• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

CAPERNAUM

September 21, 2015 Owain Evans

8:45 yr hwyr, â chwmni bychan yn y festri i gyfarfod newydd arall!

‘Capernaum’

Pam ‘Capernaum’?

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

Na, nid dod i rwyfo am ryw dair neu bedair milltir (Ioan 6:19) a wnaethom, ond dod yn hytrach i ymdawelu’n ar derfyn dydd: defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Gweddi Moses (Exodus 32:11-14; 30-35) oedd testun ein sylw heno. ‘Roedd y pechod mawr o greu’r llo aur ac addoli eilun yn haeddu cosb...yn awr gad lonydd imi er mwyn i’m llid ennyn yn eu herbyn a’u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr (Exodus 32:10).

Rhwng y bobl a llid Duw saif Moses yn eiriol dros ei bobl. Os na chaiff y troseddwyr faddeuant, y mae eu harweinydd yn dymuno marw - derbyn y gosb. Gwell fyddai ganddo gael ei dorri allan o lyfr y bywyd - hynny yw, rhestr o bawb sy’n preswylio ar y ddaear; buasai Moses felly’n peidio â bod!) na gweld Duw yn cosbi’r bobl. Nid yw Moses yn fodlon derbyn bendith iddo’i hun os nad yw’r bobl yn cael rhannu’r fendith honno. ‘Roedd eisoes wedi ymbilio ar Dduw i faddau i’r bobl, ac yr oedd wedi cael addewid o faddeuant (32:11-14), ond parhau i weddïo a wna (32:30-35).Eiriolaeth oedd un o nodweddion amlycaf yr Eglwys yng nghyfnod y Testament Newydd. Yn yr epistolau ceir pwyslais digamsyniol a’r ddyletswydd pob Cristion i ymbil dros ei gyd-ddyn. Yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, meddai Paul yn ei lythyr cyntaf at Timotheus (2:1). Yn y Llythyr at yr Hebreaid portreadir Crist fel un sydd yn fyw bob amser i eiriol drosom (7:25). Y mae eiriolaeth yn un o hanfodion gweinidogaeth dragwyddol Crist.

Ond, o holl elfennau gweddi, eiriolaeth yw’r un mwyaf costus. Cariad angerddol at bobl ei ofal a symbylodd Moses i fynd ar ei ddeulin o flaen Duw ac ymbilio drostynt. Cariad hefyd sy’n gwneud Crist yn eiriolwr parhaol dros bawb. Mae ein parodrwydd ninnau o weddïo dros eraill yn amlygu gwir hyd a lled y cariad sydd gennym tuag atynt.

Profiad newydd oedd cwrdd mor hwyr y dydd, ond buddiol y cwrdd hwnnw. Â ninnau wedi croesi môr prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i weld Iesu (Ioan 6: 19), a chanfod gobaith a chymorth yr Efengyl.

GORNEST FLYNYDDOL BOWLIO 10 PIMS

September 21, 2015 Owain Evans

Noson gymdeithasol fu heno i PIMS, ond tra chystadleuol! Â ninnau wedi hawlio tair lon, enillydd y cyntaf oedd Elwyn. Yn fuddugol yn y ail lon: Efa. Pen-bowliwr y lon olaf oedd Ioan - brawd bach Elwyn. O’r tri, wedi i’r Gweinidog astudio'r sgôr-fyrddau...Ioan a orfu!

Noson dda bu hon, a chafwyd cyfle wedi’r holl hwyl i ymgasglu wrth y bwrdd, ac wedi'r gras cyn bwyd, mwynhau llond bol o fwyd blasus a llond lle o chwerthin braf.

Ond, ble mae’r Gweinidog wedi mynd? 'Capernaum'. Beth yw ‘Capernaum’?

DYGWYL MATHEW, APOSTOL

September 21, 2015 Owain Evans
'Galwad Mathew' (1599-1600) gan Caravaggio (1571-1610)

'Galwad Mathew' (1599-1600) gan Caravaggio (1571-1610)

Mathew 9:9-13

Neilltuir y dydd heddiw i gofio Mathew. Y farn gyffredin ydyw mai’r un yw Mathew a Lefi, ac mai casglwr trethi ydoedd. Gan mai yng Nghapernaum oedd ei dollfa ac i Iesu dreulio cryn dipyn o amser yn gweinidogaethu yn y dref honno mae’n debygol i Mathew gael sawl cyfle i wrando Iesu cyn penderfynu ei ddilyn fel disgybl.

