• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

UN

September 9, 2015 Owain Evans

Gwrando, O Israel: Y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth.

(Deuteronomium 6:4-5)

Myfi yw’r ARGLWYDD, ac nid oes arall; ar wahân i mi nid oes Duw. Gwregysais di, er na’m hadwaenit, er mwyn iddynt wybod, o godiad haul hyd ei fachlud, nad oes neb ond myfi. Myfi yw’r ARGLWYDD, ac nid oes arall, yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant; myfi, yr ARGLWYDD, sy’n gwneud y cyfan.

(Eseia 45:5-8)

...un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.

(Effesiaid 4:6)

Gydag amser y daw person i sylweddoli holl oblygiadau ei gred yn Nuw. Amser a phrofiad, daw'r naill yn sgil y llall. Mae’r ddau fel ei gilydd yn lliwio a llywio'r hyn a gredwn.

Addoli Un Duw ‘roedd Israel trwy gydol ei hanes, ond nid oedd yn gwadu bodolaeth duwiau eraill. Gydag amser, yn bennaf oherwydd gweinidogaeth y proffwydi, daeth i gredu mai'r ARGLWYDD oedd yr unig Dduw.

Os mae’r ARGLWYDD oedd yr unig Dduw, Ef yn unig a allai fod wedi creu’r byd. Gwelir y ddau wirionedd hyn ymhlyg yn ei gilydd yn yr adnodau uchod o broffwydoliaeth Eseia: Un Duw, ac yntau’n Greawdwr.

Os Un Duw, ac yntau’n Greawdwr, rhaid mai’r Un Duw a reolai ac a lywodraethai pob peth a phawb. Nid Israel yn unig felly oedd yn wrthrych ei gariad mawr, ond pawb ym mhob man.

Tyfu, datblygu bob amser, mae cred; heb ganiatáu gofod i dyfiant, a chyfle i ddatblygiad, fe wywa.

Ti Greawdwr mawr y nefoedd,

mor ardderchog dy weithredoedd;

Ti yw Brenin creadigaeth,

Ti yw awdur iachawdwriaeth. Amen

(Ben Davies, 1864-1937; CFf.111)

(OLlE)

CWRDD GWEDDI

September 8, 2015 Owain Evans

Gweddi Paul dros bobl Dduw yn Effesus (Effesiaid 1:15-23) fu’n arwain ein gweddi, ac yn cynnal ein gweddïau heno.

Mae Paul yn diolch am ffydd ei frodyr a chwiorydd yng Nghrist yn Effesus, ac am y cariad gofalus sydd ganddynt tuag at ei gilydd. Gweddïa ar iddynt gael eu goleuo gan yr Ysbryd sy’n rhoi doethineb a datguddiad (1:17b), a hefyd eu grymuso gan y gallu sydd ganddo o’n plaid ni sy’n credu (1:19b).

Mae’n debyg fod Paul, yn bedwaredd adnod a’r bymtheg a’r ugeinfed adnod, yn defnyddio pedwar gair gwahanol am nerth: ...a’ch dwyn i wybod...beth yw aruthrol fawredd y gallu (dunamis) sydd ganddo o’n plaid ni sy’n credu, y grymuster hwnnw (energeia) a gyflawnodd yng ngrym (kratos) ei nerth (ischus) yng Nghrist, pan gyfododd ef oddi wrth y meirw...

Pentwr o eiriau yn amlygu ymdrech Paul i fynegi rhywbeth o fawredd anhygoel Duw o’n plaid ni sy’n credu.

 ...dunamis.

...energeia.

...kratos.

...ischus.

A’r ddechrau tymor newydd o wasanaeth, bu cwmni bychan ohonom yn gweddïo

...am y nerth hwnnw - dunamis - sy’n chwythu’n gyrbibion yr holl furiau a saif rhyngom â’n gilydd fel pobl ffydd, a rhyngom â’r byd y gelwir arnom i wasanaethu mewn ffydd, gobaith a chariad.

...am energeia a’r gallu i lawenhau gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylo gyda’r rhai sy’n wylo. Energeia sydd yn creu, cynnal a chadw ein Koinônia. 

