵyl yr holl saint - dyma ein dydd gŵyl NI!
Rho hyder yn y gwir
i deulu’r ffydd
a gweledigaeth glir
o’r nefol ddydd. Amen.
Bwriad y Gweinidog oedd mynd i’r afael â chwe thriawd, ac ‘roedd pump ohonynt, meddai ar goll yng nghanol y cymysgedd isod o eiriau.
Fesul sedd, trwy’r trwch, buom yn ddyfal yn gosod y triawdau mewn trefn:
Aaron, Moses a Miriam: TEULU.
Pedr, Iago, Ioan: FFRINDIAU.
Sadrach, Mesach, Abednego: DEWR.
Ffydd, Gobaith, Cariad: PWYSIG.
Tad, Mab ac Ysbryd Glân - ANODD DEALL.
Wedi cael y cyfan mewn trefn, datblygwyd y neges: Mae eglwys Minny Street yn DEULU; FFRINDIAU Iesu Grist ydym. Fel Sadrach, Mesach, Abednego: rhaid bod yn DDEWR mewn Ffydd; mentrus mewn Cariad, hyderus mewn Gobaith, gan mai Ffydd, Gobaith, Cariad yw’r pethau PWYSICAF o’r holl bethau pwysig. Er mai ANODD DEALL yw’r Drindod Tad, Mab ac Ysbryd Glân, rhaid cofio cofio mae Cariad yw’r tri yn un, a’r un yn dri: cariad sydd ynom, amdanom a thrwom yn gweithio bob amser.
Daeth yn amser i ddod ynghyd wrth y Bwrdd. Cafwyd cyfle i lawenhau gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12: 15). Estynnwyd ein cydymdeimlad â’r galarus yn ein plith; ein dymuniadau gorau i ddau yn dechrau ar fywyd newydd gyda’i gilydd fel gŵr a gwraig a'n llongyfarchiadau gwresog i rieni drilliaid newydd-anedig! Cofiwyd am gyfeillion a fu o dan gwmwl afiechyd a gwendid yn ystod y mis aeth heibio. Dymunwyd iddynt adferiad buan, ac ymwared o’i anhwylderau.
Trwy gyfrwng y triawd olaf fe’n harweiniwyd at y Bwrdd: Les Misérables (1862); Notre Dame de Paris (1831) a The Toilers of the Sea (1866). Victor Maire Hugo (1802-1885) sydd biau’r tair nofel, ac yn fras, testun y gyfres yw ofn. Mae’r cyntaf Notre Dame de Paris (1831), yn ymdrin ag ofn pobl o Dduw. Mae Les Misérables yn mynd i’r afael ag ofn pobl o’i gilydd. Yr olaf yw The Toilers of the Sea (1866) ac mae honno yn ymdrin ag ofn pobl o natur. Mynnai’r Gweinidog fod ofn rywbeth ar bawb. Mae pryder yn pwyso, a gofid yn gwasgu arnom i gyd, o’r ieuengaf i’r hynaf. Canol ein ffydd, meddai yw derbyn nad dal ein gafael ar Dduw mo Iachawdwriaeth, ond yn hytrach, Duw yn gafael ynom.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu'n gynnar iawn beth yw arwyddocâd a gwerth y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd y geirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i ddiben Oedfa Gymundeb Foreol i gynnwys, ac felly addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.
Yn yr Oedfa Hwyrol, cawsom ein tywys gan ein Gweinidog i un o ddarnau mwyaf cyfarwydd a phwysig y Testament Newydd: Philipiaid 2: 1-11, gan ganolbwyntio ar
...yr enw mwyaf mawr
erioed a glywid sôn...
(William Williams, 1717-91; CFf.:312)
...yr enw sydd goruwch pob enw... (Philipiaid 2:9): ‘Iesu’
‘Iesu’ oedd yr enw a gafodd yn faban. Bydd (Mair) meddai’r angel wrth Joseff, yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau (Mathew 1:21). ‘Iesu’: Gwaredwr. I werthfawrogi anferthedd yr enw sydd goruwch pob enw, rhaid sylweddoli anferthedd yr hyn oll y mae Iesu’n gwaredu ni rhagddynt.
