Newyddion
Myfyrdod Grawys 2012 - 22 Chwefror 2012
Dros yr ychydig wythnosau nesaf cawn gyfle yng nghwmni’r Gweinidog i chwilio am y Groes. Fesul wythnos ystyriwn wahanol ddehongliadau symbolaidd o’r Groes, a hynny er mwyn lledu ein hadnabyddiaeth o berchennog y Groes – Iesu, ein Harglwydd. Hanes Helena, Mam Cystennin Fawr, sy’n estyn cymorth ym Myfyrdod Cyntaf Grawys 2012.
Dros Gyfnod y Grawys bydd y Funud i Feddwl wythnosol yn ymddangos ar y wefan ar Fore Gwener.
Bethania – 21 Chwefror 2012
Vocation de Saint Pierre et Saint André gan James Tissot (1836-1902)Gyda hanes galw’r pedwar pysgotwr (Mathew 4: 18-25) yn fan cychwyn, heno buom yn trafod pam y galwodd Iesu ddisgyblion. ‘Roedd gan Iesu beth newydd i’w gynnig i’w fyd, a’r ffordd orau i’w gyflwyno oedd casglu cwmni bychan at ei gilydd a’u trwytho yn y ‘peth’ newydd hwn! Ar ôl gwneud hyn, anfonodd Iesu’r cwmni allan i ledaenu hanes a gwybodaeth am y ‘peth’. Mae’r gwaith yn parhau, gyda phob cenhedlaeth newydd o ddisgyblion. Weithiau mynna trafodaeth Bethania ei ffordd ei hun. Heno, aethom, maes o law, i drafod goblygiadau bod yn ddisgybl heddiw, a sut sydd orau i ymateb i’r tanseilio tawel cyson sydd ar ein ffydd. Bu’r drafodaeth yn frwd a buddiol.
Ôl-troed, Lili’r Maes ac Aur – 19 Chwefror 2012
Gyda Chwis Byd Natur cychwynnwyd Sgwrs y Plant fore heddiw gyda’r Gweinidog yn rhannu’r gynulleidfa yn ddwy garfan, a’r ddwy, am yn ail, yn ceisio dyfalu ôl-troed pa anifail oedd yn cael ei arddangos … llygoden fawr, cath a chi, jac-y-do, buwch a hwyaden! Dilynwyd y cwis gyda’r Gweinidog yn gwirio bod y gynulleidfa yn cofio enwau’r deuddeg disgybl. Llwyddwyd i
wneud hynny ond pawb yn ceisio darganfod y cysylltiad rhwng y ddau weithgarwch … Simon Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, Philip, Bartholomeus, Thomas, Mathew, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot. Dilyn ol-traed ei Harglwydd a’u harweinydd a wnaeth y disgyblion - dysgu a datblygu doniau o dan gyfarwyddyd a bendith Iesu. Dyna hefyd a wnawn ni oedd neges y Gweinidog, ceisio dilyn ôl-troed ein Gwaredwr … ymateb i’w neges, gweithredu yn ôl ei arweiniad a’i ganllawiau, a sicrhau bod cariad Duw i’w weld trwom ac ynom. Troedio yn ôl-troed Iesu - dyna’r her, a’r fraint, sydd o’n blaenau. Troedio, neu fynd o gam i gam, fu pwnc trafod y Cylch Dinasyddiaeth yn ei gyfarfod ar ôl yr Oedfa Foreol. ‘Cymryd Cam’ yw thema Pythefnos Masnach Deg 2012 (27 Chwefror - 11 Mawrth 2012) a thrafod beth fyddwn ni, fel Eglwys Masnach Deg gofrestredig, yn ei wneud i gamu ymlaen fu testun y drafodaeth. Parhau gyda’u gwaith yn astudio
Moses yn y Brwyn. hanes Moses fu Plant a Phlantos yr Ysgol Sul - creodd y Plantos furlun newydd o ddarganfyddiad Moses yn y brwyn.
Trugaredd oedd thema Adnodau'r Oedolion fore heddiw a chafwyd nifer o adnodau, o'r Hen Destament a'r Testament Newydd, yn tanlinellu maint a natur Trugaredd Duw. Clywyd nifer o adnodau yn llawn ysbrydoliaeth: "Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni." (2 Corinthiaid 4: 1) Ers Mis Medi 2012 bu’r Gweinidog yn gofyn i unigolyn neu deulu o blith y gynulleidfa gynnig themâu gweddi; rheini, fel arfer, yn codi o newyddion yr wythnos flaenorol. Eilonwy Jones fu wrthi yn cyfeirio ein gweddïau yn yr Oedfa Foreol. Buom yn gweddïo dros y rheini o’n cyd-ddinasyddion, yn arbennig ymysg yr ifanc, sy’n isel ei hysbryd a gwneud hynny yn y gobaith y bydd datblygiadau meddygol diweddar o fodd i’w cynorthwyo Cawsom gyfle i gofio am bobl Syria, Bahrain ac Afghanistan, tair o wledydd y byd sydd o dan gwmwl trais, rhyfel ac anghydfod. Gan gofio am Ddarlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, buom hefyd yn gweddïo dros ein gwlad, ein cenedl, ein hiaith a’n thraddodiadau. Fe’n hatgoffwyd o ddigwyddiad yn un o gynghorau Lloegr lle gwaharddwyd gweddi cyn
The God Particle. Crewyd y llun gan Mark Evans.cychwyn cyfarfod busnes. Soniodd Eilonwy am erthygl gan Iddew, yn y Times, a oedd |yn mynegi ei dristwch o glywed am yr agwedd hon. Ar yr un trywydd, bu’r Farwnes Warsi yn dadlau bod yn rhaid i Gristnogion ymfalchïo yn, nid ymddiheuro tros eu ffydd o hyd fyth. Nodwyd i nifer reit sylweddol o gynulleidfa Pawb a’i Farn a 'Question Time' yr wythnos a aeth heibio ddatgan nad yw crefydd bellach yn rhan bwysig o’u bywydau. Onid her sydd yma o’r angen dybryd i ni genhadu, ac i genhadu’n effeithiol, rhaid dysgu cyfathrebu’n effeithiol. Cyfeiriodd Eilonwy hefyd at ddarganfyddiad 'The God Particle' sef gronynnyn y bu gwyddonwyr yn twrio a chwlio’n ddyfal i geisio darganfod. Credir fod y gronyn hwn yn creu mas wrth iddo daro yn erbyn gronynnau eraill: “Nertha ni, Arglwydd i droi pob gwybodaeth newydd, pob datblygiad, pob darganfyddiad newydd yn fendith; i dyfu’n dda wrth dyfu mewn gwybodaeth; i adnabod y Gwir wrth geisio gwirioneddau. Amen”
Anemone coronaria“... Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu.” (Mathew 6: 29b) oedd testun Homili’r Bore. Pam dylid ystyried y lili? Cynigiodd y Gweinidog dri rheswm. Ystyriwch y Lili … a thyfwch … Fe’n cymhellir drwy’r Testament Newydd i dyfu ac i ddatblygu: “Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.” (2 Pedr 3: 18). Rhaid annog ein gilydd i gymryd ein trwytho yng Nghrist. Crist yw’r Athro, Crist yw’r Wers a Christ yw’r Ysgol. Nid digon i unrhyw eglwys leol fod yn gartref a chorlan, rhaid iddi hefyd fod yn ysgol a choleg. Ni ellir adeiladu ffydd ar anwybodaeth. Ystyriwch y Lili … a chwiliwch am y pethau prydferth ... “Ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed
Solomon yn ei holl ogoniant: The Queen of Sheba before Solomon gan Nicolas Knupfer(1609-1655)Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain.” (Mathew 6: 28) Pa lili fu Iesu yn sôn amdani? Cred arbenigwyr mai’r anemoni coronog yw’r planhigyn arbennig y sonia Crist amdano - Anemone coronaria; yn dilyn glaw cynnar dechrau’r Gwanwyn blodeua’r anemoni yn borffor, pinc a glas. Yn gyffredinol, cyfeirio at flodau gwyllt, hardd a wna Iesu; boed i ninnau sylwi ar sut mae Duw yn gwasgaru prydferthwch ym mhob man ... fel blodau gwyllt. Prydferthwch a lwyddodd i’w gasglu o’i amgylch oedd prydferthwch Solomon, ond ceir gogoniant a phrydferthwch arall, a gwahanol, ym mhrydferthwch y lili. Prydferthwch yr hyn oeddent oedd prydferthwch lili’r maes, nid yr hyn oedd ganddynt. Dyna’r prydferthwch dylid ei geisio - prydferthwch daioni, cariad, gofal a chonsyrn. Ystyriwch y Lili … ac na phryderwch … Byddai rhai yn dadlau bod bywyd yn elyn i ddyn, ac mai dyletswydd dyn yw trefnu ei fywyd i’w amddiffyn rhagddo. Dysg Iesu bod bywyd yn ffrind i ni am fod llywodraeth Duw drosto. Ni wyddom beth sydd o’n blaenau ar ddechrau wythnos newydd ond gwyddom beth bynnag a ddaw, ni phall ei gariad a’i ofal. Neges ein ffydd yw bod Duw yng Nghrist yn rhannu ein bywyd ni.
Ymweld â’r Tabl Cyfnodol a wnaethom yn ein Hoedfa Hwyrol – ein pumed ymweliad! Tra erys y Tabl, hyd heddiw, yn allweddol i’n dealltwriaeth o’n hunain a’r byd o’n cwmpas cynnig y Tabl hefyd gyfle i ni weld a dysgu rhywbeth am ein crefydd a’n ffydd. Aur oedd yr elfen dan sylw heno. O’i gymharu ag arian a chopr, nid yw aur yn ddefnyddiol! Perthyn i arian, er enghraifft, ddefnyddioldeb diwydiannol amlwg ac eang - mae’n hyblyg a hydrin, llifa trydan a gwres yn hwylus ar ei hyd ac adlewyrchir golau yn dda ganddo. Annefnyddiol iawn yw aur ond cyfeiriwn ato fel trysor. Gyda’r dirwasgiad daeth galw cyson am aur. Tra cyll arian parod ei werth, erys aur, ceidw ei werth! Efallai nad yw aur o ddefnyddioldeb mawr - ond nid ‘worthless’ popeth ‘useless’! Soniodd y Gweinidog am Yr Eneinio ym Methania (Marc 14: 3 - 9). Efallai bod y cariad a amlygwyd yn nhŷ Simon y
Gwahanglwyfus, fel aur, yn annefnyddiol, ond ‘roedd yn drysor! Nid da bob amser mesur gwerth rhywbeth yn ôl ei ddefnyddioldeb. “A gwelodd Duw fod hyn yn dda” (Genesis 1:12) Crëwyd y cyfan gan Dduw da yn adlewyrchiad o’i ddaioni. Fe’n crëwyd ninnau ar lun a delw Duw da i wneuthur daioni. Diben byw yw gwneuthur daioni - i ledu cariad, a thaenu gobaith, a hybu ffydd - i hyn y’n crëwyd bob un. Mae perygl anghofio hyn, oherwydd bod diwylliant o’n cwmpas yn mynnu bod gwneud yn dda yn bwysicach na bod yn dda. I grynhoi, fe’n cyfeiriwyd gan y Gweinidog at hanes Jacob yn yr Aifft (Genesis 47: 27-21). Cawn hanes Jacob yn ymbil ar Joseff i gladdu ei gorff yn Israel - “Yna ymgrymodd Israel a’i bwys ar ei ffon” (Genesis 47: 31). Ai ymgrymu mewn diolch i Dduw a wnaeth Jacob nid yn gymaint am fod Joseff wedi gwneud yn dda, ond am fod Joseff yn dda, yn garedig, yn gyfiawn a gonest. Llinyn mesur ein byw yw’r da a wnawn nid y da sydd inni. Os medrwn ddysgu ein plant, y plant a ymddiriedwyd i’n gofal, a phlant ein plant, bod gwneud yn dda mewn bywyd fel arian yn drysor werth ei gael, a bod ennill bywoliaeth dda, fel copr, hefyd yn drysor, ond mae’r pennaf drysor yw aur – bod yn dda, efallai byddwn ninnau, fel Jacob, yn medru diolch i Dduw bod ein plant yn garedig, yn gyfiawn a gonest, a gwybod na fu ein byw yn ofer.
Yn ystod y dydd cyfarfu’r Cylch Elusen i drafod amserlen gweddill ein gweithgareddau er budd Ambiwlans Awyr Cymru, ein helusen am eleni. Yn dilyn yr Oedfa Hwyrol parhau wnaeth y gymdeithas i nifer o’r gynulleidfa dros bryd bwyd mewn bwyty cyfagos yn ein Koinonia Hwyrol misol.
Munud i Feddwl - 15 Chwefror 2012
Nick Gibb AS Bognor Regis a Littlehampton; Gweinidog Ysgolion"We blog, we tweet, report, comment, email and update to an astonishing extent. We need - if you'll forgive the Dickens pun - much greater expectations of children in reading." (Nick Gibb, Gweinidog Ysgolion Llywodraeth San Steffan 6 Chwefror 2012, Noswyl Dathliad Daucanmlwyddiant Charles Dickens (1812-1870)). Dombey and Son, Great Expectations … addoliad, gweddi a darllen y Beibl. Ac yna mae’r basned cawl cenin a’r Parchedig Ednyfed Davies … ac yntau heb lwy! Darllenwch am gyflwr ein heglwysi yng Nghymru 2012 ym Munud i Feddwl y Gweinidog yr wythnos hon.