...am fuddugoliaeth kratos; beth bynnag ddaw eleni...gyda kratos, yn y pethau hyn i gyd, byddwn yn ennill, eto fyth, buddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni (Rhufeiniaid 8:37).

Ni allwn fyw heb ischus Duw. Ofer ein holl ymdrechion heb ei nerth (ischus) yng Nghrist, pan gyfododd ef oddi wrth y meirw...

Aethom adref yn sŵn geiriau William Williams, (1717-91; CFf. 294): 

Does gennyf ond dy allu Mawr

I’m nerthu i fynd ymlaen;

Dy iachawdwriaeth yw fy ngrym

A’m concwest i, a’m cân.

PIMS - CROESAWU A FFARWELIO

September 7, 2015 Owain Evans
Y PIMSwyr yn mwynhau pitsa heno a'r ddiwedd cyfarfod cyntaf y tymor

Y PIMSwyr yn mwynhau pitsa heno a'r ddiwedd cyfarfod cyntaf y tymor

Heno...PIMS. Daethant, rhai yn fwndel mawr o sŵn, chwerthin a thynnu coes; buont yma droeon o’r blaen - y cyfan a phawb yn gyfarwydd. Daeth rhai yn ansicr a swil - Harri, Elin, Amy, Freddie, Ifan a Sam - dyma’r PIMS cyntaf oll iddynt. ‘Roedd dau yn dawel iawn, a hynny’n dra anarferol: Gruff a Heledd; dyma ei PIMS olaf hwythau.

Yr her gyntaf oedd cael y cwmni i eistedd a thawelu; o’r diwedd, o’r hir ddiwedd llwyddo, a’r Gweinidog yn cael cyfle i groesawu pawb, a chyflwyno’r thema: Rhifo, gan ddechrau yn y dechrau: 1.

Torrwyd y cwmni’n dri grŵp, a phob un yn ystyried cwpled o bennill agoriadol emyn David Jones, 1805-68. CFf.76)

Mae Duw yn llond pob lle,

Presennol ymhob man;

y nesaf yw efe

o bawb at enaid gwan;

wrth law o hyd i wrando cri:

"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

Bu’r grŵp cyntaf, o dan arweiniad Hefin yn trafod:

Mae Duw yn llond pob lle,

Presennol ymhob man...

Lleucu fu'n cadw cofnod o sylwadau'r grŵp: 'Mae Duw,' meddai, 'gyda ni trwy'r amser, a thrwy bob peth. 'Rydym yn fwy ymwybodol ohono mewn ambell le, neu ar adegau arbennig, ond Duw llond pob lle ydyw...' ac fe ychwanegodd Sam: 'llond pob milliesecond hefyd!'

Dyfrig fu’n llywio trafodaeth grŵp 2:

...y nesaf yw efe

o bawb at enaid gwan...

Rhys oedd yn 'cadw'r cofnodion': 'Er bod amser wedi mynd heibio ers i David Jones ysgrifennu'r geiriau, mae lot fawr o eneidiau gwan - anghenus - yn y byd o hyd, a Duw yn agos atynt: ffoaduriaid, a'r bobl sydd yn dioddef oherwydd y daeargryn yn Nepal.'

Yn arwain grŵp tri bu Geraint:

...wrth law o hyd i wrando cri:

"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

Gruff E oedd yn siarad dros y grŵp: 'Gyda chymaint o boen yn y byd, mae'n bwysig credu a rhannu gyda phobl fod Duw yn gwrando arnom. Nid Duw pell sydd gennym, ond Duw agos, a da yw dod yn agos ato.'

Wedi dyfal a dygn daeru am gael gwneud fel y gwnaeth y Gweinidog yn yr oedfa deulu bore Sul, darparwyd i’r PIMSwyr newydd y cyfle i lenwi gwydr reit i’r ymyl, ac yna â phlât drosto, ei droi’n sydyn heb golli’r diferyn lleiaf. Cystal cydnabod, bod y ‘troi sydyn’ wedi profi’n hawsach o dipyn na’r ‘peidio colli diferyn’! Ta waeth, manteisiwyd ar y cyfle i gadarnhau’r neges: fod Cariad mawr y Duw sydd yn llond pob lle yn ddigon mawr i gynnwys pawb ym mhob man, a does neb y tu allan i’w ofal mawr.