Ychwanegir iddo baratoi gwledd i Iesu yn ei dŷ, a gwahodd amryw o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid (Mathew 9:10) i fwyta gydag ef. Y pryd hwnnw efallai, cafodd Iesu’r ffugenw: ...cyfaill publicanod a phechaduriaid (Mathew 11:19 WM). Diolch i Dduw nad ffug mo’r ffugenw!

Mae’n amlwg ddigon nad oedd Iesu’n ychwanegi dim at ei barch na’i boblogrwydd wrth alw dyn fel Mathew i gylch y Deuddeg. Dosbarth dirmygus at ei gilydd oedd y publicanod, gwrthodedig, gweision yr Ymerodraeth Rufeinig; quislings eu hoes.

Derbyniodd Iesu ef i’w gwmni a’i gymdeithas nid am yr hyn oedd Mathew, ond oherwydd yr hyn y gallai fod. Felly y gwna Iesu - cyfaill pechaduriaid - o hyd.

Clodforwn dy gariad, O! Dduw, am iti ein derbyn fel ag yr ydym gan ganfod, ac amlygu'r un pryd ein potensial. Gwna ni, bobl gyffredin, yn bobl anghyffredin ein gofal a chroeso yn, a thrwy Iesu ein Harglwydd. Amen

(OLlE)

GWEDDI - DIWRNOD HEDDWCH Y BYD

September 21, 2015 Owain Evans

Dduw Dad, yr hwn sydd Ddaioni uwchlaw pob daioni, Tegwch uwchlaw pob tegwch, yr un y trig llonyddwch, tangnefedd a chytgord ynddo; cyfanna di'r ymrafaelion a'n gwahana oddi wrth ein gilydd, a dwg ni yn ôl i'r undeb cariad hwnnw, y mae arno beth o ddelw dy natur ddwyfol di. Amen.

NEWYDDION Y SUL

September 20, 2015 Owain Evans
 ...un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb...(Effesiaid 4:5,6a)

 

...un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb...(Effesiaid 4:5,6a)

Tymor newydd o wasanaeth, cyfle newydd i wasanaethu. Bu’r trydydd Sul ym Mis Medi, ers sawl blwyddyn bellach yn gyfle i ailgydio yn ein gwaith wedi tawelwch yr Haf. ‘Rydym eisoes mor brysur â chynffon oen! Llonder mawr i ni gyd yw’r cynnwrf a’r brwdfrydedd, y gefnogaeth a’r cadernid sydd yn ein plith. Cyflwynwn ein hunain i Dduw, a boed i’r cyfan a wnawn fod yn unol â’i ewyllys ef. Gyda’n gilydd, o’r ieuangaf i’r hynaf, byddwn fentrus yn y pethau anghyfarwydd, ac yn fedrus yn y pethau cyfarwydd.

Yn sŵn adnodau agoriadol Salm 84, (a chanu pen-blwydd hapus i efeilliaid Aled a Gwion, â hwythau'n dair blwydd oed heddiw), arweiniwyd defosiwn yr ifanc gan un o ffyddloniaid PIMS: Ioan. Wedi iddo ddarllen ychydig o hanes y Creu, fe’n harweiniwyd ganddo mewn gweddi - a chwip o weddi dda ydoedd! Diolch amdani.

Gweddïwn

 chwpan y byd wedi dechrau cymerwn funud i feddwl am y ffoaduriaid!

Tra bydd y ddraig goch yn tanio,

Tra bydd y Georgiaid yn gwibio,

Tra bydd y Kiwis yn dawnsio,

Beth am y ffoaduriaid?!

 

Tra bydd Gatland yn gweddïo

Tra bydd y Springboks yn sgrymio,

Tra bydd Tonga yn trio taclo,

Beth am y ffoaduriaid?!

 

Tra bydd Cymru'n cael eu coroni,

Tra bydd y Saeson eto'n siomi,

Tra bydd y Webb Ellis yn cael ei chodi

Beth am y ffoaduriaid?!

 

A oes yna le i roi llety

Fel stori bell nôl am yr Iesu?!

A allwn ni wir eu helpu?

Beth am y ffoaduriaid?

 

Lle i deulu'n y 'Principality'!