‘Iesu’ oedd yr enw a enillodd fel dyn ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r ar groes (Philipiaid 2:8). Cafodd Iesu ei enw y tro cyntaf mewn addewid: ...gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. Nid digon oedd cael yr enw ‘Iesu’; ‘roedd yn rhaid iddo ennill yr enw hwnnw; ei haeddu, a’i lenwi pob modfedd. I achub hyd yr eithaf, ‘roedd yn ofynnol iddo fod yn ufudd hyd yr eithaf i uchel alwadau pwrpas Duw. A dyna a fu, yn ufudd: ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r ar groes.
Gallasai Paul fod wedi gadael y stori gyda’r Croeshoeliad, ond nid yw’r stori’n gyflawn felly. Am hynny tra-ddyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw...(Philipiaid 2:9). Y mae’r ffydd sy’n brin o gydnabod arglwyddiaeth ‘Iesu’ ar bob agwedd o fywyd yn ffydd sydd yn brin o iachawdwriaeth. Mae’r enw sydd goruwch pob enw...mor wefreiddiol, a’r weledigaeth mor enfawr, a’r gwirionedd mor gynhwysfawr fel nad oes modd i’r cread mawr ei hun a’i holl alluoedd beidio ymollwng i ganu clodydd yr hwn sydd yn teyrnasu: ...fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac yn y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad (Philipiaid 2:10,11).
Yr ‘Iesu’ hwn: Iesu’r preseb; Iesu’r groes; Iesu’r Orsedd sydd o’n plaid. Felly
...y clod, y mawl, y parch a’r bri
fo byth i enw’n Harglwydd ni.
Diolch am fendithion y Sul. Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf. Bydd yr Oedfa Foreol Gynnar (9:30) dan ofal Menna. Yn yr Oedfa Foreol (10:30), â hithau’n Sul y Cofio, testun ein Gweinidog fydd ...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu (Galatiaid 3:28b WM). Parhawn gyda’r gyfres ‘Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70' yn yr Oedfa Hwyrol (6) gan droi at Marc 1:1-13. Boed bendith.
Cyfrannu Ail Dunnell o Fwyd. Her a Hwb mis Tachwedd!
Fel eglwys 'rydym yn anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd erbyn y Nadolig. Diolch i haelioni aelodau, eisoes danfonwyd dros 700 kg o fwyd i’r warws yn Sblot. Rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd y nod erbyn y Nadolig ond i sicrhau hynny bydd angen ymdrech arbennig ym mis Tachwedd i roi hwb ymlaen.
Byddwn fel arfer yn cyfrannu tua 100 kg o fwyd y mis i’r banc bwyd. Ym mis Tachwedd byddwn yn anelu at ddyblu hynny a chyfrannu o leia 200 kg. Mae hyn yn dipyn o her, and awn amdani gan gofio bod dros 10,000 o bobl wedi derbyn bwyd gan Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y flwyddyn 2014/15 a bod dros gant o bobl wedi curo ar ddrws y banc bwyd yn y brifddinas ar noswyl y Nadolig y llynedd mewn argyfwng.
Byddwn yn casglu bwyd ar ail Sul y mis - 8 Tachwedd – ond mae modd rhoi bwyd yn y blychau casglu yn y festri ar unrhyw adeg. Gan fod warws y Banc Bwyd fel arfer yn derbyn hen ddigon o fwydydd Nadoligaidd (siocled, teisennau ayyb) yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, gofynnwyd i ni ganolbwyntio ar y bwydydd sylfaenol y mae galw cyson amdanynt, sef, ar hyn o bryd: sudd ffrwythau UHT, pasta a saws (pasta ‘n sauce), noodles, reis sawrus (savoury rice), pwdin sponge a jam.
Cofiwch hefyd fod modd i chi gefnogi’r ymgyrch hon trwy gyfrannu arian. Gellid defnyddio cyfraniadau ariannol i brynu bwyd priodol.
Er na ddaethom i'r brig, da gennym gyrraedd rhestr fer Premier Digital Awards 2015/Most Engaging Small Church Site.
