Yr Ysgol Sul
Beth sy'n digwydd yn yr Ysgol Sul?
Lleucu Parri
Beth fu’n digwydd yn yr Ysgol Sul – Mai a Mehefin 2011?
Canolbwyntio ar Hanes Esther yr Hebrees, a fagwyd gan ei chefnder Mordecai, a briododd y Brenin Ahasferus, ac a roddodd ei bywyd mewn perygl i achub ei phobl rhag cynllwyn Haman, y Prif Weinidog, fu Thema Astudiaeth yr Ysgol Sul yn ystod Mis Mai. Bu’r Plantos wrthi yn gweithio’n ddyfal ar ddwy agwedd o’r hanes. Yn gyntaf, beth yw ystyr yr enw Esther? Y dehongliad mwyaf cyffredin yw mai ‘seren’
yw’r ystyr a chafwyd cyfle yn y Sesiwn Gwaith Crefft i ddylunio a chreu sêr! Yn rhedeg fel llinyn trwy Hanes Esther mai Thema Cariad. Cariad Duw oedd testun gweithgarwch y Plantos yn Ysgol Sul olaf y mis. Braf oedd cerdded i mewn i’r Festri ar ddiwedd yr Oedfa a gweld y muriau wedi eu gorchuddio â chrefft y plant wrth iddynt, trwy grefftwaith, gyfleu’r Cariad Rhyfeddol hwnnw.
Trafod Esther bu’r Bobl Ifanc hefyd yn ei wneud gan ofyn cyfres o gwestiynau yn codi o hanes yr Hebraes a roddodd ei bywyd mewn perygl i achub eraill. Trafodwyd nifer o gwestiynau: Oes yna adegau pan mae yn anodd sôn wrth eraill am ein Ffydd? A oes rheidrwydd arnom fel Cristnogion i sôn am ein Ffydd bob cyfle gawn? Pa mor anodd yw sefyll i fyny dros rywbeth pan fydd yna bosibilrwydd y bydd hynny yn eich peryglu?
Rosa Parks ar y bwsYn sgil y cwestiwn olaf, cafwyd trafodaeth dreiddgar iawn am Rosa Parks (1913 - 2005), Martin Luther King Jr. (1929 - 1968), Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng nghyfnod y Rhyfeloedd Byd ac Ymgyrchwyr dros yr Iaith Gymraeg.
Gan fod Wythnos Cymorth Cristnogol yn syrthio yng nghanol Mis Mai rhaid fu treulio un Ysgol Sul yn canolbwyntio ar waith yr asiantaeth honno. Dyma adroddiad Rhian Williams, un o Athrawon yr Ysgol Sul, am weithgarwch y sesiwn arbennig honno: “Heddiw buom yn dysgu am helpu a rhannu, ac am waith Cymorth Cristnogol yn helpu dod a dŵr i gymunedau. Cawsom hwyl yn canu “Dyma’r ffordd i olchi dannedd … brwsio dannedd … nofio’n y pwll … gael bath … fflysio’r tŷ bach … mewn gwlad lle mae digon o ddŵr.” Mwy o hwyl fyth oedd y sialens o gario dŵr mewn bwced ar y pen!
Anobeithiol oedd Minis Minny ar y dasg, mae arnaf ofn! Byddai pentrefi Mali wedi sychu’n grimp! Aethom ati wedyn i drafod pa mor wahanol oedd ein defnydd ni o ddwr o’i gymharu â phentref yn Mali. Yno, bydd plant bach y pentref yn methu mynd i’r ysgol, methu chwarae gyda ffrindiau a methu cael hwyl am eu bod yn gorfod mynd i nôl dŵr o’r ffynnon. Yn ein hamser tawel buom yn gwrando ar stori’r dyn cyfoethog. Y plantos yn unfryd unfarn y dylasai’r dyn fod wedi rhannu’r grawn a gasglodd yn hytrach na’i gadw. ‘Roeddem i gyd yn gytûn y dylem rannu beth oedd yn sbâr gennym i wneud bywyd eraill yn well. I orffen, daeth y rhubanau a’r sticeri a phapurau lliwgar allan, ac ati a ni i wneud baneri neges Duw a’u hongian dros y Festri fel bod Duw Cariad Yw yn sbiralau coch a gwyn ar draws muriau Minny”.
Y Pentecost oedd Thema Mis Mehefin. Unwaith eto, cafodd y Plantos hwyl enfawr yn astudio’r hanes, y Adroddiad Elentro hwn wrth geisio dychmygu sut ‘beth’ a sut deimlad oedd yr Ysbryd yn disgyn ar ddilynwyr Iesu. Beth yn union oedd yr effaith a gafwyd arnynt? Sut beth yn union oedd y gwynt yn chwythu … dychmygwch ddosbarth o Blantos yn chwythu ac fe gewch yr ateb! Dyma adroddiad un o’r Plantos - Elen - o’r wers lle clywodd gyntaf am yr ysbryd fel gwynt mawr: “Rydym ni heddiw wedi bod yn chwarae gem chwythu a lliwio llun Iesu, ac roedd Eirian wedi darllen stori am Iesu. Roedd hi’n wych ac roedd y stori amdano gwynt cryf yr Ysbryd Glan.”
Cynhelir Digwyddiad Diwedd Tymor yr Ysgol Sul ar Brynhawn Sul, 3 Gorffennaf 2011.