Gan frysio ‘mlaen - gwyddai’r arweinwyr fod pitsa ar y ffordd - aethom i’r afael â’r gweithgarwch olaf ond un. Papur a phensil i bawb, a gofyn iddynt nodi:

...UN peth sydd yn gwneud nhw’n hapus.

'Cerddoriaeth', meddai Mared.

...UN peth sydd yn gwneud nhw’n drist.

'Gwario arian fy hun', meddai Gruff H.

...UN peth maen nhw’n gallu gwneud yn dda.

'Siarad a thrafod', meddai Heledd.

...UN peth y buasent nhw’n hoffi medru gwneud.

'Darllen meddyliau', meddai Tanwen

...UN peth maen nhw’n hoffi am yr ysgol...

'Amser egwyl', meddai Elin.

...UN peth nad ydynt yn hoffi am yr ysgol...

'Gwaith cartref dros wyliau'r Haf', meddai Rhys.

...UN peth maen nhw’n hoffi am eglwys Minny Street...

'PIMS', meddai Owain J.

...UN peth nad ydynt yn hoffi am eglwys Minny Street.

(Daliodd y Gweinidog ei anadl, ond 'roedd y cyfle yn rhy dda i'w golli): 'Y Gweinidog', meddent bob un, dan chwerthin!

...UN peth y buasent byth yn newid am ei hunain.

'Fy mrawd', meddai Ioan

...UN peth y buasent yn falch o gael newid am ei hunain.

'Poeni gormod am bethau', meddai Shani

Dosbarthwyd Beiblau, gan ofyn iddynt chwilio am adnod olaf Salm 73. Gyda’r PIMSwyr hŷn yn cynorthwyo’r cwmni iau, daethpwyd o hyd i’r adnod, ac wrth ei ddarllen, daeth sylweddoliad sydyn i ambell un, (daeth yn arafach o dipyn i rywrai eraill!) bod cysylltiad pwysig rhwng yr adnod a phennill David Jones:

...da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd Dduw yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau. (Salm 73:8)

Diweddwyd gyda chyfnod o weddi, gan estyn iddynt y cyfle i ymdawelu, gyda'i gilydd, gyda Duw.

Daeth y pitsa - digon i bawb - ac wrth fwyta gwahoddwyd, yn unol â hen arfer, y PIMSwyr oedd yn gadael i gyfarch y gweddill! Bu Heledd a Gruff yn rhan annatod o gymeriad PIMS, mawr ein diolch iddynt, ac fel arwydd o hynny, eto yn unol â hen arfer, cyflwynwyd iddynt gopi, a phawb wedi cael cyfle i 'sgrifennu nodyn bach ynddo, o 'Oh, the places you'll go!' gan Dr. Seuss (1904-91). Boed bendith Duw ar y PIMSwyr - maent, bob un, yn gyfryngau bendith i ni fel eglwys.

GWEDDI

September 7, 2015 Owain Evans

Arglwydd trugarog, gweddïwn dros bawb sydd wedi eu goddiweddyd gan drychineb - boed yn drychineb o wneuthuriad dyn neu’n drychineb naturiol.


Gweddïwn
dros bawb sydd wedi colli bywyd a thros y sawl sy’n ymdrechu i arbed bywyd;
dros y rhai sy’n pryderu am y sawl y maent yn eu caru;
dros y rhai sydd ar daith heb sicrwydd ble bydd y daith yn gorffen nac ychwaith a fyddant yn cyrraedd pen y daith.
Arglwydd trugarha wrthynt.

Gweddïwn
dros y sawl sy’n deisyf ‘yr hedd na ŵyr y byd amdano’;
dros bawb sy’n troi atat yng nghanol stormydd bywyd - ar bob cyfandir ac o dan bob math o amgylchiadau.
Arglwydd trugarha wrthynt.

Gweddïwn yn arbennig dros bawb sy’n ffoi neu’n cael eu herlid.