Cylch y Gymdeithas Ddiwylliannol a Bywyd Cymdeithasol: Y Gymdeithas – 14 Chwefror 2012
Elen ap Robert, un o blant yr Eglwys, oedd y siaradwraig wadd yn y Gymdeithas Ddiwylliannol heno. ‘Roedd yn achlysur arbennig i Elen ac i ninnau’r gynulleidfa niferus a ddaeth ynghyd, oherwydd yma yn Eglwys Minny Street y bu tad-cu Elen, Y Parchedig R.J. Jones, yn weinidog yn y cyfnod 1931 - 1961. Er i
Galeri, CaernarfonElen a’i theulu ymgartrefu yn y Felinheli ers rhai blynyddoedd bellach,’ roedd swyn deheuol ei lleferydd mor bersain ag erioed. Wrth groesawu’n gwestai arbennig, fe glywodd y gynulleidfa am yrfa ddisglair Elen fel cantores broffesiynol yn y cyfnod wedi gadael Ysgol Llanhari a graddio mewn cerddoriaeth gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Safleoedd.
Testun y ddarlith oedd Hanes Sefydlu Canolfan Galeri ers ei agor wyth mlynedd yn ôl yng Nghaernarfon. Elen fu’r Gyfarwyddwraig Artistig yno ers y cychwyn cyntaf. Trwy gymorth llais a llun cawsom ein harwain ar hyd y llwybrau anturus ac astrus a fu’n wynebu’r tîm bychan o arweinwyr. ‘Roedd ceisio cymathu a chyd integreiddio gwahanol haenau o gymdeithas Caernarfon a’r cyffiniau o dan un ymbarél artistig yn her arbennig iddynt. Mae’n amlwg i Elen a’i thîm lwyddo yn eu nod a’u hamcanion.
Y Theatre Nid Ysgol Gerdd William Mathias oedd yr unig sefydliad a gafodd gartref yn y Galeri. Bu grwpiau arbrofol theatrig teithiol yno yn achlysurol yn diddanu plant ac oedolion o bob cenhedlaeth. Cynhaliwyd gweithdai a fyddai’n apelio at nifer fawr o blwyfolion Tre’r Cofis, gan gynnwys plant ac oedolion.
Bellach bydd Elen yn symud nid nepell i ffwrdd o’r Galeri wrth ymgymryd â phrosiect arall heriol fel Cyfarwyddwraig menter newydd gelfyddydol Pontio, rhwng y Brifysgol â’r gymdeithas ym Mangor.
Ymwelwyr o Benrhys, Stori o Kenya, Gweddi a Chrefyddau’r Byd – 12 Chwefror 2012
‘Roedd yna linyn rhyngwladol ac amlddiwylliannol yn rhedeg trwy ein hoedfaon yn ystod y dydd heddiw. Cawsom bleser mawr yn Oedfaon y Bore i groesawu i’n plith ffrindiau o Eglwys Llanfair, Penrhys. Ers nifer o flynyddoedd mae cysylltiad agos wedi bodoli rhwng Eglwys Minny Street a’r Gymuned Gristnogol ym Mhenrhys. Bu Grŵp Emaus yn ymweld â Chanolfan Llanfair nifer o weithiau ac yn fwy diweddar cawsom Miara ac Hannah, Sharon, Margaret, Lalao, y Gweinidog ac Eunyoung o amgylch Beibl Malagaseg Eglwys Minny Streetgyfle i ymuno â thrigolion y Gymuned mewn digwyddiadau yn gysylltiedig â Chymorth Cristnogol, ac wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 40 oed yn 2011. Mae Margaret Davies, Cydlynydd y Cylch Dinasyddiaeth, yn Aelod o Fwrdd Rheoli Partneriaeth Penrhys a chawn gyfle, yn weddol reolaidd , fel eglwys, i anfon dillad a gwahanol nwyddau i’w gwerthu yn y Boutique! A hithau newydd ddychwelyd o ymweliad , ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, i Fadagascar, braf oedd croesawu Sharon Rees, un o aelodau Staff Parhaol Llanfair, a thri o’i chyd-weithwyr, Miara a’i ferch, dair blwydd oed Hannah, a Lalao, o Fadagascar, ac Eunyoung o Dde Corea i’r ddwy Oedfa Foreol. Cawsom gyfle i glywed am yr hyn sy’n digwydd ym Mhenrhys, yn arbennig felly ymysg yr ieuenctid a’r Ysgol Sul, ynghyd â chael ein diweddaru gan Sharon a
Capel LlanfairMiara am sefyllfa fregus Madagascar. Cyfeiriodd Miara am y cysylltiad Cymreig, y cenhadon Thomas Bevan (1796-1819) a David Jones (1796-1841), ac fe’n anogodd, yng Nghymru, i beidio gweld y trai cyfredol ar Gristnogaeth fel arwydd o’r ‘diwedd’. Soniodd am dyfiant yr eglwysi ym Madagascar, er holl ymdrechion y llywodraeth bresennol i dawelu’r dystiolaeth trwy garcharu gweinidogion; fe’n sicrhawyd na fyddai Duw yn ein hanghofio ac mae’n gwaith yw ‘dal ati’ mewn ymdrech a ffyddlondeb. Neges o ysbrydoliaeth a ffydd oedd hon - neges a erys yn ein cof am amser. Bu’r ymwelwyr yn canu gweddi mewn Cymraeg, Saesneg, Miso, Malagaseg a Coreeg; a bu Hannah yn ein diddanu trwy ganu yn y ddwy oedfa. Ar ddiwedd yr Oedfa Foreol cafwyd hefyd gyfle i droi tudalennau’r Beibl Malageseg sydd ym mhulpud Eglwys Minny Street; yn ein hatgoffa o’r cysylltiad arbennig sydd wedi bodoli ar hyd y blynyddoedd rhwng yr Eglwys a’r Ynys Fawr.
Darluniau gan Julia CairnsMewn gwlad heb fod nepell i Fadagascar, ar gyfandir Affrica, y bu i ni gychwyn ein haddoliad fore heddiw! Yn Kenya! Eirlys Eckley oedd yn arwain ein Hoedfa Foreol Gynnar a chawsom ein hudo gan hanes Crempogau Mama Panya (testun gwreiddiol gan Mary a Rich Chamberlain, addaswyd gan Elin Meek; Llyfrau Barefoot 2005)! Cyn cychwyn ar yr hanes ei hun, cawsom ddysgu ychydig am y wlad, sydd yn fwy eu maint na Ffrainc, am y gwahanol draddodiadau a geir rhwng ei ffiniau ac am y gwahanol ieithoedd. Aethom ati i ddysgu ambell air o’r iaith Swahili: asante sana (diolch), karibu (croeso) a jambo (helo)! Hanes Mama Panya a Adika, ei
mab, yn mynd i’r farchnad i brynu nwyddau i goginio crempogau a gawsom; ar y ffordd, ac yn y farchnad, bu Adika wrthi yn gwahodd nifer o bobl, rhai ohonynt yn ddieithriaid llwyr, yn ôl i’w gartref i flasu crempogau ei fam. Pa ryfedd i Mama Panya ofidio? Teulu tlawd oeddynt a byddai cywilydd arni os na fyddai digon o grempogau i bawb ‘roedd Adika wedi ei wahodd. Nid oedd angen gofidio! Bu’r cyfan yn llwyddiant ysgubol! Trwy estyn gwahoddiad - estyn caredigrwydd - derbyniodd Adika a’i fam garedigrwydd mwy yn ôl - daeth y pysgotwr â physgod, y ffermwyr â nwyddau’r fferm a ffrindiau Adika â nwyddau o’r farchnad. Nid fu rhaid i Mama Panya ofidio am fwyd weddill yr wythnos! Gwers hynod o bwysig oedd hon i ni yng nghanol bywyd cymdeithasol 2012. Adlewyrchwyd yr un neges ym mhregeth gyfoethog y Gweinidog yn Oedfa’r Bore ychydig yn ddiweddarach … po fwyaf y rhoi, mwyaf y derbyn!
Gweddi'r Arglwydd yn Eglwys y Plwyf, Llangar, Meirionydd Faint ohonom sy’n gweddïo ar lefel bersonol, yn rheolaidd? Dyna ofynnodd y Gweinidog yn yr Oedfa Foreol. Cydnabu y perthyn i weddi bentwr o rwystredigaethau a thrwch o fethiant; mae euogrwydd a siom yn gydiol wrth ein hymdrechion i weddïo’n drefnus gyson. Er hynny, rhybuddiodd, nid da ein tueddiad i roi ffidil ein bywyd defosiynol yn y to! Fe’n atgoffwyd o gais y disgyblion: “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i’w ddisgyblion ef.” (Luc 11: 1b). Nid gofyn am batrwm o weddi a wnaethant ond yn hytrach am wers mewn gweddi. Gwelai’r disgyblion ddyfnder y berthynas oedd yn bodoli rhwng y Saer o Nasareth â Duw; perthynas ddofn, gynhaliol a chadarn. ’Roedd y deuddeg yn dyheu am yr agosatrwydd, y gynhaliaeth a’r cadernid hynny; i’w brofi rhaid oedd iddynt blymio i ddyfnder perthynas bersonol â Duw. Mae gweddi yn hawdd yn yr un modd ag y mae siarad â’n hanwyliaid yn hawdd! Mae gweddi yn hawdd, ond heb
ddisgyblaeth ac ymroddiad try’r hawdd yn anodd, a’r anodd yn anos! Heb ymdrech a dyfalbarhad mae’r berthynas yn oeri. 'Roedd hon yn neges heriol; neges nad ydym, efallai, fel Cristnogion soffistigedig 2012 yn or-hoff o’i chlywed ond mae'n neges gwbl angenrheidiol. Onid neges yw hon sydd eisiau ei phregethu nid yn unig yn Eglwys Minny Street ond ar hyd a lled addoldai’n gwlad? Soniodd y Gweinidog am gyfalaf a llog; maint y cyfalaf sy’n penderfynu maint y llog. Felly hefyd ein perthynas â Duw, ein gweddi a’n defosiwn personol, a’n haddoliad a’n cymdeithas â Phobl Dduw ... cawn allan o'r pethau hyn yn unol â’r hyn rhown i mewn iddynt. Gyda Thymor y Grawys yn agosáu onid da byddai ailgydio yn yr arfer o ymdawelu’n gyson yng nghwmni Duw. Nid hawdd yw hyn, ond mae bywyd defosiynol personol yn fuddsoddiad cadarn; os yw’r buddsoddiad yn fawr mewn ymdrech, ymroddiad a dyfalbarhad, anhraethol fwy y llog!
Crefyddau'r BydAr ôl ymweld â Kenya a Madagascar yn Oedfaon y Bore troi at Grefyddau’r Byd a wnaethom yn yr Oedfa Hwyrol. Sut ddylai Cristnogaeth ymateb i grefyddau eraill? Fel cefndir soniodd y Gweinidog mai dymuniad pobl yw gwneud synnwyr o fywyd ac o brofiadau bywyd. Cyfeiriodd at grefyddau aml-Dduw y Groegiaid a Rhufeiniaid. Un Duw oedd i’r Hebrëwyr, Creawdwr a Chynhaliwr yn gwarchod ei bobl etholedig. Cydnabu’r Mwslemiaid Abraham ac Iesu fel proffwydi, ond dysgeidiaeth Mohamed sy’n cael y flaenoriaeth. Cynnig Bwdïaeth ddeuddeg cam i oleuo tywyllwch bywyd ac addola’r Hindŵaid liaws o dduwiau, gan gynnwys Vishnu, Shiva a Brahma. A oes hawl gennym ddadlau mae Cristnogaeth yw’r unig wir grefydd? … ar sail Efengyl Ioan, oes! “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6). Yn sgil hyn, aeth y Gweinidog ati i roi’r cyfan mewn cyd-destun. Fe’n harweiniwyd i eiriau o Lyfrau Moses: “ … yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun, medd yr Arglwydd” (Lefiticus 19:18b) Dim ond ar un achlysur y gorchymyn yr Hen Destament i ni garu ein cymydog; ceir y gorchymyn i garu’r dieithryn 37 gwaith! Hawdd caru cymydog, mae caru dieithryn tipyn anos. Dro ar ôl tro awgryma’r Beibl mai llinyn mesur ein crefydd yw ein hymateb i’r bobl sydd wahanol i ni, yn ddieithr i ni: “Os carwch y rhai sydd yn eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi?” (Mathew 5: 46). Darllenwn hefyd “wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy” (Mathew 7:16) a gan nad yw crefyddau’r byd yr un peth onid
Cyfaill Mawr PIMS: y diweddar Sheik Said Hassan Ismail, Imam Canolfan Fwslemaidd De Cymru yn Nhrebiwt a fu farw Mawrth 2011. Bu PIMS yn ymweld â'r Imam ar nifer o achlysuron.“wrth ei ffrwythau yr adnabyddwch hwy”. Hanfod crefydd yw nid nifer ei ddeiliaid neu aelodau, ond safon y bywyd ysbrydol y mae’r grefydd honno yn magu yn ei phobl. Nid gwybod am a deall crefyddau eraill yw’r her, ond, yn hytrach, dod i adnabod Iddewon a Mwslemiaid a deiliaid crefyddau eraill sy’n cyd-fyw â ni. Fe’n hatgoffir yn Efengyl Mathew mai’r rhai sy’n etifeddu’r Deyrnas yw’r rhai sydd wedi bwydo’r newynog, dilladu’r noeth, ymweld â’r sâl a’r caeth, wedi croesawu’r dieithryn. O’r Comisiwn Mawr, “Ewch gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glan.” (Mathew 28:19), gwyddom mai anadl einioes Cristnogaeth yw cenhadaeth; cenhadaeth sy’n cadw mewn cof her y geiriau “wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy”. Pe byddai Iesu yn troedio strydoedd ein cymunedau aml-ethnig, aml-grefydd ac amlddiwylliannol onid ei nod byddai cael pob lliw, llyn a llewyrch i gydweithio i fwrw allan y cythreuliaid gwaethaf ym mywyd pobl? Neges y Testament Newydd, fe’n hatgoffwyd gan y Gweinidog, yw bod rheidrwydd arnom i dderbyn bod yr arall - y dieithryn - yr hwn neu’r hon, nad sydd ar ein delw ni, yn ôl ein llun ni, wedi eu creu ar ddelw, ac yn llun, yr hwn a’n creodd i gyd.
