Ein helusen fel eglwys eleni yw Pedal Power: The Cycling Charity For All, a 'Beic i Bawb' oedd man cychwyn Rhiannon. Dyma un o ffyddloniaid newydd PIMS: Ifan (a diolch i Tomi ac Erin am eu cymorth parod) ar gefn beic, â’r holl gêr angenrheidiol ganddo: gwisg lachar, golau ffrynt a chefn; cloch a helmed...a chan Rhiannon? Llawlyfr. Clamp o lyfr mawr: 'Rheolau'r Ffordd Fawr'.
Soniodd Rhiannon am y tebygrwydd sydd rhwng taith ar feic â’n taith trwy fywyd. Mae paratoi i’r daith yn bwysig. Cawsom, pawb ohonom ein paratoi gan deulu a theulu’r eglwys, gan athrawon a chymdogion. Mawr ein diolch i’r rheini a fu yn ein gosod ar ben ffordd; (Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith...Diarhebion 2:6).
Mae’r Llawlyfr yn rhoi’r cyfarwyddiadau. Cawn gyfarwyddyd gan bobl dda a doeth; a phwysig hynny; ond cawn gyfarwyddyd hefyd gan y Beibl.
Dyma Feibil annwyl Iesu...
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd
drwy adnabod Iesu Grist.
(priodolir i Richard Davies, 1793-1826; CFf.:198)
Mae angen helmed i fod yn ddiogel; ac mae angen map, rhag colli’r ffordd; Dysg i mi dy ffyrdd, O! Arglwydd, arwain fi ar hyd llwybr union...(Salm 27:11). Rhaid hefyd, wrth olau i oleuo’r ffordd o’n blaenau (Y mae dy air yn llusern i’m troed...Salm 119:105), a phwysig iawn yw bod eraill yn gweld ein golau ni (...boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron dynion...Mathew 5:16). Mae cloch yn ddefnyddiol ar brydiau, er mwyn i eraill gael gwybod ein bod ar y ffordd. Nid ein ffordd ninnau mohoni. ‘Rydym yn rhannu’r ffordd ag eraill, ac mae angen cwrteisi (Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel brawdoliaeth. Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch...Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Rhufeiniaid 12:10 a 16a). Weithiau mae'r llwybr yn anodd, ond rhaid dal ati, a dal ati i ddal ati, er mwyn cyrraedd y nod. Llesol yw cymryd hoe fach weithiau - dod i’r Cwrdd; addoli, gweddïo, ymlonyddu a sylwi ar fendithion anghyffredin ein byw bob dydd. Ar adegau hefyd, mae'r llwybr yn mynd am i fyny, a’r teithio’n anodd iawn...
Er i’r llwybr fod yn faith
bydd yn wrol, blin neu beidio...
(Norman Macleod, 1812-72 cyf. Ben Davies, 1864-1937; CFf.:735)
...ond rhaid cofio hyn: â ninnau wedi cyrraedd y top! O! Am hwyl wrth fynd goriwaered! Mae cael damwain, meddai Rhiannon, yn beth diflas, ond y cyngor bob amser yw dringo ‘nol i’r cyfrwy, dysgu gwers, a bwrw ymlaen.
Mae beic yn gadael ei farc ar y llwybr - gwnawn ninnau'r un modd: ein cyffes mewn cymwynas, ein credo mewn caredigrwydd.
Dod i mi galon well bob dydd
a’th ras yn fodd i fyw
fel bo i eraill drwof fi
adnabod cariad Duw.
(Eifion Wyn, 1867-1926; CFf.:681)
Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; a chasglu nwyddau rhagor i ddod â ni mymryn eto’n nes at yr Ail Dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol, â’r Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau 'Efengyl Marc a’r flwyddyn 70'. Cytunir mai hon yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig a...cholli. Bu methiant, siom a cholledion enfawr; do, hyn i gyd, ac wedyn dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml; echel y ffydd Iddewig. Yr Ymerodraeth a orfu. Bwriad y gyfres hon yw amlygu arwyddocâd cyd-destun ysgrifennu Efengyl Marc i bobl ffydd yng Nghymru heddiw. Testun ein sylw heddiw oedd yr adnodau astrus rhain o bennod 12:
Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, ‘Sut mae’r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd? Dywedodd Dafydd ei hun, trwy’r Ysbryd Glân: ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed."’ Y mae Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd; sut felly y mae’n fab iddo?’ Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno’n llawen. (12:35-37).
Dyfynnir adnod agoriadol Salm 110 gan Iesu: Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, ‘Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. (Salm 110:1 WM.)
Mae’r ARGLWYDD gyntaf mewn print bras. Pam? Defnyddir ARGLWYDD lle bynnag y gwelir, yn yr Hebraeg gwreiddiol, enw Duw; pedair llythyren - yod, heh, vod, heh - y tetragram. Beth a wnelo hyn a ni? Ydi hyn wir yn bwysig?!
Wrth dynnu sylw’r ysgrifenyddion - esbonwyr a dehonglwyr yr Ysgrythurau at y tetragram - yod, heh, vod, heh - enw Duw, mae Iesu Efengyl Marc yn gwthio’r gynulleidfa wreiddiol a ninnau gyda hwy, yn ôl i lyfr Exodus, ac yno, yn y drydedd bennod mae Duw yn enwi ei hun: Ydwyf yr hyn ydwyf (3:14) Yn ramadegol, nid yw’r amser presennol yn bodoli yn Hebraeg y Beibl. Mae’r enw Ydwyf yn yr amser amherffaith, felly mae ‘Byddaf’ yn nes ati. Byddaf yr hyn a fyddaf. Nid Deddfroddwr statig mo Duw, ond datblygiad parhaus, llif egniol o gariad ydyw.
Mynnai Marc fod y Deml wedi ei dinistrio, gan mai statig ydoedd. Crefydd statig, crefydda trwm, anhyblyg yn ceisio gwasanaethu Duw byw, deinamig. Mae crefydd yng Nghymru heddiw yn statig; yn styc. Cyfrinach cael bod eto’n rhydd yw ildio o’r newydd i Byddaf yr hyn fyddaf. Mae’r ildio hwn yn galw am ffydd feiddgar, cariad mentrus, a gobaith gwydn, ac o ildio iddo, daw ein gobaith yn fwy gwydn, ein cariad yn fwy mentrus, a’n ffydd yn fwy beiddgar.
Diolch i Marian am arwain ein gweddïau yn yr Oedfa. Benthycwyd geiriau'r drydydd emyn yn gyfrwng i gofio am y galarus a'r dolurus yn Ankara, Twrci.
O! Dduw, ein craig a'n noddfa,
rho nawdd i'r gwan a'r tlawd...
gwasgara'r rhai rhyfelgar
sy'n hoffi trin y cledd,
a boed i fwyn frawdgarwch
gyfannu'r byd mewn hedd.
(D. Miall Edwards (1873-1941; CFf.:830)
Ein braint heno, oedd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser yn Eglwys Ganol y Ddinas (URC) Windsor Place. Ein cyfaill y Parchedig Ddr. R. Alun Evans oedd y pregethwr gwadd, a chawsom ganddo bregethu gwir afaelgar, a phregeth bwysig. Testun y bregeth oedd yr adnod hon o lythyr llawen Paul at yr Eglwys yn Philipi: Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy'r hwn sydd yn fy nerthu i (4:13).
Man cychwyn naturiol ddigon y pregethwr oedd y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Ffrainc. Dyma ddeg dyn ar hugain wedi rhoi o'u heithaf i ennill yr ornest. Bob un yn ymgorfforiad o'r "ewyllys i lwyddo".