Yr Wythnos Hon

Dydd Sul, Chwefror 19

Oedfaon y dydd dan arweiniad ein Gweinidog

10:30     Oedfa Foreol (Thema’r oedfa: Cam wrth gam trwy Efengyl Mathew) ac Ysgol Sul (Tîm 2)

Thema Adnodau’r Oedolion: TRUGAREDD

Diolch i Eilonwy Jones am ddewis themâu yn seiliedig ar newyddion yr wythnos ar gyfer ein gweddïau yn yr Oedfa Foreol

Bydd y Cylch Dinasyddiaeth yn cyfarfod wedi’r Oedfa Foreol yn benodol i drafod gweithgaredd Pythefnos Masnach Deg (27 Chwefror - 11 Mawrth 2012)

18:00     Oedfa Hwyrol (thema’r oedfa: Gwyddoniaeth a Ffydd: Y Tabl Cyfnodol)

19:30     Koinônia: yn La Trattoria Molisana (angen bod wedi archebu ymlaen llaw)

 

Dydd Llun, Chwefror 20

19:00     Cyfarfod Diaconiaid

Dydd Mawrth, Chwefror 21

19:30     Bethania: Fesul Gam trwy Efengyl Mathew:  Mathew 4: 18-25

Dydd Iau, Chwefror 23

19:30     Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Minny Street: Myfyrdod y Grawys (1) dan arweiniad ein Gweinidog

 

Dydd Sul, Chwefror 26

Oedfaon y dydd dan arweiniad y Parchedig Dewi Myrddin Hughes (Clydach)

10:30     Oedfa Foreol ac Ysgol Sul (Tîm 3)

14:30     Minny Street yn gyfrifol am de i’r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis

18:00     Oedfa Hwyrol

 

Taflen Cyhoeddiadau