PREGETH NOS SUL
...a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw... (Philipiaid 2: 9)
...yr enw mwyaf mawr erioed a glywyd sôn
(William Williams, 1717-91; C.Ff.: 312)
Iesu: yr enw a gafodd yn faban. Bydd (Mair) yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau (Mathew 1: 21). Iesu - Gwaredwr. Cynigia pob enw, teitl a disgrifiad a roddir ar Iesu ffenestr ar ryw agwedd ar ei berson, cymeriad, gweinidogaeth ac arwyddocâd. ‘Roedd rhai enwau yn barod ar ei gyfer cyn ei eni: ‘Wele’r dyddiau yn dod,’ medd yr Arglwydd, ‘y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu’n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir...’ (Jeremeia 23:5); Y mae’n porthi ei braidd fel bugail, ac â’i fraich yn eu casglu ynghyd (Eseia 40:11). Pan anwyd Iesu, bu iddo lanw pob patrwm a dynnwyd mewn hiraeth a gobaith, bu iddo hefyd ddileu pob patrwm; trowyd popeth a’i ben i waered! Yn ‘Iesu’ daw’r holl enwau, disgrifiadau a theitlau ynghyd: yr enw sydd goruwch pob enw. Yr enw hwn sy’n datgan mai penllanw pob dyhead a phob dyheu yw Iesu; ein Gwaredwr Frenin, ein Bugail Waredwr. Er bod ‘Iesu’ yn enw ddigon cyffredin ym myd Iddewig y cyfnod daeth yr un ‘Iesu’, ymhlith sawl ‘Iesu’ arall, i fod yr Iesu. Ef yn unig a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. I werthfawrogi'r enw sydd goruwch pob enw, rhaid sylweddoli anferthedd yr hyn oll y gwareda Iesu ni rhagddynt. Nid yw’r enw ‘Iesu’ yn cyfrif ond i’r rheini sy’n sylweddoli maint y waredigaeth a ddaw trwyddo, a’r trwch o fendithion a geir ynddo a ganddo.
Iesu: yr enw a enillodd fel dyn. ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau...ar groes (Philipiaid 2:8). Cafodd Iesu ei enw y tro cyntaf mewn addewid: ...gelwi ef Iesu, am mai ef... Un peth yw cael enw, peth llawer mwy yw ennill a haeddu’r enw hwnnw. I deilyngu’r enw sydd goruwch pob enw rhaid oedd i Iesu waredu. I achub hyd yr eithaf, rhaid oedd i Iesu fod yn ufudd hyd yr eithaf i uchel alwadau pwrpas Duw. Cystal ‘ufudd’ â’r un gair i grynhoi’r cyfan a olyga ymgnawdoliad a bywyd, gweinidogaeth a dysgeidiaeth, marw, atgyfodiad ac esgyniad Iesu. Atebodd y galwadau i gyd; cynnwys yr enw ‘Iesu’ y cyfan. Ymgais i ddisgrifio gwahanol agweddau o’i waith oedd y gwahanol deitlau, disgrifiadau ac enwau. Diystyr hefyd yw taeru fod ei farwolaeth yn bwysicach na’i ymgnawdoliad, neu ei esiampl yn bwysicach na’i ddysgeidiaeth. ‘Roedd pob agwedd o waith Iesu fel Gwaredwr yn angenrheidiol. Yn y cyfan, gwas ufudd Duw ydoedd: Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol (Philipiaid 2:8). Bu’n ddigon gwrol i gyhoeddi’r egwyddor mai gogoniant bywyd yw gwasanaeth gostyngedig. Nid hawdd i Iesu oedd ufuddhau bob amser: Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni... (Hebreaid 4:15). Cafodd Iesu ei demtio i beidio mynd yn ei flaen ar lwybr ufudd-dod, ac yntau’n gwybod fod llwybr ufudd-dod yn arwain at Galfaria. Nid arwahanrwydd Iesu a’i gwna’n Waredwr. Â chymaint yn ein tynnu a’n gwthio ar hyd ffordd y gwyddom a fydd yn loes i mi (Salmau 139:24), daw ein gallu i orchfygu gan yr hwn a orchfygodd yr hyn oll a fu yn ei dynnu a’i wthio oddi ar y ffordd ei gwaredigaeth ni.
Iesu: yr enw a geidw fel Arglwydd pawb a phopeth. ...fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef... ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd (Philipiaid 2:10-11). Am iddo roddi ufudd-dod perffaith ei hun, gall Iesu hawlio’n ufudd-dod ni. Dyna sail ei awdurdod. Ufudd-dod ewyllysgar yw hwn; nid caethiwed ond rhyddid i fod yr hyn oll y bwriadwyd i ni fod: plant Duw yng Nghrist. Nid Arglwydd y sawl sydd yn ei gydnabod yn Arglwydd yw Iesu ond Arglwydd pob peth, a phawb. Cysur, ac yn bwysicach, cymorth i fyw a mentro i’r Eglwys Fore oedd sylweddoli mai dyna oedd Iesu: Gwaredwr. Ein gobaith ninnau yw'r enw: Iesu. Iesu’r preseb ... Iesu’r groes...Iesu’r Orsedd...yr un, bob un - ein Iesu ni, Iesu i ni, Iesu trosom. ... y clod, y mawl, y parch a’r bri fo byth i enw’n Harglwydd ni. (William Williams; ibid)
TACHWEDD
Mae'r wybodaeth isod yn gywir yn unol â'r wybodaeth sydd gennym ar y pryd ond cofiwch ddarllen y Cyhoeddiadau ar y Sul er mwyn cadarnhau pob cyfarfod.