Arglwydd daioni, haelioni a chariad, diolchwn i ti am agor calonnau cynifer o bobl i’r rhai sy’n ffoi am eu bywyd.
Cynorthwya ni yn awr i agor ein breichiau ninnau i gynnal ffoaduriaid sy’n mentro popeth.
Goleua a nertha ni i ddefnyddio’r cyfryngau sydd ar gael i estyn cymorth er mwyn i’r rhai sy’n anobeithio darganfod gobaith newydd ac er mwyn cyfannu ac adfer bywydau sydd wedi cael eu dryllio.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist, dy Fab, a fu ei hun yn ffoadur.  Amen

NEWYDDION Y SUL

September 6, 2015 Owain Evans

Mawr ein diolch i’r Parchedigion Dafydd Andrew Jones, Towyn Jones, Hywel Wyn Richards, Wyn Vittle ac Aled Huw Thomas am bregethu meddylgar a phregethau gwerthfawr yn ystod mis Awst. Hyfrydwch, o Sul i Sul, oedd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas. Da yw cydaddoli a chyd-dystio. Boed bendith ar weinidogaeth eglwysi Caerdydd a Chymru gyfan. Trwom, rhyngom, amdanom boed cariad Duw. Lluniau bach ydym yn yr un llun.

‘Roedd yn dda gennym gael croesawi ein Gweinidog yn ôl i’n plith heddiw. Gweddïwn am wenau Duw ar y cyfnod newydd hwn o wasanaeth; a pha ffordd well i nodi dechrau cyfnod newydd na thrwy feithrin ambell arfer newydd wrth agor a chloi oedfaon y Sul. Bydd ein hoedfaon bellach yn dechrau yn sŵn Salm (95:1-5 y bore ‘ma), a hen hen weddi a berthyn i’r traddodiad Uniongred Dwyreiniol: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. I gloi bob oedfa, cyn y Fendith Apostolaidd, byddwn, o’r ieuangaf i’r hynaf yn deisyf bendith i’n gilydd gyda’r geiriau cyfarwydd rheini o Lyfr Numeri (6:24-26): Bydded i’r ARGLWYDD dy fendithio a’th gadw; bydded i’r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i’r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.

Cawsom wybod yn yr Oedfa Foreol mai dysgu rhifo yw’r nod y tymor hwn i’r Ysgol Sul a PIMS; gobeithir cyrraedd 12 erbyn mis Awst 2016! Â phawb wedi drysu braidd, aeth y Gweinidog yn ei flaen i sôn am y rhif 1, ac mai UN Duw sydd. ‘Roedd pawb bellach yn dechrau deall! Pam mai Un Duw sydd? Ble rhowch chi dduw arall, gan fod yr Un sydd gennym ymhob man?!

Mae Duw yn llond pob lle,

Presennol ymhob man...

(David Jones, 1805-68 CFf.76)

Beth i ni’n weld bob dydd; mae brenin ond yn gweld weithiau, ond welodd Duw erioed, ac ni wel byth o gwbl? Dyna oedd yr her gyntaf a osodwyd i ni gan y Gweinidog, a sawl un o’r plant yn ysu am gael ateb. Un Tebyg! Ni’n gweld rhai tebyg i ni bob dydd; mae’r brenin yn gweld ei debyg - sef brenin arall - weithiau, ond Duw...nid yw Duw yn gweld ei debyg byth. Unigryw ydyw. Un. Un Duw sydd, ac y mae’r un sydd gennym yn llanw pob lle!

Ymlaen yn ddiymdroi i'r ail her: Ydy Duw yn Llundain? Funafuti? Yaoundé? Mountain Ash? Arundel? Pont-y-clun? Dunwich? Hungerford? Dyna chi restr cwbl ddigyswllt o enwau, ac yna’n sydyn, y plant - sydd wedi hen arfer gyda theithi meddwl Owain Llyr - yn dechrau gweld; ‘roedd dwylo i fyny, a sawl un yn awchu cael cynnig ateb. Ydy! Mae Duw - yr Un - yn Llundain? Funafuti? Yaoundé? Mountain Ash? Arundel? Pont-y-clun? Dunwich? Hungerford? Erbyn cyrraedd Mountain Ash ‘roedd yr oedolion wedi dechrau dal i fyny gyda’r plant!