Rhiannon ac Havard Gregory oedd wedi dewis emynau Oedfa’r Hwyrol. Emynau cyfoes a ddewisodd Havard. Yn gyntaf, “Ti yw'r Un sy'n adnewyddu, ti yw’r Un sy’n bywiocau;” (C.Ff. 579), sydd, yn ôl Havard, yn “un o'n hemynau gweddi mwyaf dwys ymhlith yr emynau diweddaraf y gallwn ddiolch i Caneuon Ffydd amdanynt”. Cawsom ein hatgoffa i’r awdur Dan Lynn James (1928-1993) fyw yn ein plith yng Nghaerdydd cyn
iddo symud i Aberystwyth. "Yng nghyffro'r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd," (C.Ff. 777) oedd ail ddewis Havard. “Dyma”, meddai, “un o emynau cyfoethocaf oll Caneuon Ffydd, a seiliwyd ar bedwar tymor bywyd pob un ohonom ni. Yr alaw gan W H Monk (1823 - 1889), un o gerddorion Seisnig amlycaf y 19eg Ganrif ym myd casgliadau o emynau a thonau; ac mae teitl anghyffredin y don Unde et Memores yn dod o blith geiriau’r Cymun Lladin." Bu’r awdur, T. R. Jones, yn weinidog amlwg gyda’r Bedyddwyr yng Ngogledd Sir Benfro, ac ‘roedd yn aelod o Bwyllgor Golygyddol Caneuon Ffydd. Un o’r hen ffefrynnau oedd dewis cyntaf Rhiannon; 'Arglwydd Iesu, dysg i'm gerdded' (C.Ff. 710). Mynd nôl i’w phlentyndod a wnaeth Rhiannon, “Cofiaf Elfed (1860-1953) yn pregethu yng nghapel Pendref, Bangor …. Cofiaf ei sbectol gron, a’i fod yn ddall; ac er bod ei lais yn dawel, roedd pob gair i'w glywed yn glir drwy'r capel …. a chofiaf yr hanes fel oedd Elfed yn fachgen bach yn dilyn yn ôl troed ei dad ar eu ffordd i'r capel ar noson dywyll ar hyd llwybr caled. Bob hyn a hyn, byddai ei dad yn troi i wynebu'r plant a chodi'r lamp yn uwch. Gwelent ei wyneb yng ngoleuni'r lamp a oedd yn dangos y ffordd iddyn nhw.” Geiriau pwerus George Rees (1873-1950) "O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a'm Ceidwad cry’" (C.Ff. 541), oedd ail ddewis Rhiannon. Cred bod yr emyn hwn yn un o’n ‘hemynau mawr’, gydag iaith odidog yn mynegi profiad ysbrydol dwys. “Mae'n agor yn dyner”, eglurodd, “yn llunio darlun yn yr ail bennill, yn ymbil am weledigaeth a chymorth yn y trydydd, ac yn gorffen yn orfoleddus a chadarn. Mae'n rhaid ei ganu gydag arddeliad!”
Yn ystod y dydd cawsom gyfle i brynu nwyddau Masnach Deg a chyfrannu at Fanc Bwyd Caerdydd. Cyhoeddwyd erthygl gan ein Gweinidog yn rhifyn cyfredol Y Tyst – Yr Alwad i Weinyddu - erthygl sy’n sôn am y cysylltiad agos sy'n bodoli rhwng gweinyddiaeth a threfniadaeth effeithiol, a gweinidogaeth lwyddiannus. Cafwyd cyfeiriad mewn erthygl arall ar waith y weinidogaeth, gan y Parchedig Hywel Wyn Richards, at eiriau ‘cyfoethog’ y Gweinidog mewn teyrnged angladdol ddiweddar. I orffen, atebion Cwis PIMS ar 23 Ionawr 2012:
Cydymdeimlo – 10 Chwefror 2012
Derbyniwyd y newyddion trist am farwolaeth un o’n haelodau, Emyr Daniel. Yn ddarlledwr a chynhyrchydd teledu adnabyddus, daeth atom i Eglwys Minny Street chwe blynedd yn ôl a bu'n aelod ffyddlon yn ein hoedfaon a chyfarfodydd wythnosol. Cofiwn yn ddiolchgar amdano a chydymdeimlwn yn ddiffuant â’r teulu cyfan gan gofio yn arbennig un o’n pobl ifanc, Beca, sydd wedi colli tad.
Genedigaeth – 9 Chwefror 2012
Croeso cynnes i Mari Greta a anwyd heddiw i Rebecca a Matthew Lyne-Pirkis; wyres i Rhiannon a Gerald Murphy. Dymuniadau da i’r teulu.
Munud i Feddwl – 8 Chwefror 2012
Mae anghofio yn boen bywyd, ac mae colli cof yn ddolur enaid! Bu anghofio’n arferol a chofio’n eithriadol o'r cychwyn cyntaf – celfyddyd ogof, mynachlogydd, Gwasg Argraffu Gutenberg, papurau newyddion, camera Kodak. Daeth Google a newidiodd popeth! “Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd, medd yr Arglwydd. Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân”, meddai’r Proffwyd (Eseia 1:18) .. myfyrio ar y geiriau hyn a dyfyniad o un o gerddi T S Eliot (1888-1965) a wna’r Gweinidog yn ei Funud i Feddwl yr wythnos hon.
Bethania – 7 Chwefror 2012
Christ's Temptations gan James B Janknegt (gan. 1956)Temtiad Iesu (Mathew 4: 1-11) oedd testun trafodaeth Bethania heno. Ymranna’r Demtasiwn yn dair rhan. Yn gyntaf, troi cerrig yn fara. Mor real a chyfoes y neges hon. Mae digoni anghenion corfforol pobl yn bwysig ond mae rhagor i berson nag anghenion corfforol ac economaidd. Temtiwyd Iesu hefyd i’w daflu ei hun i lawr o do’r Deml, a dibynnu ar Dduw am ddiogelwch. Yn unol â thraddodiad, disgwylid i Feseia wneud arwyddion ac i gyflawni rhyfeddodau! Gwêl Iesu nad oes mwy o fendith mewn arwyddion a rhyfeddodau yn unig, nag sydd mewn bara yn unig. Neges arall sy’n oesol gyfoes; gwyddom am apêl y demtasiwn i gyflawni’r ‘spectacular ’ i dynnu sylw pobl. Yn drydydd, plygu gerbron y diafol a’i addoli. O wneud hyn gwyddai Iesu y byddai teyrnasoedd byd yn dod i’w feddiant. Ond, os sefydlodd eraill eu teyrnasoedd trwy rym, cynllwyn a gallu; ffordd cariad a chyfiawnder yw Ffordd Crist. Trwy gario’r groes ac nid trwy ddwyn arfau, trwy aberth ac nid trwy gyfrwystra, y mynnai Iesu osod sylfaeni cedyrn Teyrnas Dduw. Buwyd yn trafod natur temtasiwn. Gofynnwyd pwy, neu beth, yw’r diafol? Efallai, er hynny, mai gofyn sut y bu temtasiynau Iesu yn demtasiynau i’r eglwys ar hyd y canrifoedd, ac i ninnau heddiw, a enynnodd mwyaf o drafodaeth.
PIMS: Croesawu cyn-aelod yn ôl i’n plith – 6 Chwefror 2012
Yn ystod y misoedd diwethaf cafodd Aelodau PIMS gyfle i groesawu nifer o siaradwyr i’w plith i sôn am amryw o bynciau; ’roedd yna groeso arbennig heno wrth groesawu un o gyn-aelodau PIMS, Elen Meggy, yn ôl i siarad am ei phrofiadau yn Ethiopia. Ar ôl gorffen astudio yn y Brifysgol, bu Elen yn Ethiopia am ryw dri mis yn gweithio gyda’r elusen ryngwladol - Voluntary Service Overseas. Cychwynnodd ei sgwrs trwy sôn am wyth Nod Datblygiad y Mileniwm, nodau mae’r 193 o wledydd sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig wedi eu cytuno a’u cefnogi: gwaredu tlodi a newyn; sicrhau addysg elfennol i bawb; gweithio i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwryw a benyw; lleihau cyfraddau marwolaeth plant; gwella safonau mamolaeth; ennill y frwydr ar
HIV / AIDS, malaria ac afiechydon eraill; sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a sefydlu partneriaethau datblygu rhyngwladol. Canolbwyntio ar sicrhau cydraddoldeb rhwng gwryw a benyw wnaeth Elen gan rannu o’i phrofiadau mewn treflan ar lan un o lynnoedd Ethiopia. Yn ôl Manon, un o newyddiadurwyr y noson, “bu’n noson brysur … buom yn trafod problemau Ethiopia, sut mae a pwy sydd i’w datrys, trafod cydraddoldeb ynghyd â gwneud tasgau ac ateb cwis.” Trawyd Daniel gan “sut y gallwn ni weithio gydag elusennau i wella hawliau cyfartal i fenywod a dynion mewn gwledydd tlawd”, a theimlai Manon iddi "ehangu ei hymwybyddiaeth o broblemau cydraddoldeb”. ‘Roedd yn noson addysgiadol a llawn trafodaeth; noson sylweddol! Pa ryfedd i’r Gweinidog ddod â’r noson i ben trwy chwarae dwy gêm fwyta! Pwy yw’r gorau am beidio cnoi Fruit Pastille? Nid y Gweinidog yn sicr! 14 eiliad union ar ôl rhoi losinen yn ei geg ‘roedd wrthi’n cnoi … siomedig iawn o’i gymharu â gweddill Aelodau PIMS a lwyddodd i beidio cnoi am o leiaf 4 munud! Tomos oedd pencampwr bwyta toesen heb lyfu gwefus!
Justin Bieber, Betsi Cadwalder, Eivind Berggrav a Moelwyn – 5 Chwefror 2012
Cyflafan Homs, SyriaYn ein Gweddïau Agoriadol bore heddiw cawsom gyfle i gofio am drigolion Dwyrain Ewrop sy’n gyfredol yn wynebu’r tywydd oeraf ers degawdau. Mae’r tymheredd eithafol eisoes wedi lladd dros 175 o’n cyd- ddinasyddion, y rhan fwyaf yn bobol ddigartref o’r Wcráin. Cofiwyd hefyd, yn ein gweddïau, am Syria a’i thrigolion. Erbyn hyn, amcangyfrifir bod o leiaf 5,500 o bobol wedi colli eu bywydau ers i brotestwyr o blaid democratiaeth ddechrau protestio yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad yn 2011. Honnir bod Gweinyddiaeth Assad wedi defnyddio tanciau a gynau peiriant i ladd o leiaf 200 o bobl ac anafu cannoedd yn ninas Homs yn ystod y dyddiau diwethaf.
Sesiwn Crefft: Moses yn y Brwynbyd mwy, dim byd llai - pobl fel ni! Tanlinellwyd pwysigrwydd sylweddoli nad pwy ydym sy’n bwysig ond beth ydym. Nid bod yn berson ‘mawr’ sy’n bwysig ond bod yn berson da; nid bod yn enwog ddylai’n nod i fod ond ceisio sicrhau ein bod y gorau y medrwn ei fod. Cofiwn nad bod yn debyg i rywun arall yw’r gamp, ond, yn hytrach, bod ein hunain, a bod yn falch o’r hyn ydym. Yng Nghymdeithas ddryslyd a
Minny Street!chymysglyd 2012 rhaid cofio’n wastadol bod pop yr un ohonom yn Drysor i Dduw. Gwrando ar hanes cynnar Moses fu’r Plant yn ei wneud yn yr Ysgol Sul … o’i hanes fel baban yn y brwyn i hanes y Deg Pla. Cafwyd cyfle yn y Sesiwn Crefft i dynnu a lliwio lluniau cyn mynd ati i ddysgu ychydig o hieroglyffau. Cafwyd hwyl yn ysgrifennu enwau gyda’r wyddor hon. I ddiweddu’r Sesiwn buwyd wrthi yn ateb cwestiynau Cwis Moses.
