(OLlE)
GWEDDI
Dyro i ni, O! Dduw, weledigaeth o’n gwlad fel y gallasai fod.
Gwlad cyfiawnder, lle ni niweidia neb ei gymydog, a gwlad lle nad yw drygioni yn llygru nac yn tlodi pobl.
Gwlad brawdgarwch lle y sefydlir llwyddiant ar sail gwasanaeth, ac anrhydedd ar deilyngdod.
Gwlad heddwch, lle y gorffwys trefn ar gariad ac nid ar rym arfau.
Clyw, O! Arglwydd, weddi ddistaw ein calonnau y daw’r dydd y bydd harddwch, cyfiawnder a thangnefedd yn nodweddion bywyd y cenhedloedd. Amen
TAITH GERDDED GYNTAF Y TYMOR!
Dyma daith gerdded i dorri’r garw, ein taith gerdded gyntaf wedi toriad dros yr haf.
Taith hamddenol o gwmpas llyn Parc y Rhath yn dilyn paned o goffi yn y bwyty ger y llyn. Gan fod ein taith yn cyd-ddigwydd â ‘Bore coffi mwya’r Byd’ er budd gwaith nyrsus Macmillan gwnaed casgliad i gyfrannu ato.
Ni allem fod wedi cael gwell bore i gychwyn ar ein teithiau cerdded: haul cynnes, awyr las ddigwmwl, awel ysgafn a’r coed heb eto droi eu lliw na gollwng eu dail. Yn wir bron na allem glywed eu broliant:
Nyni, y dail, a rydd i’r pren
Ei liw, a’i lun a’i fantell laes,
A’i holl hyfrydwch ar y maes;
Rhag gwres y dydd ein cysgod clyd
A rown i flin fforddolion byd;
(‘Y Dail’, I.D.Hooson, Y Gwin a Cherddi Eraill; Gwasg Gee pumed argraffiad 1971. t.48)
Wedi difyr sgwrs daeth y daith i ben dros bryd o fwyd cyn troi am adref gydag addewid o deithiau difyr pellach i’w trefnu dros y misoedd nesaf.
(Glyn Jones)
BE' WYT TI'N 'I WNEUD?
Gofynnwyd i rywun efo cŷn a morthwyl yn torri cerrig, ‘Be’ wyt ti’n ‘i wneud?’ ‘Torri cerrig'; oedd yr ateb. Gofynnwyd yr un cwestiwn i un arall. Ei ateb ef oedd, ‘Ennill fy mara beunyddiol’. Gofynnwyd y cwestiwn i un arall eto. Ei ateb ef oedd ‘Adeiladu Eglwys Gadeiriol’.
Yn dy waith y mae fy mywyd,
yn dy waith y mae fy hedd...Amen
(Evan Griffiths, 1795-1873; C.Ff.734)
(OLlE)
SPRINGSTEEN, CHARLES A COLTRANE
...amser i eni...(Pregethwr 3:2a)
Heddiw, yn 1949 ganed Bruce Springsteen; Ray Charles (1930) a John Coltrane (1926).
Heb...
...fydd hi yn...
Heb A Love Supreme, Crying Time fydd hi yn This Hard Land.
O! Dduw yn wyneb pob caledi
y sydd neu eto ddaw,
dod gadarn gymorth imi
i lechu yn dy law.
Amen.
(Grawn-sypiau Canaan, 1805; C.Ff.:84)
(OLlE)
CYHYDNOS YR HYDREF
Heddiw, Cyhydnos yr Hydref, mae'n rhaid gollwng gafael ar yr Haf a throi i wynebu’r Hydref. Tymor y golau tyner, a’r cysgodion caredig yw’r Hydref. Mae golau tyner yr Hydref yn gyfrwng bendith, mae cysur ynghudd yn y cysgodion mwyn. Gall golau llachar haul yr Haf ein dallu, gall ei wres - heb ofal - ein llosgi. Tueddwn i feddwl mai hanfod pob ‘gwybod’ yw mynd â goleuni i ganol pob tywyllwch, i gael gweld beth sydd yno, ei ddeall ac felly ei adnabod, ac o’i adnabod ei berchenogi. Onid ydym, wrth fynnu cael ‘gwybod’ fel hyn, wedi colli math arall o ‘wybod’ - hen hen wybod ydyw – y ‘gwybod’ sy'n gwybod bod yn rhaid i rai pethau aros yn y cysgodion, oherwydd dim ond o’r golwg mae ambell wirionedd yn gallu byw. Wrth dynnu gwirioneddau felly o’r cysgodion i’r ‘goleuni’, byddant naill a’i yn marw, neu...yn lladd. Mae i bob peth ei bris, hyd yn oed eglurder.