Wedi cyfnod o weddi, pan gofiwyd yn benodol am bobl ar ffo rhag rhyfel a gorthrwm; aeth y Gweinidog ati i lenwi gwydr mawr â dŵr, ‘roedd y gwydr yn llawn i’r ymyl. Mae cariad Duw yn cynnwys pawb, meddai. Un Duw sydd, lle bynnag i ni’n mynd; beth bynnag i ni’n gwneud; beth bynnag ydym, beth bynnag i ni wedi bod, beth bynnag i ni’n eisiau bod: mae cariad mawr yr UN Duw yn ddigon mawr i ddal y cyfan i gyd.

Yn sydyn, gosododd blât ar ben y gwydr, a’i droi - heb golli diferyn! Ie, meddai, un Duw sydd. Does unlle y medrwn fynd; does undim y medrwn ei wneud; does unpeth y medrwn fod sydd yn ein gosod ni y tu allan i afael cariad mawr yr UN Duw Mawr.

‘Roedd un peth ar ôl i ddweud: God is nowhere. Mae Duw yn absennol. Soniodd y gweinidog bod modd, gydag un symudiad syml, newid ystyr y cymal hwn yn llwyr. Nid Duw absennol, ond Duw presennol: God is now...here. Dyma sylfaen a chyfeiriad ein cenhadaeth fel eglwysi Cristnogol: cael pobl i weld a phrofi fod Duw gyda hwy, yn gysur a chymorth i fyw - God is now here.

Diolch am fendith cwmni’n gilydd yn Nuw. Braf oedd cael y gerddorfa ynghyd i arwain y gân yn ystod yr oedfa.

Wedi bwrlwm yr Oedfa Deulu, daeth cyfle liw nos am oedfa dawel. Yr wythfed Salm (ad.3-8) oedd ein man cychwyn. Arweiniwyd ni gan y Gweinidog i’r drydedd bennod o Lyfr Josua. Hanes pobl yn anturio cychwyn ar daith newydd sydd yn y bennod hon. Mae pobl Dduw wedi cyrraedd yr Iorddonen ac yn paratoi i groesi i Ganaan. Pwysleisir pedwar o bethau yn y bennod, a phob un yn gymorth mawr i ni ar ddechrau tymor newydd o wasanaeth:

1. Newydd-deb y ffordd.

2. Pwysigrwydd yr Arch.

3. Dyletswydd y bobl.

4. Ffyddlondeb Duw.

Wedi'r bregeth, daethom ynghyd wrth fwrdd y Cymun. Wedi cofio am y galarus, a’r anghenus; diolch am lwyddiant, a dymuno bendith i’r bobl ifanc ar ddechrau tymor newydd addysgol, buom yn ystyried arwyddocâd y cymal syml: Gwnewch hyn…(Luc 22:19b). Mae’n anodd peidio gwneud hyn, meddai, gan mai Iesu sydd yn ein hannog i wneud. Pwysig iawn felly y gwneud hyn: mae’r hwn a gofiodd amdanom yn dymuno i’r rhai a gofiwyd ganddo ei gofio yntau. Gwnewch hyn...Hawdd yw hyn - peth hawdd i gofio am beth anodd: aberth Crist. Peth bychan yw hyn - peth bychan i gofio am beth mawr: cariad Crist. Peth mawr yw hyn - wrth gofio’r Iesu a fu, cawn gwrdd â’r Crist sydd.

Braf oedd cael cymdeithasu â'n gilydd wedi'r ddwy oedfa, a'r festri'n fwrlwm o sgwrs a chyfeillgarwch. 'Roedd pawb yn gytûn: cafwyd Sul, hyfryd a bendithlawn. Awn rhagom i dymor newydd o wasanaeth, gan weddïo bendith Duw ar ein hymdrechion i fod yn eglwys sydd yn llawn sylweddoli gwerth dysg a phregethu, yn eglwys â gwres cyfeillgarwch o’i mewn; yn eglwys weddigar, gynnes, agored a bywiog.