The Sermon on the Mount gan Carl Bloch (1834-1890)Y Gwynfydau oedd thema ein Hoedfa Foreol ac fe’n hatgoffwyd gan y Gweinidog o fyfyrio ar adnodau agoriadol y Bregeth ar y Mynydd, ac o ymddiried yn ein Harglwydd, daw cyfle i brofi gwefr a bendith ei addewidion. Cawsom ein harwain, fesul gwynfyd, drwy'r gosodiadau: “Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru: canys hwy a ddiddenir” (Mathew 5: 4) - galarwn yn ein cyflwr personol, ein blinder a’n gofid. Galarwn hefyd wrth ystyried blinder a gofid ein brodyr a chwiorydd ledled byd. Fel aelodau Teulu Duw, try dioddefaint yr un yn ddioddefaint i bawb:
“once a headliner, now he has shrunk to a footnote.” Soniodd hefyd am yr Ymerawdwr Frederick II (1194-1250) fel un a oedd yn perthyn i’r un cyfnod â Sant Fransis o Assisi (1181-1226). Yn y 13eg Ganrif, yr Ymerawdwr oedd mewn grym ond erbyn heddiw, wrth ysgrifennu amdano, daeth bywyd yr Ymerawdwr yn ôl-nodyn i fywyd y Sant. Ychydig iawn ohonom sydd yn gwybod pwy oedd y cadfridogion rheini a fu mor amlwg yn ystod Rhyfel y Crimea (1835-1856), ond gwyddom am Betsi Cadwalader (1789-1860). Perthyn i hanes y gallu, fe’n hatgoffwyd gan ein Gweinidog, i osod pobl yn eu priod le. Arglwydd amser yw ein Harglwydd ni ac Ef piau pob ddoe, heddiw ac yfory. Sicrha mai’r mawredd a adeiladwyd ar graig cariad, gwasanaeth a brawdgarwch sydd, a bydd, yn parhau ar gof a chadw. “Darostyngir pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy’n ei ddarostwng ei hun” (Luc 18:14). Y mae cyfrinach gwir fawredd i’w ganfod, nid mewn grym a golud, na chlod ac enwogrwydd, ond mewn parodrwydd i wasanaethu eraill. Cyn rhannu o'r gwin bu’r Gweinidog yn sôn am Eivind Berggrav (1884-1959), Esgob Dinas Oslo, Norwy, adeg yr Ail Rhyfel Byd. Yn 1940 llyncwyd Norwy gan y Natsïaid, ond mynnodd Berggrav codi llais a phob wythnos ysgrifennodd lythyr i Gristnogion Oslo. ‘Roedd y llythyron yn finiog feirniadol o Natsïaeth, ac o’r hwn a oedd yn was iddynt yn Norwy, Viodkun Quisling (1887-1945). Cyfarfu Berggrav a Quisling; tynnodd Qusiling wn o’r drôr wrth ei ochr a’i osod ar y ddesg o’i flaen. Nawr, meddai, nawr gallwn siarad. Estynnodd Berggrav yn dawel i’w boced, a thynnu ohono ei ysgrifbin, a gosod
Neidiodd Iesu i ganol y ffrae gan ddirwyn edafedd hanes y bywyd priodasol yn ôl i’w ddechreuadau cyntaf: atgoffa ei wrandawyr mai yn wryw a benyw y crëwyd dyn … “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd” (Genesis 2:24). Mae priodas, meddai Iesu, yn rhan o fwriad Duw ac felly, ni ddylai dyn wahanu'r hyn a gysylltodd Duw. Gwêl y Phariseaid ei gyfle: “Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a’i hysgaru?” (Mathew 19: 7). Ond nid yw Iesu am gael ei ddal: nid gwrth-ddweud Deddf Moses a wna, meddai! O ddeall Deddf Moses gwelir mai caniatáu consesiwn i genhedlaeth ffôl a wnaeth Moses ... dal at ei safbwynt: “Rwy’n dweud wrthych, ond am buteindra, ac yn priodi un arall, y mae’n godinebu.” (Mathew 19: 9) Cyfamod yw priodas na ddylid ei thorri. Cymhara Iesu gyfamod priodas gyda’r cyfamod a wnaeth Duw â ni. Ni fydd Duw byth yn torri’r cyfamod hwnnw a thristau gwnaeth Iesu wrth weld ein methiant i gadw cymaint o’n cyfamodau. Onid Iesu sy’n deall orau gwendidau a therfynau ein natur ddynol? Onid Iesu fyddai’r cyntaf i’n hannog i godi’n ôl ar ein traed, i ysgwyd y llwch oddi arnom a chario ‘mlaen? Onid Iesu fyddai’r cyntaf i weld a deall fod bywyd weithiau yn ymddatod er gwaethaf bob gobaith ac ymdrech, ymroddiad ac ymrwymiad o’n heiddo? O adnabod Iesu, a oes rheswm gennym gredu fod ysgariad yn anfaddeuol? Go brin! Gwnawn y gorau y medrwn ond weithiau nid yw’r gorau hwnnw’n ddigon, a methwn a chadw ein haddewidion dwysaf. Ni ddylai hynny ein cadw rhag eu gwneud na cheisio eu cadw. Rhywle rhwng y ddau ymddiriedwn yn y ffaith fod cariad, maddeuant a gofal Duw amdanom yn fwy, ac yn well, na’n cariad, maddeuant a’n gofal am ein gilydd. Yn y Cariad mawr hwn fe garwn, ac yn y maddeuant diddiwedd hwn, fe faddeuwn a maddeuir i ni.
Munud i Feddwl - 1 Chwefror 2012
"Mr. President, How much longer can the world tolerate this situation? Where will this trend lead the world? How long must the people of the world pay for the incorrect decisions of some rulers? How much longer will the spectre of insecurity – raised from the stockpiles of weapons of mass destruction – hunt the people of the world? How much longer will the blood of the innocent men ... Do you think present policies can continue? ..." Llythyr Mis Mai 2006; oddi wrth gredadun - y Mwslim Mahmoud Ahmadinejad - at gredadun - y Cristion George W Bush. Myfyrio ar arwyddocad y llythyr hanesyddol hwnnw yn nghyd-destun sefyllfa'r UDA ac Iran yn 2012 a wna'r Gweinidog yn ei Funud i Feddwl.
Yn ystod yr wythnos ymddangosodd erthygl gan ein Gweinidog - Colli Pwysau - ar wefan Cristnogaeth 21. Cyfeirio a wna’r Gweinidog am y cyflyru tawel gyson a ddigwydd, yn arbennig felly ymysg yr ifanc, i fod yn anfodlon â’u cyrff ac, yn y pen darw, yn anfodlon â’u hunain. “Un o hanfodion ein ffydd,” meddai, “yw bod pawb ohonom wedi ein creu ar ddelw ac yn ôl llun ein Duw. Dylem bwysleisio a phwysleisio, a phwysleisio'r gwirionedd oesol cyfoes hwn o hyd fyth yn ein hymwneud â phobl, a phobl ifanc yn arbennig. Dylai ein pwyslais fod yn gyson ar y ffaith fod Duw yn ymhyfrydu ynddynt, cant y cant! ... Rhaid i’r eglwysi fod yn gymunedau sydd yn cadarnhau o hyd, ac o hyd, mai cyfrinach gwir harddwch yw ymhyfrydu yn y faith ein bod wedi ein creu ar ddelw ac yn ôl llun Duw rhyfeddol a bythol hardd!”
Teulu’r Wilkins oedd wedi dewis emynau’r Oedfa Hwyrol. Dewis Gaynor oedd “Nid wy’n gofyn bywyd moethus … “ (Gwyrosydd, 1847-1920; C.Ff. 780). Soniodd am y modd mae’r emyn yn ei hatgoffa o'r amser a dreuliodd yn byw yn Llanelli. Y pryd hynny, nid oedd y geiriau yn ddim amgenach nag emyn i'w ganu ond bellach tyfodd y geiriau i fod yn bwysig iawn iddi. “Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri …” (Lewis
Prif nod i’n gwaith fel eglwys yn Eglwys Minny Street eleni yw cydio yn y gwirionedd mai gwaith i bawb yw gwaith yr eglwys. Rhan anhepgor o hynny yw’r penderfyniad i ffurfio Gweithgor Gweinidogaeth Minny
Cyfaddefodd y Gweinidog yn yr Oedfa Hwyrol mai ychydig iawn, mewn gwirionedd, a wyddom am y doethion. Pwy oeddent? O ble y daethant? Mor gyfarwydd ydym a hanes eu hymweliad hyd yn oed os mai prin yw’r ffeithiau, os ydy’r hanes yn effeithiol, a oes gwahaniaeth? Fe’n hatgoffwyd am y modd byddai’r tri yn hel meddyliau, pendwmpian, myfyrio, astudio, dysgu, siarad, ysgrifennu a darlithio yn ddyddiol … hyd
Cylch y Gymdeithas Ddiwylliannol a Bywyd Cymdeithasol: Y Gymdeithas – 31 Ionawr 2012
Cromarty, Dogger, Humber, Fastnet, Finisterre, Malin a Hebrides … enwau cyfarwydd - er na wyddom lawer amdanynt - o’r Rhagolygon Morol (Shipping Forecast). Yr enwau hyn a hudodd ac a ysgogodd un o’n myfyrwyr yn Eglwys Minny Street, ac un o fynychwyr ffyddlon Wedi 7, i ysgrifennu cerdd a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010. Hon oedd y gerdd - Tonnau - a gipiodd y Gadair!
Y Dwbl Bardd Cadeiriol yn dathlu yn Wedi 7! cariad a ddiffoddwyd oedd Cerdd Fuddugol 2011 ac yn ddaearyddol, o leiaf, cerdd agosach atom yma yng Nghaerdydd!
Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street - 30 Ionawr 2012
... chwilio am arweiniad DuwPrif nod i’n gwaith fel eglwys yn Eglwys Minny Street eleni yw cydio yn y gwirionedd mai gwaith i bawb yw gwaith yr eglwys. Rhan anhepgor o hynny yw’r penderfyniad i ffurfio Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Heno, cynhaliwyd Cyfarfod Cyntaf y Gweithgor. Diben y Gweithgor fydd hyrwyddo a sicrhau Gweinidogaeth Eglwys Minny Street i’r dyfodol. Bydd y Gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, yn adrodd yn ôl i’r Cyfarfod Diaconiaid bob chwarter, ac yn cynnig Adroddiad i ystyriaeth y Cwrdd Eglwys ym Mis Gorffennaf 2013. I geisio hyrwyddo gweinidogaeth yr holl aelodau bydd y Gweithgor yn ystyried sut mae’r weinidogaeth yn gweithio yn Eglwys Minny Street; beth yw barn ein pobl am weinidogaeth yr eglwys; sut mae gwella’n gweinidogaeth; pe bai’r eglwys yn ddi-weinidog, a oes ganddi strwythurau mewn lle i gynnal a pharhau’r weinidogaeth; beth mae ein pobl yn dymuno o’r weinidogaeth; ynghyd â sicrhau fod gan bob prif swyddog, aelod neu aelodau a all gamu i’r adwy pe bai angen. Un canllaw penodol a roddir i’r Gweithgor: nid trafod yr adeilad yw ei waith! Wrth ddechrau ar eu gwaith cyflwynodd Aelodau'r Gweithgor eu gwaith i ofal Duw, gan ofyn am Ei fendith a'i arweiniad ar y fenter gynhyrfus hon.Sul y Digartref, Cariad, Llys Barn a Dwy Sylfaen - 29 Ionawr 2012
“Caraf fy Nuw a’i waith i gyd,
Cariad a Gofal oedd neges Sgwrs y Plant ar ddechrau’r Oedfa Foreol hefyd wrth i’r Plant a’r Plantos gael ei hudo gan gampau 'Mr a Mrs Hen' - pa mor aml bynnag y’u tarwyd i lawr mynnent neidio nôl! Nid felly ‘Mali’ - oedd yn edrych dipyn mwy ifanc a sgleiniog (!). O gael ei tharo lawr aros ar ei gorwedd a wnaeth hyd nes i law garedig ei chodi yn ôl ar ei thraed. A’r neges? Pan gyfyd anhawster neu dristwch neu siom, mae ambell un yn medru neidio nôl yn ddidrafferth ond weithiau, mae pob yr un ohonom angen ychydig o help llaw - angen cymorth, angen cariad ac angen codi calon.
