ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (22)

Llun: Gustave Dore

Heddiw, Angylion ... a bugeiliaid yw testun ein sylw.

... dywedodd yr angel wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd. (Luc 2:10)

Yn gwbl nodweddiadol o Luc, fe gyhoeddir geni Iesu yn gyntaf i fugeiliaid o bawb - dosbarth cyffredin a syml. Cawn yma un o ddarluniau prydferthaf yr Efengylau. Aeth y bugeiliaid yn eu braw i Fethlehem, er mwyn gweld y wyrth drostynt eu hunain. Gwelsant a dychwelsant - dyma’r daith genhadol gyntaf erioed!

Dos, gyfaill, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (21)

Heddiw, Angylion yw testun ein sylw.

Oherwydd rhydd orchymyn i’w angylion i’th gadw yn dy holl ffyrdd ... (Salm 91:11)

Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. (Hebreaid 13:2)

Llun: Kvams Flisespikkeri

Heddiw, tri dyfyniad; y cyntaf gan William Williams, Pantycelyn (1717-1791), yr ail gan Ann Griffiths (1776-1805), a’r olaf, yn Saesneg gan yr awdur Americanaidd Kurt Vonnegut (1922-2007). Ni fu Vonnegut yn fath gwmni aruchel erioed am wn i!

Pe meddwn ddawn angylion,

a harddwch seintiau fry,

y cariad, sêl, doethineb gan y cerubiaid sy’,

Pe meddwn holl berffeithrwydd y dynion gorau gaed,

Casawn fy hun yn ffiaidd, mi syrthiwn wrth dy draed.

(Golwg ar Deyrnas Crist)

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion

rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd

gweld rhoddwr bod, cynhaliwr helaeth,

a rheolwr pob peth sydd,

yn y preseb mewn cadach,

a heb le i roi’i ben i lawr,

ac eto disglair lu’r gogoniant

‘N ei addoli’r Arglwydd mawr.

There is no reason why good cannot triumph as often as evil. The triumph of anything is a matter or organisation. If there ar such things as angels I hope they are organised along the lines of the Mafia.

(Sirens of Titan)

Diolch i ti, Annwyl Dad, am bob angel a anfonaist i’m hebrwng ar y daith. Amen.

ADFENT 2018: 'O! TYRD, FLAGURYN JESSE, NAWR' (20)

Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i ... (Luc 22:20)

Felly, os yw dyn yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma. (2 Corinthiaid 5:17)

Llun: Charles Walker

Rhywbeth dynamig, newydd a chreadigol ffres yw’r ffydd Gristnogol. Ein gwaith ni - pawb ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf - yw bod yn arbrofol fentrus, yn chwyldroadol greadigol er mwyn codi pontydd rhwng ein daliadau crefyddol ar y naill law, ac angen byd ar y llall. Peidiwn ag osgoi’r her, gan fod y cyfan wedi ei sylfaenu ar un o golofnau cadarnaf ein ffydd: "Y mae’r dyddiau’n dod, medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i’r cyfamod a wneuthum â’u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i’w harwain allan o wlad yr Aifft ... rhof fy nghyfraith o’u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi’n Dduw iddynt a hwythau’n bobl i mi."(Jeremeia 31:31-34)

Crea galon lân ynof, annwyl Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn. Amen.