Cwmni bychan, ond dedwydd ddaeth ynghyd i gyfarfod cyntaf Babimini. Cafodd y rhieni hwyl a chwmni, sgwrs a phaned; a’r plantos hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Babimini. ‘Rydym wir yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
YR UN FYDD Y RHEOL AR GYFER ESTRON A BRODOR. MYFI YW'R ARGLWYDD EICH DUW. (Lefiticus 24:22)
Heidiau ohonynt; llifant dros bob ffin a ffens. Bygythiad ydynt i’n ffordd o fyw. Mae caer Ewrop o dan warchae'r minteioedd cryf. I amddiffyn ein safonau byw, i’r gad yr awn...
Ond, o’r gad y dônt...daeth y mwyafrif o’r 'mewnfudwyr' sydd wedi cyrraedd Ewrop eleni o Afghanistan, Eritrea, Somalia a Syria - meysydd cad bob un. Nid mewnfudwyr mohonynt mewn gwirionedd, ond ffoaduriaid. Fe ddônt o reidrwydd nid o wirfodd.
Mae Cytundeb y Cenhedloedd Unedig yn diffinio mewnfudwr fel hyn: 'where the decision to migrate is taken freely...and without intervention of an external compelling factor'. Mae’r diffiniad hwn yn amlygu’r gwahaniaeth allweddol pwysig rhwng mewnfudwyr a ffoaduriaid. Nid llif o fewnfudwyr sydd, ond argyfwng dyngarol.
Fe ddônt i Ewrop, oherwydd iddynt gredu fod yma ddemocratiaeth war; diogelir yma, i bawb yn ddiwahân, hawliau dynol, diogelwch a chyfle i fod yn ddedwydd. Credant fod hyn yn wir, gan fod y diwylliant Gorllewinol wedi dyfal daeru mai dyma sy’n wir amdanom: gwych a gwar ydym; gobaith byd.
Fe ddônt i Ewrop, oherwydd iddynt gredu ein broliant. Fe ddônt gan obeithio fod i’r broliant sylwedd.
Mynegwyd y cyfan yn gymen, gan Alessandro Bechini, Cyfarwyddwr Oxfam yn yr Eidal: 'Refugees fleeing persecution need safe and legal avenues for claiming asylum. These are principles to be upheld, not empty statements to be ignored in favour of building a more fortified Europe.'
Fe ddônt, ac wrth ddod gosodant brawf - o bosib iawn y prawf terfynol - ar yr hyn yw’r Diwylliant Gorllewinol yn ei hanfod. Yn ein hymateb i’r ffoaduriaid hyn, amlygir beth ydym, a beth allem fod.
(OLlE)
OFN, CYRI AC ATGOFION DRWG
Mae ymchwil gwyddonol diweddar yn awgrymu y gallai Curcumin - cyfansoddyn perlysieuyn Turmeric, a ddefnyddir mewn amrywiol fathau o gyri - fod yn gyfrwng i ddileu atgofion chwerw.
Gallasai Curcumin atal yr ymennydd rhag storio’r atgofion cas rheini sy’n creu a chynnal ofn; yr un peth yn anad dim sydd yn sbardun i bob math o ddoluriau seicolegol.
Gobeithir y bydd yr ymchwil hwn yn arwain at ddatblygu meddyginiaethau newydd yng nghyswllt trin salwch seiciatrig.
‘Ofn’, meddai Kate Roberts (1891-1985) yn Y Lôn Wen (1960), ‘yw ein gelyn mwyaf, yn ifanc ac yn hen.’ Mae pryder yn pwyso, a gofid yn gwasgu arnom; ie, ofn yw ein gelyn mwyaf, o’r ieuengaf i’r hynaf ohonom.
O’r herwydd, ceisiwn gael gafael ar rywbeth, neu rywun, sydd inni’n ddiogelwch. Buan y sylweddolwn, nad yw cael gafael ar rywun neu rywbeth - hyd yn oed Dduw - yn ddigon i ddifa ofn. Pam? Llac - ar y gorau - yw’n gafael; mae cadw gafael yn anodd. Mentraf awgrymu mai hanfod ein hofn yw ein hanallu i ddal gafael, a’r arswyd o ddaw yn sgil gwybod hynny.
Mae’r ‘afael sicraf fry’ (Pedr Fardd, 1775-1845; CFf.677). Y ffaith honno sy’n difa ofn: derbyn nad dal gafael ar Dduw mo Iachawdwriaeth, ond yn hytrach, Duw yn gafael ynom, a ninnau o’r herwydd yn ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof...(Philipiaid 3:12. WM).
Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD; ac efe a’th gynnal di...(Salm 55:22a) Nid dim ond ysgwyddo dy faich mae Duw, mae’n dy gario tithau hefyd; dy faich a tithau, ill dau wedi’u cynnal mewn cariad.
Amgylchyna ni a’th dangnefedd. Castella dros ein meddyliau ofnus a’n calonnau gweinion. Amen.
ROY CASTLE 1932 - 2/9/1994
Heddiw, yn 1994 bu farw’r diddanwr, a chyflwynydd y rhaglen deledu Record Breakers: Roy Castle.
Cyn ei farw, gofynnwyd iddo mewn cyfweliad i sôn ychydig am ddiwrnod orau ei fywyd. Yn Gristion o argyhoeddiad, atebodd - gyda’i wên arferol: My best day is yet to come!
Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?
Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.
Er i’m calon a’m cnawd ballu,
eto y mae Duw yn gryfder i’m calon ac yn rhan imi am byth.
(Salm 73:25-26)
Trawir nodyn annisgwyl yn yr adnodau uchod. Ni roddir mynegiant i’r gred mewn anfarwoldeb yn aml yn y Salmau. Hyfrydwch felly yw canfod llwybr yn arwain o’r Salmau at y bedd gwag. Wrth y bedd hwnnw nid arswydir neb gan haerllugrwydd Algernon Charles Swinburne (1837-1909; Hymn to Posperine): No god has been found stronger that death. Cydiwn ym mhendantrwydd gostyngedig Gwilym R. Jones (1903-1993): Un cryfach nac angau yn ddiau sydd Dduw (I Arglwydd y Bedd: Molawd y Pasg).
Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân, megis yr oedd yn y dechrau, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
(OLlE)
R. GWYNFOR EVANS
"Y mae Cristnogaeth yn wleidyddol neu nid yw’n ddim."
R. Gwynfor Evans (1/9/1912-2005)
Y mae Cristnogaeth yn wleidyddol neu nid yw’n ddim. Ceisiaf gyfiawnhau’r gosodiad eithafol hwn, gan ddechrau gyda datguddiad Iesu Grist o Dduw fel cariad. Hyn yw rhyfeddod mawr y bywyd dynol, fod y Creawdwr mawr tragwyddol, y mae ei fawredd yn gwbl annirnadwy, yn ein caru ni ei greaduriaid dynol bob yn un ac un. Amlygodd Iesu hefyd amcan bywyd dyn: gogoneddu Duw yw hynny trwy ei garu Ef a charu cymydog. Ym mywyd Iesu, roedd y ddau yn gwbl anwahanadwy...Ewyllys Duw yw sylfaen cariad dyn at gymydog.
(Gwynfor Evans: ‘Cristnogaeth Cymru a Heddwch’. 1986)
Am dair canrif bu’r Eglwys yn llwyddiant ysgubol. Yna daeth ymerawdwr Rhufain yn Gristion. Eisiau gorchfygu’n filwrol oedd Cystennin (272-337) a’i awydd oedd talu gwrogaeth i’r Duw hwnnw a fyddai’n ei gynorthwyo orau i wneud hynny. Am resymau gwleidyddol trodd Cystennin a’r Ymerodraeth Rufeinig yn Gristnogol.
Bu rhaid i Eglwys Iesu Grist wynebu’r demtasiwn a wynebodd Iesu ei hun: ...cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant, a dweud wrtho, ‘Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi lawr a’m haddoli i (Mathew 4: 8). Cynigwyd holl deyrnasoedd y byd i Eglwys Iesu Grist. A oedd hi i bylu disgleirdeb ei gweledigaeth er mwyn ennill yr holl fyd, neu a oedd i gadw’r weledigaeth yn eu disgleirdeb a cholli’r byd? Yn hyn, dewisodd Eglwys Iesu Grist yn wahanol i’w Harglwydd. Plygodd ei glin, a daeth y teyrnasoedd yn eiddo iddi. Ers hynny, bu’r Eglwys yn gymharol fethiant, gan mae nid llwyddiant yw i rywbeth oleuo fel cannwyll pan ddylai oleuo fel haul. Ildiodd ei gweledigaeth briod ei hun i weledigaeth plaid wleidyddol.
Nid yw tynged Eglwys Iesu Grist yn dibynnu ar ei chysylltiad â phlaid neu bleidiau gwleidyddol; yn hytrach dibynna ar gysylltiad byw â gwleidyddiaeth dragwyddol Deyrnas Crist.
Gwisg ein gwleidyddion, O! Arglwydd yr arglwyddi, â doethineb, pwyll, gostyngeiddrwydd a chyfiawnder. Plyg eu polisïau a’u cymhellion i wasanaeth Dy Deyrnas. Amen.
(OLlE)