Fe’n tywyswyd gan ein Pregethwr Gwadd i Lys Barn yn yr Oedfa Foreol. Ni, y gynulleidfa, oedd y rheithgor. Dynoliaeth oedd yn dwyn y cyhuddiad gerbron y llys: cyhuddiad yn erbyn Duw am iddo droseddu yn erbyn dynoliaeth. Sail dadl yr erlyniad oedd bod dynoliaeth, ers cread y byd, wedi dioddef. Onid oedd hyn felly, yn dystiolaeth gref bod Duw wedi esgeuluso’r ddynoliaeth, wedi osgoi ymyrryd i newid cyfeiriad pethau ac, o ganlyniad, wedi gadael i drychinebau ddigwydd. Sylfaen yr amddiffyniad oedd bod rhaid gwahaniaethu rhwng drygioni dyn a diniweidrwydd ffydd. Onid oes rhaid i ddynoliaeth gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a wna? Galwyd tystion. Yn gyntaf, galwodd yr erlyniad Rabi Iddewig; bu yntau yn cyflwyno nifer o enghreifftiau ar sut y bu i’r Genedl Iddewig ddioddef. Dilynwyd ef gan Noa a fu’n tystio i
esgeulustod Duw yn gadael i’w byd foddi. Pam na fyddai wedi ymyrryd? Pam gadael i Noa a’i deulu fod yn destun gwawd wrth iddynt adeiladu’r arch, a pham dim ond achub ef a’i deulu, a llond arch o anifeiliaid? Onid oedd hyn yn brawf pendant o esgeulustod Duw tuag at y ddynoliaeth? Annisgwyl oedd tyst cyntaf yr amddiffyniad - Adolf Hitler. “Peidiwch beio Duw”, meddai - “beiwch fi!” Cydnabu Hitler mai ef oedd yn meddwl ei fod yn fwy nag yr oedd, bod ganddo fwy o awdurdod nag yr oedd, a bod ganddo’r hawl i wneud fel y mynnai. Efa
Adolf Hitler (1889-1945) ... yn tystio dros Dduw?oedd nesaf ! Hithau’n cydnabod fod Duw wedi rhoi iddynt baradwys .. ond iddi hi ei ddifetha. Rhoddwyd dewis iddi ond mynnai fynd yn groes i ddymuniad Duw ... “Peidiwch beio Duw”, apeliodd. Tyst olaf yr amddiffyniad oedd Solomon; gofynnodd am yr hawl i gyflwyno dogfennau ychwanegol i’r Llys - y Beibl. O gael ei derbyn, tynnodd Solomon sylw’r llys at rai adnodau gan gynnwys, “ ... rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau dynion, ...” (Pregethwr 3:11b). Yn y tragwyddoldeb hwnnw, meddai Solomon, mae llawenydd, hapusrwydd, dedwyddwch ... oll trwy gariad Duw atom. Wrth gloi ei dystiolaeth, mynnodd Solomon mai ni, dynoliaeth, sy’n troi cefn ar hapusrwydd, mai ni sydd yn peri loes i eraill: “Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i ddynion mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da” (Pregethwr 3:12) Cyn gofyn i Aelodau’r Rheithgor am ddyfarniad fe’m rhybuddiwyd rhag cael ein dallu gan bethau’r byd a pheri i ni golli golwg ar ogoniant Duw. Fe ogoneddir Duw pan fo dyn ar ei fwyaf dedwydd ... ac mae dyn ar ei fwyaf dedwydd wrth ogoneddu Duw.
Dameg y Ddwy SylfaenDameg gyfarwydd “Y Ddwy Sylfaen” oedd testun sylw'r Oedfa Hwyrol. Hon yw’r ddameg a ddaw ar ddiwedd y Bregeth ar y Mynydd (Mathew 7: 21-29). Fe’n harweinir ar ddechrau’r ddameg i wir ddeall pwysigrwydd gweithredu, gwneud ewyllys Duw: “Nid pawb sy’n dweud wrthyf, 'Arglwydd, Arglwydd', fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 7:21). Dameg syml yw hon. Ynddi, cyfuna’r Iesu'r hyn a welai ef a’i wrandawyr o’u cwmpas - y graig ar lechwedd y mynydd a’r tywod yn y dyffryn islaw - gyda’i addysg yng ngweithdy’r saer (sylweddolai nad cynllun y ddau dŷ oedd yn wahanol!) a’i wybodaeth ysgrythurol (“Ar ôl y storm, ni fydd sôn am y drygionus, ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol” (Diarhebion 10:25)). O wneud hyn, esbonia’r Iesu'n syml i’w wrandawyr bwysigrwydd “gwrando ar y geiriau” ac yna “eu gwneud”. Y cam cyntaf yw gwrando - ac mae hynny, nid yn unig yn bwysig, ond yn grefft. A ydym ni, er enghraifft, yn gwrando digon yn ein hoedfaon? Er rhagored clywed wedi’r gwrando, nid yw hynny’n ddigonol - rhaid wrth weithredu. Geilw Iesu Grist arnom i fod yn ufudd ac mae hynny’n gyfystyr â gweithredu. Nid unrhyw beth allanol, nid cynllun oedd yn gwahaniaethu’r ddau dŷ yn y ddameg; y gwahaniaeth oedd y sylfaen. Nid yw’r ffaith ein bod yn arddel enw Crist yn ein harbed rhag ystormydd bywyd ond os yw ein sylfaen wedi ei hadeiladu ar ac yng Nghrist medrwn wrthsefyll y storm. Geilw Iesu arnom i weithredu. Cynnig hefyd graig i osod ein sylfeini arni; craig i adeiladu ein bywydau arni, a all sicrhau fod y sylfaen yn ddigon cadarn i wrthsefyll y ddrycin ac a all sicrhau fod ein hawydd i weithredu yn ôl ei ewyllys Ef yn un na all neb na dim ei ddinistrio.Diwrnod Cofio’r Holocost: 27 Ionawr 2012
Neuadd Goffa Yad Vashem, JerwsalemHeddiw, ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, atgoffwn ein hunain o erchylltra’r Holocost. Lladdwyd dros 6 miliwn o Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel y Byd (1939-1945) – dau o bob tri Iddew a oedd yn byw yn Ewrop. Cynhaliwyd y Diwrnod Cofio am y tro cyntaf yn 2001; ar 27 Ionawr 1945 rhyddhawyd Gwersyll Auschwitz gan yr Undeb Sofietaidd. Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw ‘Speak Up, Speak Out’. Cawn fyfyrdod treiddgar gan y Gweinidog mewn Munud i Feddwl ychwanegol ar y Diwrnod pwysig hwn. Genedigaeth – 27 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: 25 Ionawr 2012
“Fair fa' your honest, sonsie face,
Great chieftain o' the puddin-race!
Aboon them a' ye tak your place,
Painch, tripe, or thairm:
Weel are ye wordy o' a grace
As lang's my arm.”Bethania – Fesul Gam trwy Efengyl Mathew: 24 Ionawr 2012
Christ Baptized by John gan Woonbo Kim Ki Chang (1914-2001) Ioan Fedyddiwr yn bedyddio Iesu yn Afon yr Iorddonen (Mathew 3: 13-17). Dyna oedd testun astudiaeth Bethania heno. Bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau oedd bedydd Ioan; ni chyflawnodd Iesu bechod, ac nid oedd rhaid iddo ef wrth edifeirwch. Mae’n amlwg, felly, nad yr un oedd arwyddocâd ac ystyr y bedydd i Grist ac i eraill. Cynigiodd y Gweinidog dri ystyr i fedydd Ioan ynglŷn ag Iesu i ni i’w trafod: (i) trwy fynd gyda’r holl bobl eraill i gael ei fedyddio bu i Iesu uniaethu ei hun â’i bobl, yn teimlo’n un â hwy, ac yn barod i fod yn gyfrannog o’u pechod a’u gwendid; (ii) trwy ofyn i Ioan ei fedyddio tystiodd Iesu i bwysigrwydd cenhadaeth Ioan, a dangos ei fod yn cytuno â’i alwad i’r bobl i edifarhau; a (iii) yn y bedydd cyflwyna Iesu ei hun i waith ei fywyd. Daeth Iesu o’r bedydd yn berffaith sicr o’i berthynas â Duw, ac yn barod i gychwyn ar genhadaeth fawr ei fywyd. Bu trafodaeth frwd a hirach nag arfer; bu iddi arwain i drafodaeth hynod o addysgiadol o ystyr bedydd yn ein gwahanol draddodiadau Cristnogol. PIMS: 23 Ionawr 2012
Hebraeg a Groeg - beth yw ystyr ‘Boanerges’ (Marc 3:17), ‘Rabboni’ (Ioan 1:38), ‘Eloi, Eloi, lema sabachthani’ (Marc 15:34) a ‘Lo-ammi’ (Hosea 1:9)? Yna y cyntaf o ddau Gwis Gwyrdd … beth am roi cynnig ar Cwis Gwyrdd 2?Adar, Coed, Creigiau a Heddwch – 22 Ionawr 2012
Trodd Festri Minny Street yn goedwig yn ystod yr Ysgol Sul fore heddiw! Tynnwyd allan yr ysbienddrychau, aethpwyd i guddio mewn cuddfan adar a chadwyd rhestr o’r rhywogaethau a welwyd yn y gwrych - y deryn du, y dryw, y robin a’r titw, y fronfraith ac adar y to. Creu coeden yn llawn o adar oedd gwaith crefft y bore a chysylltu’r gwaith hwnnw â’r geiriau “Mae’r Arglwydd yn cofio …” wnaethpwyd gweddill y bore. Neges syml oedd neges yr Ysgol Sul: mae Duw yn gofalu amdanom, beth bynnag ein hoed, yn union fel y gwarchod yr adar - mawr a bach. Datblygu’r thema amgylcheddol wnaeth y Bobl Ifanc yn eu trafodaethau. Beth yw dyletswydd y Cristion tuag at yr amgylchedd? Cafwyd cyfle i drafod ‘stiwardiaeth’, ‘tenantiaeth’ ac ‘ymddiriedolaeth’; gofynnwyd beth yw ystyr ‘arglwyddiaethu’ yng nghyd-destun Pennod 1 Llyfr Genesis. Cafwyd trafodaeth hynod o ddiddorol ar ddyletswydd yr unigolyn mewn consyrn byd-eang cyn symud ymlaen i drafod agwedd crefyddau eraill tuag at y blaned.
Waldo gyda’i ddisgyblion - Ysgol Gynradd Gatholig Abergwaun; allon o: Bro a Bywyd – Waldo Williams (Golygydd James Nicholas) Cyhoeddiadau Barddas 1996 Yn anuniongyrchol, thema amgylcheddol oedd i Sgwrs y Plant ar ddechrau’r Oedfa Foreol hefyd. Trwy sôn am dyfu a thyfiant, a’r datblygiad sy’n ynghlwm wrth hynny, arweiniwyd y Plant a’r Plantos yn y Sêt Fawr i feddwl am Dail Pren (1956, Gwasg Gomer), cyfrol barddoniaeth Waldo Williams (1904-71). Trwy gysylltu geiriau un o gerddi enwocaf Waldo, Y Tangnefeddwyr: “Gwyn ei byd yr oes a'u clyw, Dangnefeddwyr, plant i Dduw.” trafodwyd y berthynas agos y datblygodd Waldo Williams yn ystod ei yrfa fel athro â phlant. Gwnaethpwyd cysylltiad rhwng hynny â’r cariad a’n gorchuddia yng nghwmni ein Harglwydd Iesu Grist.
Stryd Fawr - Y Tymblei fagwraeth, a wnaeth ein Cennad Gwâdd gan ddadlau mai’r safle gorau i weld y pentref oedd o Gapel Seion, Drefach a’i ddwy graig, Craig y Llety ar y naill ochr a Chraig Llechyfedach y llall. A chreigiau a phrofiadau’r creigiau fu thema gweddill y sylwadau. Yn byw heb fod nepell o’i gartref plentyndod ‘roedd ei gyfaill - John Meurig (Syr John Meurig Thomas erbyn hyn) - a fu’n ei ddysgu am ryfeddod byd yr adar. Wrth i’r pregethwr hel atgofion, yn gwbl briodol clywyd geiriau emyn Gomer M. Roberts (uchod) yn treiddio trwodd o’r Festri. I gynulleidfa Eglwys Minny Street, sydd bellach yn hyddysg yn y Tabl Cyfnodol (!) diolch i gyfres pregethau ein Gweinidog, o ddiddordeb arbennig oedd cael gwybod bod yna fwyn newydd wedi ei enwi ar ôl ei gyfaill - Meurigite - sef cyfuniad o nifer o’r elfennau mwy cyfarwydd gan gynnwys Haearn, Ocsigen Ynys Lawd (Photo by Tom Oates)a Ffosfforws. Aeth ein Cennad ymlaen i sôn am graig arall gwbl allweddol yn ei fagwraeth sef Capel y Graig, Machynlleth. Yno y byddai’n mynd i gadw cwmni i’w fam-gu mewn Cwrdd Gweddi a Seiat. Wrth bregethu mewn Cymanfa Bregethu am y tro cyntaf, yn Sir Fôn, tywyswyd ein Cennad i olwg “craig hynna’r greadigaeth” sef Ynys Lawd (South Stack) - pwy ŵyr nad dyma’r sychdir a ymddangosodd yn adnod ein testun? Wrth nodi nifer o greigiau daearyddol fel yma, tanlinellodd y Parchedig Ieuan Davies bwysigrwydd gweld ymhellach na’r graig weladwy. Mae yna greigiau niferus ym mywyd pob yr un ohonom ond deil un Graig yn sail gadarn i’n bywydau, craig sydd yn ein rhyddhau ac yn ein cynnal. Cofiwn y graig y’n naddwyd ohoni:
Wedi’r deisyfiad “Arglwydd, pâr heddwch” ar ddiwedd yr ail bennill ceir, yn y trydydd, dripledi yn diffinio’r heddwch y deisyfwn amdano; ‘heddwch o’m mewn’, ‘heddwch i’th saint’ a ‘heddwch i’r byd’; ‘i ddifa’, ‘yng nghanol’ ac ‘yn lle’; ‘llygredd calon’, ‘pryderon’ a ‘brwydrau creulon’.