Lle i wely reit fawr sydd yn Wembley!

Lle yn Twickers i blant a rhieni!

Oes mae digon o le yn y llety!!!

Amen

Wedi derbyn adnodau gan lond sêt fawr o blant, gofynnodd y Gweinidog os oedd y plant yn dda am gofio pethau. Y plant i gyd - bob un - yn dda yn cofio. A oedd y plant yn cofio’r Oedfa Deulu dechrau’r mis tybed? A chyn iddo gael cyfle i barhau, daeth yr ateb yn frwd: ‘Rhif 1!’ Wedi ein hatgoffa mae Un Duw sydd, a hynny oherwydd ei fod yn ‘llond pob lle, presennol ymhob man’ (David Jones, 1805-68; CFf:76) arweiniwyd y plant, a gyda hwy'r gynulleidfa gyfan, i ystyried arwyddocâd yr adnod:...un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb...(Effesiaid 4:5,6a). (Anogwyd y bobl ifanc i chwilio am yr adnod, a Lleucu oedd y cyntaf i’w darganfod.)

Un Arglwydd: Iesu Grist yw hwnnw, ac er bod ffrindiau Iesu Grist yn credu pethau gwahanol iawn am Iesu, mynnai’r Gweinidog nad oedd ots o gwbl am hynny!

Un bedydd...ac er bod ffrindiau Iesu Grist yn bedyddio mewn gwahanol ffyrdd, eto, mynnai’r Gweinidog: Dim ots!

Pam ‘Dim ots!’? Un Duw sydd, a Thad i bawb! Dangoswyd amlinelliad o’r rhif 1, ac yna’r cwestiwn: ‘A’i dyma’r rhif 1?’ Wrth gwrs! ‘Roedd y plant yn gwbl, a llafar cytûn mai dyma’n wir oedd y rhif 1. Yn sydyn dangosodd y Gweinidog gant a mil o wahanol rifau 1! Pob sut a siâp o rif 1; ond meddai, ‘Duw yw’r rhif 1 MAWR. Mae Duw’n ddigon mawr i gynnwys pob syniad sydd gennym ni amdano.’ Fe’n hatgoffwyd fel eglwys, fod Duw yn fwy na phob syniad sydd gennym ni amdano.

Wedi cyd-weddïo Gweddi’r Arglwydd, aeth y plant a’r plantos allan i’r Ysgol Sul. Deisyfwn fendith Duw ar ein gweinidogaeth gyda, ac ymhlith y plant.

Bu’r gweinidog yn cyfeirio’n gyson y mis hwn at emyn David Jones (1805-68; CFf:76), a’r emyn hwnnw oedd testun pregeth yr Oedfa Foreol. Geiriau o ddiwedd Salm 73: Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi (ad.28a.WM) yw sail yr emyn. Cyfansoddwyd y geiriau, mae’n debyg, yn dilyn ei brofiad o golli ei ferch Ann, a hithau’n 13 oed yn Chwefror 1848. (Cydymaith Caneuon Ffydd; Delyth G. Morgans; PLlEC, 2006) Yr oedd saith o benillion yn wreiddiol; ond pump bu gennym o dan sylw. Arweiniwyd ni at neges pob pennill yn ei dro, ac yn sŵn y neges, cydganu’r pennill. Plethwyd geiriau a phrofiad emynwyr eraill i rediad y myfyrdod. Er mor agos yw Duw:

Mae Duw yn llond pob lle,

presennol ym mhob man;

y nesaf yw efe

o bawb at enaid gwan...

Rhaid i ni fodloni nesáu ato. Gyda’r nesâd daw nerth, diddanwch, maddeuant, hedd a bywyd.

...y graig ni syfl ym merw’r lli:

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Er gwaethaf grym y dŵr, a dwndwr y rhaeadrau saif craig cariad Duw. Wrth y graig ddi-syfl hon, angorwn gwch bach ein byw.

Presenoldeb Duw a gawn yn y pennill cyntaf; ei nerth a’i allu a sefydlogrwydd ei gariad yn yr ail. Yn y trydydd pennill gwelwn gyfoeth Duw:

Yr hollgyfoethog Dduw,

ei olud ni leiha,

diwalla bob peth byw

o hyd â’i ‘wyllys da...

Boed i ‘wyllys da Duw ddysgu’n hewyllys da ni.