‘REVIVAL’ a ‘REFORMATION’
'Reformation Day': Cofio Martin Luther a'i ’95 Pwnc yn erbyn Maddeuebau’
'Thesentűr' (Drws y 95 Pwnc) Schlosskirche, Wittenberg. (Llun: BBC)
‘Roedd angen arian yn fwy nag erioed ar y Pab tua’r flwyddyn 1517. ‘Roedd yn fwriad ganddo adeiladu eglwys wych, gostfawr Sant Pedr yn Rhufain, ac er mwyn codi’r swm enfawr o arian i dalu amdani caniatâi i swyddogion eglwysi fynd o amgylch Ewrop i ‘werthu maddeuant.’ Os pechai dyn, y cyfan oedd yn angenrheidiol iddo oedd talu swm o arian, a byddai ei bechod, meddid, wedi ei faddau. Ni allai Martin Luther oddef hyn, ac ar Hydref 31, 1517 gosododd Luther ei ’95 Pwnc yn erbyn Maddeuebau’ ar ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg; ar y drws hwnnw y rhoddid hysbysiadau’r Brifysgol. Synnai pawb at y weithred feiddgar; ond mentrodd Luther ymhellach gan gyhoeddi ei fod yn barod i amddiffyn y gosodiadau hyn yn gyhoeddus. Y weithred hon oedd catalydd y Diwygiad Protestannaidd.
"Y mae gan y Saeson gwell enw na ni arnynt. Soniwn ni am Ddiwygiad Evan Roberts a’r Diwygiad Protestannaidd. Gair y Saeson yw ‘Welsh Revival’ a ‘Protestant Reformation’. Nid reformations yw’r cynyrfiadau a gofia rhai ohonom ni ond revivals. Y mae gwahaniaethau mawr rhwng revival a reformation, a reformation yn unig a gyferfydd â’n hangen heddiw."
(E.Tegla Davies; 1880-1967. ‘Y Ffordd’, Gwasg y Brython; 1959)
Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw,
ein tarian a’n harfogaeth;
o ing a thrallod o bob rhyw
rhydd gyflawn waredigaeth.
Archelyn dyn a Duw
llawn o gynddaredd yw,
ei lid a’i ddichell gref
yw ei arfogaeth ef;
digymar yw’r anturiaeth.
Ni ellir dim o allu dyn:
mewn siomiant blin mae’n diffodd;
ond drosom ni mae’r addas Un,
a Duw ei hun a’i trefnodd.
"Pwy yw?" medd calon drist:
ein Ceidwad Iesu Grist,
Tywysog lluoedd nef,
ac nid oes Duw ond ef;
y maes erioed ni chollodd.
(Martin Luther, 1483-1546 cyf. Lewis Edwards, 1809-87; CFf.:121)
“Bydd drugarog wrthyf, O! Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi, dilea fy meiau; golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod” Amen
(Salm 51: 1-2)
'PATAGONIAN TOOTHFISH'
Y 'Chilean Sea Bass' neu'r 'Patagonian Toothfish'
Un o bleserau pennaf bywyd yw rhannu bara beunyddiol - eistedd wrth bryd o fwyd a rhannu cwmni cysurlawn a sgwrs dda.