Cafwyd cyfle yn ystod y prynhawn i ymuno â Christnogion Caerdydd mewn Gosber yng Nghadeirlan Dewi Sant i ddynodi’r Wythnos Weddi dros Undeb Cristnogol. Golygfa i’w chofio oedd gweld y Gadeirlan o dan ei sang; bu rhaid i nifer o’r gynulleidfa sefyll ar eu traed yng nghefn a chyntedd yr adeilad drwy’r gwasanaeth. Archesgob Caerdydd, y Parchedig George Stack, ac Archesgob Cymru, y Parchedig Barry Morgan, oedd yn arwain yr Oedfa Weddi, gyda’r Parchedig Dr Leslie Griffiths, Gweinidog Capel John Wesley yn Ninas Llundain yn cyflwyno homili o dan y pennawd pryfoclyd: Tirlun Crefyddol Cymru ar Ddechrau’r 21ain Ganrif. Seiliodd llawer o’i fyfyrdodau ar lyfr yr Athro M Wynn Thomas (a fu’n darlithio yn y Gymdeithas Ddiwylliannol ddechrau Tymor 2011-2012), In the Shadow of the Pulpit (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010). Bu’n son am ddylanwad Anghydffurfiaeth ar hyd y canrifoedd a chymharu hynny â’r dylanwad llai a gafodd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru ar ôl y Diwygiad Protestannaidd … er cryfder ei dylanwad cyn hynny! Gofynnodd ai nawr yw’r amser i’r eglwys gatholig (nid Catholig, sylwer!) ddangos blaengarwch yn ein gwlad? Bu hefyd yn son am emynau Ann Griffiths a William Williams, Pantycelyn a gan droi at un o’i ffefrynnau:
Cylch y Gymdeithas Ddiwylliannol a Bywyd Cymdeithasol - Parc Gwledig Cosmeston, Penarth: 21 Ionawr 2012
Gwanwyn eto wedi ein cyrraedd ond mae englyn John Penry Jones yn datgan yr addewid o’i ddyfod:
Bilidowcaroedd y caffi ond ni fu’r tywydd yn garedig wrthym ar ddechrau’r daith - ‘fflangell y glaw’, chwedl Waldo, yn chwipio am ein coesau a’n pennau a’r gwynt yn hyrddio’n hun yn ein hwynebau ond, fel Eifion Wyn, ei herio wnaethom:
Munud i Feddwl – 18 Ionawr 2012
Cymru 2012! Gwlad gymhleth, gyfoes, aml-ethnig, aml-ffydd ac amlddiwylliannol. Pêl troed - canolwr - rheolau! Heb reolau, nid oes gêm; heb y gêm, pa ddiben sydd i unrhyw dîm? Cymru 2012. Mae yna linyn cyswllt - darllenwch Munud i Feddwl y Gweinidog i'w ddarganfod.Cylch y Gymdeithas Ddiwylliannol a Bywyd Cymdeithasol: Y Gymdeithas – 17 Ionawr 2012
Cadeirydd eleni) a Helen Evans, ac Elfrys Jones yn ein cadw’n effro drwy drefnu cwis ar ein cyfer.
ymwneud â Chymru a’r byd.Pregethu, Bedyddio, Temtio a Galw – 15 Ionawr 2012
St John the Baptist Preaching gan Paolo Veronese (1528-88)Parhau ar y daith trwy Efengyl Mathew fu cynulleidfaoedd Eglwys Minny Street yn Oedfaon y Dydd. O dan arweiniad ein Gweinidog cawsom gyfle i fyfyrio ac ystyried arwyddocâd Pregethu Ioan Fedyddiwr, Bedydd Iesu, Temtiad Iesu a Galw Pedwar Pysgotwr. Fel arfer, mewnwelediad amgen a gawsom; dyna, rhaid cyfaddef, a ddaethom i ddisgwyl! Un o nodweddion ein Gweinidog yw nad y traddodiadol a’r disgwyliedig a gyflwynir o’r pulpud. “Chwi epil gwiberod! Pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? … mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw’n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i bwrw i’r tân” (Mathew 3: 7-10). Nid yn aml y clywir pregethu tân a brwmstan, ac uffern o bulpudau’n heglwysi; fe’n taflwyd ychydig o’n hechel yn yr Oedfa Foreol wrth glywed y geiriau uchod fel testun i'r gyntaf o bedair homili'r dydd. Gan ddefnyddio geiriau cyfarwydd Efengyl Ioan “… carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw …” (Ioan 3: 16) aeth y Gweinidog yn ei flaen i danlinellu pwysigrwydd geiriau ‘tân a brwmstan’ Ioan Fedyddiwr i’n hargyhoeddi nad cyhoeddi uffern a wna’r Testament Newydd ond cyhoeddi bod ein gobaith yng Nghrist. Rhaid, er hynny, rhybuddiodd y Gweinidog, dderbyn a deall fod yr “un sy’n gryfach na mi” yn ôl Ioan Fedyddiwr (Mathew 3: 11) yn galw i farn pob dyfodol a gynllunnir sydd yn ddyfodol heb Dduw. Daeth Iesu atom i’n “bedyddio nid a dŵr, ond â’r Ysbryd Glan ac â thân” (Mathew 3:11); daeth i losgi ymaith popeth y cynlluniwn i’n hunain heb Dduw:
The Baptism of Christ gan Andrea del Verrocchio (1435-88)“… Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.” (Mathew 3: 17) Bedydd Iesu oedd thema ail homili'r Oedfa Foreol a’r Gweinidog yn egluro sut y bu i Mathew ddeall fod Bedydd Iesu yn fwy nag ymdrochiad yn nŵr yr Iorddonen. Deallodd yr Efengylwr ei fod yn arwydd o neilltuo, yn arwydd pendant o osod ar wahân. Rhoddwyd enw newydd i Iesu trwy ei fedydd; yn a thrwy ein bedydd ninnau rhoddir enw - hunaniaeth- newydd i ninnau. Fe’n neilltuir ni fel math arbennig o berson - un sy’n eiddo i Dduw. Onid ein gwaith felly, gofynnodd y Gweinidog, yw tanlinellu pwysigrwydd Oedfa Fedydd. Datgan bedydd bod person yn fwy na dernyn bach mewn peiriant anferth gwleidyddol ac economaidd; datgan na all person fyw’n llwyr iddo’i hunan heb ddarganfod ei fod yn methu byw gyda’i hunan; datgan pwy, ac eiddo pwy, ydym. Bedyddiwyd Iesu er mwyn i Dduw ei osod ar wahân, trwy ei alw wrth ei enw, a’i hawlio’n eiddo llwyr iddo. Fe’n bedyddir ninnau am yr un rheswm, a dyna pan, fe’n hatgoffwyd gan y Gweinidog, nad ‘chwarae bach’ yw Oedfa, a Neges, Bedydd.
The Temptation of Christ gan Sandro Botticelli (1445-1510)Arweiniodd yr homili ar Fedydd Iesu i homili gyntaf yr Oedfa Hwyrol, yn seiliedig ar Demtiad Iesu. Arweiniwyd Iesu o’i fedydd i gyfnod hir, diflas, anodd ac unig yn yr anialwch! Ar derfyn y fath gyfnod nid rhyfedd os oedd Iesu’n dechrau amau gwerth a sylwedd ei fedydd? Cyflwynodd y diafol dair sefyllfa: “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi’n fara” (Mathew 4: 3) - hanfod y temtiad cyntaf: cyflawni hud a lledrith. “Os Mab Duw wyt ti fwrw dy hun i lawr …” (Mathew 4: 6) - hanfod yr ail demtiad: hawlio gofal ac amddiffyn arbennig Duw. “Y rhain i gyd a roddaf i ti os syrthi i lawr a’m haddoli i” (Mathew 4: 9) - grym a dylanwad yw hanfodion y temtiad olaf. Awgryma’r diafol bod Iesu’n haeddu gwell! Yn Nhemtiad Iesu gwelwn y gwirionedd am Iesu Grist, Anwylyd Duw. Profa Iesu mai Ef yw Anwylyd Duw, nid wrth hawlio grym, ond wrth ei wrthod … ymwrthod â hud a lledrith, amddiffyn yr angylion, a grym a dylanwad gwleidyddol. Dewis Mab y Duw Byw aros yn un ohonom ni, a derbyn yr holl beryglon a thrafferthion y gwyddom cymaint amdanynt. Mae Iesu yn Fab i Dduw, nid oherwydd iddo godi allan o’i ddynoliaeth, ond oherwydd iddo fynnu aros yn ei ddynoliaeth, er gwaethaf ei holl wendid ac annibendod.
Calling the Fishermen - ffenestr lliw yn Eglwys Lwtheraidd Gloria Dei, Downers Grove, Illinois, UDA“Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; pysgotwyr oeddent … Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion” (Mathew 4: 18-19) Mae’r ddelwedd o Gristnogion yn pysgota am ddynion yn un cyfarwydd ond a gollwyd rhywbeth yn y dehongliad hwnnw? gofynnodd y Gweinidog! “pysgotwyr oeddent” - oes yna bosibilrwydd mai’r ffaith eu bod yn bysgotwyr a arweiniodd i Iesu orchymyn iddynt fod yn bysgotwyr dynion? Bu’r Gweinidog yn goglais ein meddyliau yn homili olaf y dydd a sylwadau a chwestiynau tebyg. Cynigiodd bod Iesu wedi defnyddio’r ddelwedd o bysgota am ei fod yn siarad â physgotwyr. Yn union fel aeth Iesu ar y pedwar pysgotwr - Pedr, Andreas, Iago ac Ioan - a chychwyn lle’r oeddent, aeth y Gweinidog yn ei flaen i gynnig bod Iesu yn dod atom ninnau hefyd gan ddechrau lle’r ydym!
Praying Hands gan Albrecht DurerValentine, 1893-1986; C.Ff. 852) oedd dewis Rhiannon. “Emyn adnabyddus”, meddai, “ sy'n fy atgoffa o ddod i'r capel ers yn fach gan gynnwys chwarae'r don ar y soddgrwth yng ngherddorfa Minny Street.” Cyfeiriodd hefyd am sut mae geiriau Lewis Valentine yn cyfleu hunaniaeth Cymru. Cofio am angladd cyd-aelod, yr actores Rachel Thomas (1905-1995), a wna John wrth glywed geiriau “Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw …” (W Rhys Nicholas, 1914-96; C.Ff. 791). Er eu canu yn aml mewn angladdau mae’r geiriau hefyd yn arwyddocaol iawn i fywyd a byw; teimla John bositifrwydd yn y geiriau a'r don. Ar ymweliad diweddar ag arddangosfa o waith yr athrylith Leonardo de Vinci (1452 - 1519) yn Oriel Genedlaethol Llundain, trawyd Owain yng nghanol ysblander y portreadau, gan fedrusrwydd astudiaethau Leonardo de Vinci o ddwylo. Atgoffwyd Owain o ddarlun enwog Albrecht Dürer (1471-1528), 'Praying Hands'; darlun a ysbrydolodd T Rowland Hughes i ysgrifennu'r geiriau: “Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun …” (T. Rowland Hughes, 1903-49; C.Ff. 139). Dyma un o hoff emynau Owain pan oedd yn blentyn. Darlun enwog Albrecht Dürer oedd pwnc astudiaeth Dosbarth y Plantos yn yr Ysgol Sul hefyd. Cafwyd cyfle i drafod y llun; y Plantos yn rhannu eu profiadau am weddïo a son am y modd y dodant eu dwylo gyda’i gilydd nid yn unig bob Bore Sul yn Sêt Fawr wrth weddïo Gweddi’r Arglwydd ond hefyd ar adegau eraill adref ac yn yr ysgol ddyddiol. Buwyd yn creu lluniau o ddwylo yn gweddïo cyn mynd ati i ddysgu a chanu’r geiriau.Pa wlad?lle mae rhan fwyaf o’r Hen Destament a’r Testament Newydd yn digwydd? … Beth yw Prifddinas Norwy? Ble bu llifogydd cas iawn ychydig flynyddoedd yn ôl? … O ba wlad daw Barack Obama? ... Pobl hyfryd, siocled hyfryd? … Beth yw neges priflythrennau’r atebion gofynnodd y Gweinidog! Cariad: Gobaith Byd ... yr unig ateb, cynigiodd, i broblemau pobl yw cariad. Nid dial, nid cas am gas yw gobaith byd, ond cariad. Pa well Neges Dechrau Blwyddyn Newydd i aelodau Eglwys Crist! Ar ôl llwyddo yn y cwis cawsom agor yr amlen fach 'roedd pob un ohonom wedi ei derbyn wrth ddod i’r Oedfa Foreol. Ym mhob amlen 'roedd dwy losinen, un yn felys hyfryd a’r llall yn sur ddychryn! Nid oedd modd gwahaniaethu ond fe’n hanogwyd gan y Gweinidog i ddewis a bwyta! Os melys cyfle i gofio a diolch i Dduw am rywbeth melys, da a ddigwyddodd yn ystod yr wythnos aeth heibio; os sur cyfle i gofio a chyflwyno i Dduw'r peth neu’r sefyllfa hwnnw a ddigwyddodd. “Diolchwn, Arglwydd, am bob cyfeillgarwch a fwynhawn â thi ac â’n gilydd ynot Ti; am newyddion da, am sgyrsiau dymunol, am hwyl a chwerthin iach, am gefnogaeth a chydymdeimlad, am gael rhannu problemau, am gael ymlacio yng nghwmni’n gilydd ac am gael darganfod ein hunain yn y gwmnïaeth â’n gilydd yn dy gariad di. Amen”