Ym mhennill pedwar, ‘rydym yng nghanol storm o ofid:

Mewn trallod, at bwy’r af,

a’r ddiwrnod tywyll du?

Mewn dyfnder, beth a wnaf,

a’r tonnau o’m dau du?

O fyd! yn awr, beth elli di?

‘Nesáu at Dduw sy dda i mi.’

 Pa beth a wnawn felly? Troi, ac annog troi at Dduw: ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Anwadal hynod yw

gwrthrychau gorau’r byd;

ei gysur o bob rhyw,

siomedig yw i gyd;

rhag twyll ei wên, a swyn ei fri.

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Nid ‘drwg’ mo gwrthrychau gorau’r byd, ond siomedig bob un. Rhaid cadw agos at y Peth - Duw - rhag cael ein swyno, a’n twyllo gan bethau crefydd a byw.

Ie, ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi’, ac mae’r adnod yn parhau: yn yr Arglwydd Dduw gosodais fy ngobaith...(Salm 73:28). Boed i ni, y tymor newydd hwn, nesáu, a hynny’n gyson at Dduw. Ein gobaith ydyw Ef - gobaith sy’n ein calonogi i ddal ati i ddal ati yn ei waith; hau cariad mewn tir o gerrig, ffrwythloni’r diffeithdir â’n ffydd - argyhoeddi byd a phobl nad yw’r drwg yn drech na’r da. Heb os: ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Bu disgwyl eiddgar am ein Gŵyl Flynyddol eleni fel pob blwyddyn. Bu llawer o sôn am ein pregethwr gwadd a’i ddull deniadol o bregethu. Ein braint oedd cael cwmni'r Parchedig Dyfrig Lloyd (Eglwys Dewi Sant). Cawsom ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr yn seiliedig ar Hebreaid 13:1-15, gan ganolbwyntio ar adnod 5: Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.’

Mae rhan fwyaf o’r llythyr at yr Hebreaid, meddai Dyfrig, yn ymdrin â materion mawrion y ffydd; cywir gred am natur a pherson Iesu; ystyr a gwerth aberth, natur ffydd, a gwir ddisgyblaeth yr Arglwydd. Dim ond wedi iddo ymdrin â’r pynciau mawrion rhain, y mae’r awdur yn troi at yr ymarferol. Ym mhennod 13, pennod clo'r llythyr, mae’r awdur yn mynd i’r afael ag ymddygiad cywir y Cristion, gan osod gofynion ymarferol yr Efengyl o’n blaen: brawdgarwch, lletygarwch, ffyddlondeb a diariangarwch. Hanfod y Llythyr at yr Hebreaid yw'r argyhoeddiad fod cywirdeb ffydd yn esgor ar gywirdeb byw - tardd pob gwir wasanaeth i Dduw o gywirdeb ein ffydd yn Nuw. Gallwn ymddiried yn hyn o wirionedd; bodloni ar hyn sydd gennym, arfer haelioni a chroeso gan fod Duw yng Nghrist wedi addo: ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim’.

Hyfrydwch oedd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas a’i chyffiniau yn yr oedfa heno; diolch am eu cefnogaeth gyson, a’r cyfle i gydaddoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.

Yn dilyn yr oedfa, profwyd mwynhad cymdeithas dros baned yn y Festri.

‘Roedd ein casgliad rhydd yn ystod oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi “Apêl Argyfwng Ffoaduriaid” Cymorth Cristnogol.

Gan ddiolch am Sul, cyflwynwn ein hunain i Dduw, y tymor newydd hwn. Gyda’n gilydd, o’r ieuangaf i’r hynaf, byddwn fentrus yn y pethau anghyfarwydd, ac yn fedrus yn y pethau cyfarwydd, er clod i’r Hwn sydd lond pob lle, presennol ym mhob man. Pwyswn ar yr addewid fawr: ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim’.

GWEDDI - CWPAN RYGBI'R BYD

September 20, 2015 Owain Evans

Gweddïwn...

 chwpan y byd wedi dechrau cymerwn funud i feddwl am y ffoaduriaid!

Tra bydd y ddraig goch yn tanio,

Tra bydd y Georgiaid yn gwibio,

Tra bydd y Kiwis yn dawnsio,

Beth am y ffoaduriaid?!

 

Tra bydd Gatland yn gweddïo

Tra bydd y Springboks yn sgrymio,

Tra bydd Tonga yn trio taclo,

Beth am y ffoaduriaid?!