Arglwydd Iesu llanw d’Eglwys,
â’th Lân Ysbryd Di dy Hun,
Fel y gwasanaetho’r nefoedd
Trwy roi’i llaw i achub dyn... Amen

(W. Pari Huws, 1853-1936; CFf 839)

PREGETH NOS SUL

September 6, 2015 Owain Evans

...nid ydych wedi tramwyo’r ffordd hon o'r blaen. (Josua 3: 3b)

Hawlia cychwyn ar daith i rywle sy’n ddieithr rhagbaratoi gofalus. Ym Mhennod 3 o Lyfr Josua, mae pobl Dduw ar lan yr Iorddonen a chawn fanylion y paratoi i groesi’r afon i Ganaan. Cyhoedda Josua fod llwyddiant yr antur yn dibynnu ar barodrwydd y bobl i wneud fel y gofynnwyd iddynt gan Dduw.

Newydd-deb y ffordd. ‘roedd y bobl hyn wedi hen arfer â theithio: Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch (Deuteronomium 8:2). Pam, o gofio hyn, fyddai ofn afon ar y bobl hyn? Ar y daith hirfaith i Ganaan cawsant lu o waredigaethau, trwch o gymorth a phentwr o fendith:

Wel, f’enaid dos ymlaen, ‘dyw’r bryniau sydd gerllaw

un gronyn uwch, un gronyn mwy, na hwy a gwrddaist draw:

(William Williams, 1717-91; C.Ff.750)

Tebyg i rywrai gwyno am y gwastraffu amser gyda’r holl baratoi, ond gwyddai Josua fyddai anawsterau ar y ffordd na fu iddynt eu cyfarfod yn yr anialwch. Nid oedd profiadau’r gorffennol yn ddigon ar gyfer y dieithrwch newydd hwn oedd o’u blaen. Mae hyn yn wir amdanom ninnau hefyd. Er wynebu ar flwyddyn newydd o wasanaeth o'r blaen, ni fu i ni erioed wynebu ar y flwyddyn newydd hon o wasanaeth. Gall llawer o bethau ddigwydd eleni a ymdebyga i’r hyn ddigwyddodd llynedd, ond daw llawer o brofiadau a gofynion cwbl wahanol hefyd. Gallwn baratoi trwy weddi, a’r weddi honno yn ein cynnal ar hyd y ffordd.

Pwysigrwydd yr Arch. Pan welwch yr offeiriaid...yn codi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, cychwynnwch o’ch lle ac ewch ar ei hôl, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd... (Josua 3:2b) Yr angen pennaf ar antur mor fawr oedd arweiniad; heb hynny, methiant fyddai’r cwbl. Mae’r Arch yn arwydd o bresenoldeb Duw gyda’i bobl. Ni fynnai Josua fentro’r un cam heblaw bod Duw yn mynd o’u blaen. Amser dedwydd oedd hwnnw pan ‘roedd y Genedl. Ar orchymyn yr Arglwydd...yn gwersyllu...yn cychwyn ar eu taith...yn cadw dymuniad yr Arglwydd... (Numeri 9:23). O fod wedi cadw at hyn byddid wedi cyrraedd Canaan tipyn ynghynt! Cofiai Josua mor gostus anufudd-dod a pheidio sicrhau i Dduw ei le priodol. Eleni, yn ein gweinidogaeth, ein gwasanaeth a’n cymdeithas, rhaid i ninnau ddilyn Arch y Cyfamod. Ofer pob cymdeithas, gwasanaeth a gweinidogaeth heb geisio’n gyson, a chyson ildio i Ewyllys Duw. Beth bynnag ddaw a pha beth bynnag na ddaw, yr unig wir lwyddiant i ymgyrraedd ato yw bod yn eglwys, yn a thrwy, ac er waetha bob peth sydd yn cadw dymuniad yr Arglwydd.