O! Dduw, wele ni yn troi tudalen ac yn croesawu tymor yr hydref:
tymor ffrwythau aeddfed a chnydau breision;
tymor cynhaeaf, diolchgarwch a dathlu;
tymor ailgychwyn ysgol, a choleg;
tymor y gobeithion a'r dechreuadau newydd,
tymor lliwiau euraid y coed a'r perthi,
tymor diosg y dail a byrhau golau dydd
a thymor paratoi ar gyfer gorffwys y gaeaf.
Boed i ni werthfawrogi dy bresenoldeb a'th ofal drosom,
a'th wasanaethu di mewn llawenydd a diolch. Amen.
Addasiad o weddi gan Elfed ap Nefydd Roberts (Amser i Dduw; CLC, 2004)
(OLlE)
£1
£30.
Dyna’r cyfan sydd angen i chi gofio.
£30.
Mae tri theithiwr yn cyrraedd gwesty yn hwyr y nos; £10 yn unig sydd gan bob un...
£30
Mae’r tri yn penderfynu rhannu un stafell sydd yn costio £30 y noson.
Aeth un o staff y gwesty - William - â’r tri i’r ‘stafell, gan gario’r bagiau i gyd. Dim tip. (Truan)
Maes o law, mae’r derbynnydd yn derbyn e-bost gan berchennog y gwesty yn dweud mai £25 oedd pris aros dros nos bellach, nid £30. Gan fod y derbynnydd yn gymeriad gonest a chydwybodol, anfonwyd William at y tri, â £5 yn ei law, i roi yn ôl iddynt. Nid oedd William mor onest â’r derbynnydd. Gan iddo beidio derbyn tip ganddynt, penderfynodd gadw £2iddo’i hunan, a rhoi £1 yr un yn ôl i’r tri.
Felly...
Mae pob un o’r tri gwestai wedi talu £9 am y ‘stafell, ac mae William wedi cadw £2, sydd yn gwneud cyfanswm o £29; ond talwyd £30. Diflannodd £1!
Beth sydd ar goll o’ch bywyd chi tybed?
Meddwl ydw’i efallai, fel y bunt goll yn y stori, nad yw pob peth a gollwyd wedi ei golli go iawn...
Onid ydym yn chwilio’n galed iawn am yr hyn sydd eisoes gennym?
(OLlE)
CAPERNAUM
8:45 yr hwyr, â chwmni bychan yn y festri i gyfarfod newydd arall!
‘Capernaum’
Pam ‘Capernaum’?
Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)
Na, nid dod i rwyfo am ryw dair neu bedair milltir (Ioan 6:19) a wnaethom, ond dod yn hytrach i ymdawelu’n ar derfyn dydd: defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Gweddi Moses (Exodus 32:11-14; 30-35) oedd testun ein sylw heno. ‘Roedd y pechod mawr o greu’r llo aur ac addoli eilun yn haeddu cosb...yn awr gad lonydd imi er mwyn i’m llid ennyn yn eu herbyn a’u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr (Exodus 32:10).
Rhwng y bobl a llid Duw saif Moses yn eiriol dros ei bobl. Os na chaiff y troseddwyr faddeuant, y mae eu harweinydd yn dymuno marw - derbyn y gosb. Gwell fyddai ganddo gael ei dorri allan o lyfr y bywyd - hynny yw, rhestr o bawb sy’n preswylio ar y ddaear; buasai Moses felly’n peidio â bod!) na gweld Duw yn cosbi’r bobl. Nid yw Moses yn fodlon derbyn bendith iddo’i hun os nad yw’r bobl yn cael rhannu’r fendith honno. ‘Roedd eisoes wedi ymbilio ar Dduw i faddau i’r bobl, ac yr oedd wedi cael addewid o faddeuant (32:11-14), ond parhau i weddïo a wna (32:30-35).Eiriolaeth oedd un o nodweddion amlycaf yr Eglwys yng nghyfnod y Testament Newydd. Yn yr epistolau ceir pwyslais digamsyniol a’r ddyletswydd pob Cristion i ymbil dros ei gyd-ddyn. Yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, meddai Paul yn ei lythyr cyntaf at Timotheus (2:1). Yn y Llythyr at yr Hebreaid portreadir Crist fel un sydd yn fyw bob amser i eiriol drosom (7:25). Y mae eiriolaeth yn un o hanfodion gweinidogaeth dragwyddol Crist.
Ond, o holl elfennau gweddi, eiriolaeth yw’r un mwyaf costus. Cariad angerddol at bobl ei ofal a symbylodd Moses i fynd ar ei ddeulin o flaen Duw ac ymbilio drostynt. Cariad hefyd sy’n gwneud Crist yn eiriolwr parhaol dros bawb. Mae ein parodrwydd ninnau o weddïo dros eraill yn amlygu gwir hyd a lled y cariad sydd gennym tuag atynt.
Profiad newydd oedd cwrdd mor hwyr y dydd, ond buddiol y cwrdd hwnnw. Â ninnau wedi croesi môr prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i weld Iesu (Ioan 6: 19), a chanfod gobaith a chymorth yr Efengyl.