 

Tra bydd Cymru'n cael eu coroni,

Tra bydd y Saeson eto'n siomi,

Tra bydd y Webb Ellis yn cael ei chodi

Beth am y ffoaduriaid?!

 

A oes yna le i roi llety

Fel stori bell nôl am yr Iesu?!

A allwn ni wir eu helpu?

Beth am y ffoaduriaid?

 

Lle i deulu'n y 'Principality'!

Lle i wely reit fawr sydd yn Wembley!

Lle yn Twickers i blant a rhieni!

Oes mae digon o le yn y llety!!!

Amen.

(Ioan Williams)

PREGETH BORE SUL

September 20, 2015 Owain Evans

Gŵyl Flynyddol Eglwys Minny Street

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’ (David Jones, 1805-68; C.Ff. 76). Geiriau’n seiliedig ar Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi (Salm 73: 28a), ac a ysgrifennwyd ar ôl i’r emynydd golli ei ferch yn 13 mlwydd oed.

Mae Duw yn llond pob lle,

presennol ym mhob man;

y nesaf yw efe

o bawb at enaid gwan;

wrth law o hyd i wrando cri:

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Os ‘llond pob lle’, onid oes rhaid i Dduw fod yn ‘(b)resennol ym mhob man’! Yn yr ail linell pwysleisir presenoldeb Duw. Mae’r Duw ‘llond pob lle’ yn bresennol yn ein bywydau ni. Oherwydd hyn, nid oes yr un sefyllfa yn anobeithiol. Amherthnasol neges y llinell gyntaf oni bai fod Duw yn bresennol yng nghanol ein bywyd. Onid dyna pam yr ymbiliwn “Aed dy bresenoldeb hyfryd gyda’th weision i bob man” (John Thomas, 1730-1803; C.Ff. 184). Perthyn ‘nesaf’ a ‘nesáu’ yn agos i’w gilydd yn y pennill. Os gwyddom fod Duw yn agos atom bob amser, pam bod angen nesáu ato? Ein dewis ni yw nesáu neu beidio. Nid oes gorfodaeth yn Nuw. Fe’n gwahoddir i nesáu. Does dim rhaid, ond gyda’r nesâd daw nerth, diddanwch, maddeuant, hedd a bywyd: “Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint, ffydd, gobaith, cariad pur, a hedd a phob rhyw nefol fraint.” (Lewis Hartsough, 1828-1919 cyf. Ieuan Gwyllt, 1822-77; C.Ff. 483) Nid methiant Duw i gynnig bendith a chynhaliaeth yw’r broblem, ond ein hamharodrwydd ni i dderbyn.

Yr Arglwydd sydd yr un

er maint derfysga’r byd;

er anwadalwch dyn

yr un yw ef o hyd;

y graig ni syfl ym merw’r lli:

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Nid yw Duw yn newid. Newidia’r byd; ‘rydym ninnau, a phobl, yn newid. Erys Duw yn ei gariad a’i drugaredd. Mae eisiau oedfa, cwrdd gweddi a’r weddi feunyddiol i’n harbed rhag colli golwg ar y peth pwysicaf sy’n rhoi ystyr a chyfeiriad i bob peth arall mewn bywyd: cadernid y cariad ‘ni syfl...’. Mae Duw ‘yn llond pob lle’ ac ‘yn bresennol ym mhob man’; yr un yw yng nghanol amrywiaeth ‘pethau’ ein bywyd. Dyma galon ein ffydd. Cyn bod sôn amdanom, ac wedi darfod pob sôn amdanom, yng ngrym y dŵr, a dwndwr y rhaeadrau, ‘y graig ni syfl’. Yno, wrth y graig hon, angorwn gwch ein byw.

Yr hollgyfoethog Dduw,

ei olud ni leiha,

diwalla bob peth byw

o hyd â’i ‘wyllys da;

un dafn o’i fôr sy’n fôr i ni:

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Eiddo Duw ‘hollgyfoethog’ bob peth. Cawn ganddo, bob peth: “Duw’n darpar o hyd ar raid dynol-ryw yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw...” (Cernyw, 1843-1937; C.Ff.119). Erfyniwn ar i “‘wyllys da” Duw ddysgu’n hewyllys da ninnau. Boed i ni fod yn ‘un dafn o’i fôr’ i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Gwyddom, er dymuno eu cyffwrdd mewn daioni, mai trwsgl a lletchwith ein hymwneud. Hoffem wasanaethu’r llai ffodus; amharod ydym i rannu’n wir aberthol ag eraill. Byddai'n dda gennym ofalu am greadigaeth Duw; yn hytrach, llygru a gwastraffu ei hadnoddau a wnawn. Mae angen Duw arnom, i’n cynorthwyo, a’n gwneud yn gyfryngau mwy effeithiol i fod yn ‘wyllys da’ y Duw sy’n ‘llond pob lle...’.