Street. Yn yr Oedfa Foreol cyhoeddwyd sefydlu a chychwyniad gwaith y Gweithgor. Diben y Gweithgor hwn fydd hyrwyddo a sicrhau Gweinidogaeth Eglwys Minny Street i’r dyfodol. Bydd y Gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, yn adrodd yn ôl i’r Cyfarfod Diaconiaid bob chwarter, ac yn cynnig Adroddiad i ystyriaeth y Cwrdd Eglwys ym Mis Gorffennaf 2013. I geisio hyrwyddo gweinidogaeth yr holl aelodau bydd y Gweithgor yn ystyried sut mae’r weinidogaeth yn gweithio ym Minny Street; beth yw barn ein pobl am weinidogaeth yr eglwys; sut mae gwella’n gweinidogaeth; pe bai’r eglwys yn ddi-weinidog, a oes ganddi strwythurau mewn lle i gynnal a pharhau’r weinidogaeth; beth mae ein pobl yn dymuno o’r weinidogaeth; ynghyd â sicrhau fod gan bob prif swyddog, aelod neu aelodau a all gamu i’r adwy pe bai angen. Un canllaw penodol a roddir i’r Gweithgor: nid trafod yr adeilad yw ei waith! Yn ystod y dydd, cafwyd cyfle i gyflwyno’r Gweithgor i ofal Duw, ac i ofyn am fendith ac arweiniad Duw ar y fenter gynhyrfus hon.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd - Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol: 12 Ionawr 2012
‘Roedd Festri Eglwys y Tabernacl yn gyfforddus llawn heno wrth i Gristnogion Cymraeg Caerdydd ddod at ei gilydd mewn gweddi a myfyrdod mewn oedfa arbennig yng nghanol yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. “Yr ydym i gyd i gael ein newid” oedd thema’r oedfa; fe’n dwysbigwyd gan eiriau agoriadol ein cyd-gyfarfod: “Wrth inni weddïo ac ymdrechu am undod gweladwy llawn yr eglwys, yr ydym ni - a’r traddodiadau yr ydym yn perthyn iddynt - i gael ein newid, ein trawsffurfio a’n cydweddu â delw Crist.” Yng ngeiriau cyfarwydd Paul yn ei lythyr at y Corinthiaid,
“Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf …” (1 Corinthiaid 15: 51-58), a chyfieithiad o eiriau cyfarwydd cerdd Sarah Fordham Zaccheus, "Fe wyddai fy enw, dyna’r peth. Sut y gwyddai fy enw? … ‘Roeddwn i mor hapus oherwydd, am y tro cyntaf yn fy mywyd erioed, doeddwn i ddim ar goll”, buom yn myfyrio ar newid yn golygu chwyldro personol, yn cydnabod chwyldro cymdeithasol a mewn agwedd at gyrff a sefydliadau crefyddol eraill. Cafwyd cyfle hefyd i weddïo ac ymbil am arweiniad a chyfeiriad Duw yn ein cenhadaeth at bobl, ein cenhadaeth yn y gymuned ac i gryfhau perthynas yr eglwys gyda’i gilydd. Yn ystod yr oedfa trosglwyddwyd Llywyddiaeth y Cyngor gan ein cyd-aelod y Parchedig Menna Brown i Drysorydd Eglwys y Tabernacl, Illtyd Lloyd. Croesawyd Ficer Eglwys Dewi Sant, y Parchedig Dyfrig Lloyd i’r Is-Lywyddiaeth. Oedfa fendithiol oedd hon a’n gweddi wrth ymadael oedd:Munud i Feddwl – 11 Ionawr 2012
Mins peis, cacen Nadolig, pwdin Nadolig a saws gwyn, twrci a thato a phys ac ysgewyll Brwsel, gwydriad o sieri a siocled. Gor-fol-edd? Beth am wydraid o arlleg a phersli, ychydig ciwcymbr, dwy foronen a choesyn o seleri - diod dadwenwyno heb ei debyg yn ôl y gwybodusion! Ond “Dywedodd Duw, ‘Gwnawn ddyn ar ei delw, yn ôl ein llun ni ...’” (Genesis 1:26a) ... ewch i Funud i Feddwl y Gweinidog am wir ‘detox’. Bethania – Fesul Cam trwy Efengyl Mathew – 10 Ionawr 2012
Drws Gostyngeiddrwydd, Eglwys y Geni, BethlehemEr i’r Nadolig a Gŵyl Ystwyll basio am eleni eto geiriau cyfarwydd Efengyl Mathew yn adrodd hanes Genedigaeth Iesu Grist (Mathew 1: 18-25) oedd testun sylw Bethania cyntaf 2012. “Fuoch chi erioed ym Methlehem?”, gofynnodd y Gweinidog. ’Roedd rhai wedi bod yno, ac wedi gorfod plygu pen, gorfod ymostwng wrth fentro i mewn trwy’r drws bach, cul, diaddurn, rhyw bedair troedfedd a hanner a arwain i mewn i Eglwys y Geni. Fe'n hatgoffir gan y drws o ryfedd ostyngeiddrwydd Duw yn ymweld â'r byd ... “gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol” (Philipiaid 2:7). Rhaid plygu wrth fynd i mewn i Eglwys y Geni. Mae'r drws hefyd
"God has known the dust"yn her. Wrth y preseb nid oes lle i’r balch a’r penuchel; rhaid dod at y preseb, fel y bugeiliaid a'r doethion, ar ein gliniau.PIMS - Owen Lewis Roberts a David Charles: 9 Ionawr 2012
Gweinidog Cyntaf Eglwys Minny Street: Y Parchedig O L RobertsCwis Hanes Minny Street oedd gweithgarwch cyntaf PIMS yn 2012. Pwy oedd y Gweinidog cyntaf? Pryd ddechreuwyd yr Achos? Pwy oedd y Gweinidog adeg eich geni? ... rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd i’r bobl ifanc wrth iddynt ymchwilio’n ddyfal mewn adroddiadau blynyddol a lluniau. Y cwestiwn olaf oedd yr anoddaf. “Beth yw Minny Street?”, gofynnodd y Gweinidog, “capel neu eglwys?”. Bu trafodaeth fanwl ar hyn, gydag Owain Llyr yn egluro’r gwahaniaeth rhwng y ‘capel’ fel adeilad a’r ‘eglwys’ fel y gymuned o fobl yn dod at ei gilydd i addoli. “Os dinistrir y capel gan storm”, meddai, “bydd Eglwys Minny Street yn dal i fod.” Gwers hollbwysig oedd hon i egluro hanfod a natur cymuned o Gristnogion yn cydgyfarfod. (Ceir atebion gweddill y cwestiynau ar dudalennau Hanes Eglwys Minny Street !)
ffydd, gobaith a chariad sy’n help i’n gwneud yn Gristnogion gwell o ddydd i ddydd”, meddai Sioned. Datblygodd Manon y cysyniad hwn trwy nodi “ein bod yn cael cymorth Duw, wrth weddïo a’i addoli yn yr Eglwys, a’n bod yn cael ein nerthu gan Ysbryd Duw sy’n llawn ffydd a gobaith.” Wrth grynhoi'r cyfan nododd Jac sut “y cawn bopeth gyda’i gilydd mewn ffydd, gobaith a chariad.” Ar ôl sesiwn reit ddiwinyddol ei naws, croesawyd y bisgedi Nadoligaidd ffurf coeden - Masnach Deg - wrth dreulio munudau olaf y sesiwn yn sgwrsio a chwarae tenis bwrdd.Caredigrwydd, Rhyddfrydiaeth Grefyddol a Stormydd Bywyd– 8 Ionawr 2012
The Good Samaritan gan Dinah Roe Kendall (gan. 1923)Bu heddiw yn Sul llawn prysurdeb a bendith yn hanes Eglwys Minny Street. Agorwyd ein defosiwn boreol yn yr Oedfa Foreol Gynnar gan Glyn E Jones. Adrodd stori a wnaeth am fachgen o’r enw Tom a oedd wedi mynd i'r Parc am dro ond cafodd ei fwrw i lawr gan feic yn gwibio heibio iddo. Cerddodd dau heibio - un yn mynd i gefnogi’r Gleision, un arall am weld Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Heibio hefyd aeth dwy ar ei ffordd i’r ‘sales’ - brys mawr ar y ddwy! Rhaid oedd gofalu na chollid yr un fargen. Stori wahanol iawn fu honno pan gerddodd Huw heibio; stopiodd, aeth ar ei ffon symudol ar ei union o weld y sefyllfa a ffonio’r ambiwlans - cariwyd Tom i’r ysbyty lle bu’r meddygon yn edrych ar, a gofalu am ei, glwyfau. Hanes cyfarwydd? Cyflwyniad cwbl gyfoes o Ddameg y Samariad Trugarog; llwyddodd y cyflwynydd i’n denu i gyd, yn llond festri o bob oed, i ail-ystyried arwyddocâd y neges. “Pa un gair”, gofynnodd i bedwar o’r plant, “ddaw i’ch meddwl o glywed y stori?” Er ysgrifennu cudd y pedwar, pan ddatgelwyd y ‘gair’ - ‘caredig’, ‘caredig’, ‘caredig’ a ‘charedig’ oedd yr atebion! Ar ddechrau Blwyddyn Newydd pa neges gwell i gynulleidfa o ddilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist!?
Rhyddfrydiaeth grefyddol Annibynia oedd y llinyn cyffredin yn rhedeg trwy’r ddwy bregeth a gyflwynwyd yn ystod y dydd heddiw; yn fwyaf penodol, pwysigrwydd pawb, a phwysigrwydd rhyddfrydiaeth iach. Yn yr Oedfa Foreol dychwelyd i’r Tabl Cyfnodol a wnaethom a chanolbwyntio ar yr elfen Ewropiwm - aelod o’r prinfwynau a dynnir at ei gilydd gan eu ‘hystyfnigrwydd’. Gydag Ewrop a’r Ewro gymaint yn y newyddion yn gyfredol, tynnu ein sylw at bapur 5€ a wnaeth y Gweinidog. Ar un ochr gwelir sêr melyn; o dan olau uwchfioled try’r sêr yn goch. Y cemegyn Ewropiwm sy’n gyfrifol am hyn!
>Darn o Ewropiwm“Dychmygwch mai Gwyddoniaeth yw’r Papur 5€ ac mai Crefydd yw Ewropiwm”, cynigiodd y Gweinidog. Hanfod gwyddoniaeth yw esboniad; hanfod crefydd yw ystyr. Mae’r tensiwn creadigol rhwng y naill a’r llall yn gymorth i ni ddeall y materol a darganfod yr ysbrydol: rhaid cael y ddau, rhaid cydnabod y ddau, rhaid i’r naill gydnabod pwysigrwydd a gwerth y llall. Os bydd unigolyn, grŵp o unigolion, cenedl neu fudiad yn credu mai eiddo hwy yw’r gwir, ac maent hwy yn unig sydd biau’r gwir, a bod angen dileu a difa pawb arall rhoddir cymdeithas wâr a diwylliant iach mewn perygl. Yn 2012, gwelwn fod yr argyhoeddiad hwn ar gynnydd a’r pegynnu, sy’n anorfod yn ei sgil, yn fwyfwy amlwg. “A ddylid trafod gwyddoniaeth a chrefydd yn Eglwys Minny Street?”, gofynnodd y Gweinidog.
“Dylid!” oedd ei ateb pendant. ‘Rydym yn rhan o’r ateb! Eglwys Ryddfrydol yw Eglwys Minny Street - mae iddi hanes hir o ryddfrydiaeth grefyddol ac onid rhyddfrydiaeth yw’r ateb i’r rhwyg rhwng crefydd a gwyddoniaeth? Mae anffyddiaeth yn haeddu gwell na’r ymosod chwyrn sydd mor nodweddiadol o ladmeryddion cyfoes: “It is absolutely safe to say that if you met somebody who claims not to believe in evolution, that person is ignorant, stupid, insane or wicked.” (Richard Dawkins, gan. 1941; allan o adolygiad o Blueprints: Solving the Mystery of Evolution, New York Times, 9 Ebrill 1989). Haedda crefydd hefyd gwell na’r gwrthymosod chwyrn sydd mor nodweddiadol o grefydd geidwadol ein cyfnod. Mae angen trafodaeth gall rhwng crefydd a gwyddoniaeth am y sialensiau enbyd a wyneba dynoliaeth. Rhaid cael golau uwchfioled i amlygu’r Ewropiwm yn y papur 5€. Heb ei amlygu hawdd ei wadu. Yr hyn a wel pobl o Dduw yw’r hyn o Dduw a welant ynom ni a’n tebyg. Yr hyn a welant o werth crefydd yw’r gwerth a roddwn ni a’n tebyg ar ein crefydd. Peidiwn anghofio hynny!St Philip teaching the Eunuch - Mynachlog Decani, Gweriniaeth Serbiacyfarwyddyd yn ddigon clir a phendant; dadl eraill yw mai dehongliad rhagrithiol iawn yw hyn … a ddylid hefyd gwahardd gwisgo dillad o ddeunydd cymysg (Lefiticus 19:19)?; gwahardd bwyta cig â gwaed ynddo (Lefiticus 19:26)?; neu wahardd torri gwallt ar ochr pen (Lefiticus 19: 27a)? Beth sydd gan Iesu i’w ddweud? Oes yna arweiniad yn y Testament Newydd? Arweiniwyd ni gan y Gweinidog i hanes Bedydd yr Eunuch o Ethiopia (Actau 8: 26-40): cynrychiola’r eunuch amheuaeth y cyfnod at bobl a thueddiadau rhywiol gwahanol. Cynrychiola Philip y modd y dylai Cymuned Ffydd ymateb. Beth oedd Philip i’w wneud pan ofynnodd yr eunuch iddo i’w fedyddio? Yn ôl y Torah “Nid yw neb sydd
Baptism of the Eunuch of the Ethiopean Queen by Philip - Amgueddfa Eiconau, Recklinghausen, Yr Almaenwedi ei ysbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd.” (Deuteronomium 23:1); nid oedd gan yr eunuch hawl, felly, i fod yn aelod o’r synagog na’r eglwys a hawdd iawn i Philip byddai bod wedi gwrthod a cherdded i ffwrdd a’i gydwybod yn gwbl glir. Beth wnaeth Philip? O dan arweiniad yr Ysbryd Glân bedyddiodd Philip yr eunuch a thrwy hynny ei dderbyn i Deulu’r Ffydd. Onid gobaith mawr yr Efengyl yw bod holl Blant Duw yn eistedd gyda’i gilydd wrth Fwrdd y Wledd yn Nheyrnas Dduw Yn amser Duw fe grëir ohonom eglwys iach lle na rwystrir neb rhag perthyn iddi oherwydd y gwahaniaeth rhywiol sydd yn bodoli rhyngddynt ag eraill. Chwiliwn felly am y nod, am oleuni yn ein tywyllwch, am arweiniad yn ein dryswch, am ragor o ffydd i gynhesu ein byw a’n bod ac am fwy o brocio cyson yr Ysbryd Glân inni gofleidio bygythiad y gwahanol.