Cefais gyfle yn ystod yr wythnos i ddal i fyny â hen gyfaill cyfnod coleg. Buom ers tro mewn cysylltiad trwy e-byst a negeseuon destun, ond gan ei fod ar ymweliad â Chaerdydd, cawsom gyfle i ddal i fyny’n iawn fel petai: wyneb yn wyneb dros ginio. Bwyty Eidalaidd braf, ac ‘roedd blys pysgodyn arnaf. Troi at yr adran bysgod: Chilean Sea Bass. Hyfryd. Mynegais fy awydd am y pysgodyn hwnnw, a dyna ddechrau gofidiau. Un o nodweddion cymeriad fy nghyfaill yw bod ganddo stôr enfawr o wybodaeth cyfan gwbl ddiangen, a chyn i mi cael cyfle i droi llif y sgwrs, meddai rywbeth tebyg i hyn: Do you know, Owain, ‘Chilean Sea Bass’ is a made up name for marketing a really rubbish fish - it’s all a marketing strategy that turns very undesirable fish into palatable new commodities for restaurants? ‘Google’ it... Mynnais nad oedd amser, nac amynedd gennyf i fynd i chwilio am y fath wybodaeth ofer. Daeth â’i ffon felly, o’i boced, a chwilio, ac wedi chwilio, rhannu’r ffrwyth ei ymchwil sydyn â mi: Enw go iawn y ‘Chilean Sea Bass’ yw’r ‘Patagonian Toothfish’, nid Bass mohono, a dim ond nawr ac yn y man, pan aiff ar goll y mae’r Patagonian Toothfish yn nofio’r dyfroedd ger Chile. Lee Lantz, gwerthwr pysgod o Los Angeles, mae’n debyg sydd yn gyfrifol am hyn o dwyll! Diolch byth, daeth yr amser i archebu!
Beth sydd mewn enw? Mae mwy o rym mewn enw nag y gwyddom. Nid label mohono. Pan ddywedwyd wrth Joseff y dylai enwi ei fab bychan yn ‘Iesu’, (Mathew 1:21) awgrymir gan Gabriel, enw â phwrpas iddo. Ystyr ‘Iesu’ yw ‘Mae Duw yn achub’. Mae’r enw ‘Iesu’ yn dweud y cyfan oll a’r oll yn gyfan sydd angen dweud am yr Arglwydd Iesu Grist.
Daw adegau pan ‘dw i’n gwbl argyhoeddedig mai Patagonian Toothfish ydwyf, a bod yn rhaid i mi argyhoeddi pawb arall mae Chilean Sea Bass ydwyf mewn gwirionedd. Onid ydym yn gwario cymaint o’n hamser, amynedd, egni yn marchnata ein hunain? Myn ein ffydd nad oes yn rhaid wrth y marchnata hwn. Daeth Duw atom, daeth atom i’n hachub, a chalon yr achubiaeth honno yw bod Duw yn ein caru. Plant Duw ydym; mae pob un ohonom yn blentyn i Dduw. Dyma ein gwir hunaniaeth - dyma beth ydym. Yr unig beth sydd yn ofynnol gennym yw derbyn hyn o wirionedd, a byw o’r herwydd yng ngoleuni anniffodd y wybodaeth honno.
Gan mai ystyfnig ydwyf o natur, archebais y Patagonian Toothfish, ac yn wir, 'roedd yn flasus iawn, iawn.
(OLlE)
'...YR ENW MWYAF MAWR...'
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i...(Mathew 18:20a WM)
Y mae ystyr arbennig i’r gair ENW yn y Beibl.
ENW Crist yw ei gymeriad, ei urddas, ei awdurdod, a’i bersonoliaeth gyfoethog lawn a dwyfol.
ENW Crist yw pob peth a wnaeth ac a wna, popeth a lefarodd ac a lefara.
ENW Crist yw pob addewid fawr a roddodd erioed.
ENW Crist yw Bethlehem a Chalfaria a’r Bedd Gwag.
Ymgynnull yn yr ENW felly yw ymgynnull gan gyffesu holl fawredd gwyrthiol ein Harglwydd Iesu.
Ymgynnull yn yr ENW yw ymgynnull gan wybod bod yr holl fawredd gwyrthiol sydd yng Nghrist yn cyffwrdd â’n hangen, gwendid ac anobaith.
Pan gofiwn hyn onid trist iawn yw’r ystrywiau a wneir i geisio denu pobl i addoli, a’u newid o fod yn bobl yr ENW i fod yn bobl yr 'enwau'.
Nid oes hawl gennym i achwyn dim am fychander y cynulliad os ydym yno yn yr ENW - cabledd ydyw i neb ddweud mai cynulliad bach ydyw, oherwydd YNO yn y capel diwres a moel ei furiau a chaled ei seddau, y mae holl adnoddau’r Crist byw ar waith!
Sicrha pawb ohonom mai buddugoliaeth Iesu yw ein buddugoliaeth ni - dyma warant ein ffydd. Amen