Bore Sul am 10:30 bydd ein Gweinidog yn ystyried anogaeth Iesu: Edrychwch ar adar yr awyr ... (Mathew 6:25-34). Dyna’n syml bydd echel y bregeth - edrych ar adar yr awyr, a dysgu gan aderyn y to, y wennol a’r eryr. Cynhelir yr Ysgol Sul.
"The Mad Harpist’s Tea Party": Cyngerdd a Chacen yng nghwmni Manon Browning (16:30-17:30; manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).
Liw nos (18:00) bydd pregeth y Gweinidog yn trafod yr hyn a ellid ei ddysgu am ffydd a chredu gan ... y pry’ copyn, y falwoden a’r dylluan!
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Lun (16/4; 19:00-20:30) - PIMS.
Nos Fawrth (17/4; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda BATHSEBA (2 Samuel 11:1-4; 1 Brenhinoedd 1:15-21).Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Babimini bore Gwener (20/4; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.