Mewn trallod, at bwy’r af,

ar ddiwrnod tywyll du?

Mewn dyfnder, beth a wnaf,

a’r tonnau o’m dau tu?

O fyd! yn awr, beth elli di?

‘Nesáu at Dduw sy dda i mi.’

Yn ein gofid ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’ Ganddo cawn gysur a nerth. Pan oera ffydd a chred yn llwydo, ‘Nesáu at Dduw...’ Gyda Duw, yng nghwmni Pobl Dduw, yw’r lle gorau i fod pan bod Duw ymhell. Pam? Oherwydd gyda Duw cawn ddoethineb i’w ganfod! Ganddo cawn amynedd i ddisgwyl oddi wrth Dduw...llygaid i weld a chalon i fyfyrio ar y bendithion a gawn yng nghwmni Pobl Dduw.

Anwadal hynod yw

gwrthrychau gorau’r byd;

ei gysur o bob rhyw,

siomedig yw i gyd;

rhag twyll ei wên, a swyn ei fri.

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

Gellir casglu pethau gorau’r byd ynghyd, ond anwadal ydynt! Nid ‘drwg’, ond ‘siomedig’. Rhaid cadw’n agos at y ‘Peth’, rhag cael ein swyno gan y ‘pethau’...yr adeilad, yr eiddo, yr addoliad, y gymdeithas, yr Ysgol Sul, pob cyfarfod, neges drydar, pregeth a homili, a chyfarfod PIMS. Er mai da ydynt, gallant ein twyllo a’n swyno. Gellir colli'r ‘Peth’ – cariad Duw yng Nghrist – ynghanol y pethau hyn. O nesáu at Gariad Duw gallwn gyfoethogi addoliad, cryfhau cymdeithas, ac effeithioli tystiolaeth yr eglwys leol.

Eleni, nesawn, a hynny’n gyson at Dduw; ein gobaith ydyw. Gobaith sy’n ein calonogi i ddal ati i ddal ati yn ei waith; hau cariad mewn tir o gerrig a ffrwythloni’r diffeithdir â’n ffydd. Argyhoeddi byd a phobl nad yw’r drwg yn drech na’r da. ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’

 (OLlE)

RYGBI BEIBLAIDD

September 19, 2015 Owain Evans

Camsefyll bwriadol: Pam yr ydych yn sefyllian? (Barnwyr 18:9)

Cell gosb:...pan ddywedais wrthynt, ‘Cadw hwn o’r neilltu’. (1 Samuel 9:23)

Dyfarnwyr a Llumanwyr: ...yn ôl eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes...(Deuteronomium 21:5)

Haka: Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel...(1 Samuel 17:10)

Llinell: ...tynnwch linell...dyma fydd eich terfyn...(Numeri 34:7-9)

Mantais: ...a pha fantais sydd i ddyn? (Pregethwr 6:11)

Meddiant: Rhoes iddynt diroedd...a chymerasant feddiant...(Salm 105:44)

Ochrgamu: ...gwelodd ef, ac aeth heibio o’r ochr arall. (Luc 10:32b)

Olwyr: Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch...(Joel 2:4)

Pedwerydd swyddog: ‘Rwy’n cydsynio â’r cais a wnaethost...(1 Brenhinoedd 5: 8)

Reng flaen: cerdda bob un ei flaen heb wyro o’i reng. (Joel 2:7)

Sgarmes: cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo...(Galatiaid 5:20)

Sgrym: Peidiwch ag ymgysylltu’n amhriodol...(2 Corinthiaid 6:14)

Tacl: Beth a welaf?...lloriwyd eu cedyrn...(Jeremeia 46:5a)

Trosiad:...ymateb ffafriol i bob cais o’r eiddo. (1 Esdras 8:4 Apocryffa)

(OLlE)

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021