Dyletswydd pobl. ...dywedodd Josua wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch... (Josua 3:4) Y nod yw cadw dymuniad yr Arglwydd. Duw sy’n ein harwain, ein cynnal a’n bendithio, ond ni all Duw wneud hyn os bydd i ni ei anwybyddu. I dderbyn o’i fendith, rhaid bod yn barod i gael ein bendithio; i’n harwain, rhaid bodloni derbyn arweiniad; ac i’n cynnal gan Dduw, rhaid dewis pwyso arno. Mae’r alwad i ymgysegru i’r holl bobl yn ogystal ag at bob unigolyn. Gwaith i bawb yw gwaith Eglwys Minny Street; pobl mewn cymdeithas yn cydweithio, cyd-ddyheu, cyd-dynnu, cyd-ddibynnu, cydaddoli a chyd-weddïo. O ddewis cadw gyda’n gilydd gyda Duw diwellir pob angen, dilëir pob lletchwithdod, a datrysir pob problem.

Ffyddlondeb Duw. ...fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses...a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo’r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr, cronnodd y dyfroedd...a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho. (Josua 3: 14-16) Er nad mor ddramatig â chroesi’r Môr Coch (Exodus 14: 22-23), amlwg y neges: Duw sy’n arwain ei bobl. Hebddo, ni fyddai cyfle na modd i groesi. Yr ysbrydoliaeth fwyaf y gellid fod wedi rhoi i’r bobl hyn oedd eu hatgoffa o’r gynhaliaeth a fu. Hynny, yn sylweddoliad bod y gynhaliaeth honno’n gyson, yn llifo o heddiw, trwy heddiw i bob yfory:

Yr Arglwydd sydd yr un er maint derfysga’r byd:

er anwadalwch dyn yr un yw ef o hyd;

y graig ni syfl ym merw’r lli; “Nesáu at Dduw sydd dda i (ni).”

(David Jones, 1805-68; C.Ff.76)

...nid ydych wedi tramwyo’r ffordd hon o’r blaen. ‘Rydym ninnau, heddiw, yr un fath â Josua a’i bobl, yn wynebu’r anhysbys mewn gwasanaeth a gweinidogaeth. Awn trosodd, gan groesi gyda’n gilydd a gyda Duw yng Nghrist. Heb hynny, llwyddiant amheus fydd ein llwyddiant mwyaf.

(OLlE)

TERESA 1910 - 5/9/1997

September 5, 2015 Owain Evans

Heddiw, yn 1997, bu farw'r Fam Teresa (g.1910).

‘Rhaid i ni fod yn barod bob amser i dderbyn, i faddau, i garu, ac i sicrhau ein bod yn deall beth a olyga Duw pan ddywed: Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag i chi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch (Mathew 25:45). Wnawn ni byth wybod faint yn union o ddaioni gall gwên fach ei wneud. Dywedwn wrth bobl mor garedig, mor faddeugar, mor llawn o gydymdeimlad yw Duw, ond a ydym ni yn brawf byw o hyn? A allant, mewn gwirionedd, weld y caredigrwydd hwn, y maddeuant hwn, y cydymdeimlad hwn yn fyw ynom ni?

Byddwch garedig a thrugarog. Na foed i neb ddod atoch heb ffarwelio’n teimlo'n well a hapusach. Byddwch yn fynegiant byw o garedigrwydd Duw - caredigrwydd yn eich gwedd, caredigrwydd yn eich llygaid, caredigrwydd yn eich gwên, caredigrwydd yn eich cyfarchiad cynnes. Yn y slymiau, goleuni caredigrwydd Duw ydym i’r tlodion. I blant, i’r tlawd, i bawb sy’n dioddef neu’n unig, rhowch wên lawen bob amser. Rhowch iddynt, nid yn unig eich ymgeledd, ond eich calon.’

(Words to Love by. Ave Maria Press; 1983)

Dod i mi galon well bob dydd

a’th ras yn fodd i fyw

fel bo i eraill trwof fi

adnabod cariad Duw.

Amen.

Eifion Wyn (1867-1926. CFf.681)

(OLlE)

BABIMINI

September 4, 2015 Owain Evans

Cwmni bychan, ond dedwydd ddaeth ynghyd i gyfarfod cyntaf Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021