sy’n trefnu’r dathliad ac er nad ydym yn dilyn yr hen draddodiad gwreiddiol o ganu gyda ‘caniad y ceiliog’ dilynwn arfer diwedd y 18fed Ganrif i gyfarfod yn ystod y dydd rhywbryd rhwng Nadolig a’r Hen Galan. Y Parchedig Ddr R Alun Evans a’n Gweinidog fu’n gofalu am rannau defosiynol yr Oedfa. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i ganu, mewn grwpiau ac fel unigolion, dwy rownd cyn i ni gyd ymuno i ganu Carol y Swper i ddod a’r Blygain i’w therfyn:
bod gwrthrych yr aberth yn werthfawr. Teimlwyd er hynny bod rhaid bod yn ofalus! Nid yw stormydd yn angenrheidiol cyn derbyn ohonom y pethau da - ond fe allant! Gellir, wrth reswm, gael a cheisio’r ‘pethau da’ heb gymhelliad storm fawr na drygau’r byd. Ond, os stormydd yw’r pris amdanynt, dywed Moelwyn ei fod yn barod i dalu’r pris. Gofynnwyd a ydy cael gafael ar ‘y pethau da’ yn hawdd i ni heddiw? Yn sicr profwn hwylustod addoli ac addoldai, amlder cyfleusterau a chyfryngau o bob math. O’i gymharu â chyfnodau'r gorffennol cytunwyd bod moddion gras o fewn cyrraedd pawb ohonom; yn wir, rhaid gwylio rhag i rwyddineb y moddion ein dallu i werth y gras. Ar y llaw arall, yn ddiwylliannol, o leiaf , teimlad Aelodau Wedi 7 oedd, o leiaf ar adegau, ei bod yn anos; nid hawdd bod yn Gristion fel myfyriwr yng Nghaerdydd yn Ionawr 2012. Mae angen dewrder a gwroldeb. Hawdd iawn anghofio hynny yn ‘swigen’ ddiogel y bywyd crefyddol mae cymaint o arweinwyr ac aelodau eglwysi yn byw ynddo. Trafodaeth bellgyrhaeddol oedd hon; bu rhaid ei dirwyn i ben rhag i’r chilli côn carne losgi! Dros y bwrdd parhau wnaeth y drafodaeth; ehangu gwnaeth rhychwant y sgwrs - The Iron Lady, Tair Rheol Anhrefn - Nofel Fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2011, Great Expectations Charles Dickens (1812 - 1870) ynghyd â Chlybiau Nos Caerdydd!
Myfyrdod Gŵyl Ystwyll - 6 Ionawr 2012
Adoration of the Three Kings gan Brian Whelan (gan. 1950)Daw’r gair Saesneg epiphany o’r iaith Groeg - ἐπιφάνεια - yn golygu ‘amlygiad’. I’r Eglwys Gristnogol cyfeiriad yw hyn at Iesu yn gwneud ei hun yn amlwg neu’n peri i eraill ddod i wybod amdano. Erbyn hyn, cysylltir Gŵyl Ystwyll â thri digwyddiad ym mywyd ein Harglwydd: dyfodiad y sêr-ddewiniaid i'w weld ym Methlehem, ei fedyddio yn yr Iorddonen a'r wyrth gyntaf yng Nghana, Galilea. Mae'n ŵyl hynafol. Ceir sôn am ddathlu Gŵyl Ystwyll yn yr 2il Ganrif; daeth yn boblogaidd yn y 4edd Ganrif. Deil ambell gangen o’r Eglwys Gristnogol i ddathlu’r Nadolig ar y diwrnod hwn. Yng Nghymru, arferwyd datgymalu’r crud mewn eglwysi ar Ŵyl Ystwyll; tynnwn ninnau'r addurniadau i lawr yn ein cartrefi. Wrth ddod â llawenydd y Nadolig i’w derfyn am flwyddyn arall darllenwch Myfyrdod y Gweinidog am her Gŵyl Ystwyll.Munud i Feddwl – 4 Ionawr 2012
Stefani Joanne Angelina Germanotta - Lady Gaga (gan. 1986)Lady Gaga, Oprah Winfrey, Justin Bieber, Elton John, Tiger Woods, Taylor Swift, Bon Jovi, Simon Cowell, LeBron James ac Angelina Jolie. Dyna nhw! … deg uchaf Rhestr Forbes 2011. Pwy hoffech chi fod? Yng nghamau pwy ydych chi am droedio? Pwy yw eich arwr? Wnaethoch chi adduned Blwyddyn Newydd? Darllenwch Munud i Feddwl wythnos gyntaf 2012 a chewch ddarganfod Cyfrinach Blwyddyn Newydd Dda! Cylch y Gymdeithas Ddiwylliannol a Bywyd Cymdeithasol – Y Gymdeithas: 3 Ionawr 2012
Bu Elwyn yn rhyfeddol o gynhyrchiol fel awdur dros y blynyddoedd, gan gyhoeddi yn ei faes academaidd ac ar bynciau perthnasol megis hanes bwyd yng Nghymru. Gwnaeth gyfraniad aruthrol i Gymru a'r Gymraeg pan fu am flynyddoedd yn Is-Olygydd y cylchgrawn Y Gwyddonydd o'r cychwyn, a chyhoeddodd lyfrau o bwys ar wyddonwyr fel Alfred Russell Wallace (1823 - 1913) a Charles Darwin (1809 - 1882). Mae hefyd yn hanesydd lleol sydd wedi ymchwilio ac ysgrifennu'n ddifyr iawn am ardal Pentyrch. Y llynedd cyhoeddodd lyfryn o dan y teitl Merched Digon Trafferthus (argraffwyd nifer gyfyngedig, Ionawr 2011; cyhoeddwyd gan R Elwyn Hughes), sef hanes rhai agweddau ar eglwysi Caerdydd yn ail hanner y 19eg Ganrif. Y llyfr hwnnw, bach o ran maint ond mawr o ran y themâu y mae'n eu trin, oedd testun ei sylwadau.
O'r llyfr: Merched Digon Trafferthus gan R. Elwyn Hughes, 2011cyfreithiol yn erbyn y Gweinidog am herwgipio'r ferch. Yn yr achosion eraill yn ymwneud ag Eglwys y Bedyddwyr yn yr Eglwys Newydd - a oedd yn achos Cymraeg yn dwyn yr enw Capel Treoda ar y pryd, ond a elwir Ararat heddiw – ac Eglwysi Ebeneser, Minny Street, a Hannah Street yn y dociau, rhyw oedd wrth wraidd yr holl anghydfod a'r achosion cyfreithiol.
Cydymdeimlo – 2 Ionawr 2012
Blwyddyn Newydd: yn llawn her a gobaith – 1 Ionawr 2012
Blwyddyn Newydd Dda! oedd cyfarchiad y Gweinidog fore heddiw cyn gofyn i’r plant a’r plantos yn y Sêt Fawr beth oedd yn gyffredin am y botel blastig, y cwpan a’r dudalen wen maint A3 oedd yn ei law. Bu yna dipyn o ddyfalu - daeth gwaedd o’r gynulleidfa …. “mae’r tri yn wag!” Yr ateb cywir! Potel wag, cwpan gwag a thudalen lân! “Dychmygwch mai 2012 yw’r botel, cwpan a thudalen,” meddai’r Gweinidog, “i gyd yn wag, yn union fel mae 2012 yn wag.” Fe’n hatgoffodd, yn blant a chynulleidfa hŷn, bod gennym 12 mis i’w llenwi! Onid ein cyfle, gofynnodd, yw defnyddio’r misoedd sydd o’n blaen i’w llenwi â Ffydd, Gobaith a Chariad? Neges bwysig, nid yn unig i’r plant a’r plantos, ond i bawb a oedd wedi dod ynghyd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd i ddiolch ac addoli Duw ein Creawdwr.
Eglwys Maes y Bugeiliaid ger BethlehemEin harwain nôl i’r bryniau o amgylch Bethlehem, at y bugeiliaid, wnaeth y Gweinidog yn ein Hoedfa Foreol. Clywir llawer am yr angylion yn dod at y bugeiliaid ond, rhaid cofio mai dros dro yn unig fu cwmni’r angylion. “Wedi i’r llu angylion fynd ymaith oddi wrthynt …” (Luc 2: 15a): awr dyngedfennol fu honno pan giliodd yr angylion. Er cymaint y fraint o weld a chlywed yr angylion credai’r Gweinidog cymaint mwy'r fraint oedd eu gweld yn mynd! Mawr y fraint i ninnau hefyd, mynnodd, yw eu gweld yn diflannu. Pam? Cynnig ymadawiad yr angylion gyfle i brofi dilysrwydd ein profiadau. Danfonodd Duw ei angylion i gyhoeddi’r ‘Newyddion Da’; fe’i geilw nôl er mwyn estyn cyfle i roi prawf ar yr hyn a glywyd! Rhaid i ninnau, rhybuddiodd y Gweinidog, beidio â bodloni ar ddim ond clywed Newyddion Da Nadolig 2011! Ofer y cyfan os na ddeuwn i Fethlehem. Cynnig ymadawiad yr angylion gyfle i ddod i adnabod Un sydd yn well na’r angylion. Braf oedd cwmni angylion Duw. Fresco ar fur Eglwys Maes y BugeiliaidGwelwn bobl yn ffoli ar gwmni mawrion ac enwogion byd; er cael cwmni’r Llu Nefol gwyddai’r bugeiliaid fod cwmni hyd yn oed yn well, yn fwy ac yn uwch yn eu haros. Mae yna berygl i ni fodloni ar lai nag y mae Duw yn dyheu am gael ei roi i ni. Ar ddechrau 2012, awn i Fethlehem gyda’r bugeiliaid, i weld y Trysor Mawr! Yn olaf, cynnig ymadawiad yr angylion gyfle i ddod i adnabod yr Hwn na fydd yn gadael byth. Mae’r dyhead am yr arhosol a’r digyfnewid yn ddwfn yn ein calonnau. Daw tristwch a hiraeth yn sgil ymadawiad yr angylion ond trefnodd Duw bod yr angylion yn cilio er mwyn i ni gael dod i adnabod yr Un sydd yn aros … Iesu Grist, a’i gariad yn arhosol o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Cawsom ein hannog, a’n herio, gan ein Gweinidog, ar ddechrau blwyddyn newydd i “fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano” (Luc 2:15b).
nes i’r seren ymddangos! Effeithiodd y seren arnynt! Ni wyddent sut ond gwyddent fod bellach ystyr a chyfeiriad i fywyd; ‘roedd cyfrinach pob doethineb ynghlwm wrth yr alwad ac ymhlyg yn y dynfa. Aethant ar daith ac wrth iddynt agosáu at Fethlehem llewyrchodd y seren fwyfwy hyd nes cyrraedd rhyw hofel dlawd. Yno pylodd golau’r seren. Gwyddai Melchior, Caspar a Belthasar mai dyma'r lle ‘roedd yr Un, y bychan, y mwyaf a fu erioed! Rhoesant eu hanrhegion aur, thus a myrr. Trannoeth cychwynasant ar ei ffordd adref. A dyna ni? Na! Cynigiodd y Gweinidog fod yno fwy! Er cychwyn ar eu taith adref sylweddolodd y tri nad oeddent wedi gwneud unpeth allweddol pwysig. Nid oeddent wedi diolch i’r baban. Troesant yn ôl i Fethlehem. Melchior am ddiolch am iddo, drwy’r baban, ddeall y medrwn ddod yn nes at Dduw ond cymryd y penderfyniad i gamu. Caspar am ddiolch am gael gweld maint a dyfnder ymddiriedaeth Duw. Belthasar wedyn, yn olaf, am ddiolch am gael gweld ysbryd bytholwyrdd y tragwyddol ifanc Dduw byw yn y baban. Diolchodd am gael deall nad edrych i mewn i ddrych yw ein huchel fraint ond bod yn ddrych y gall Duw ei ddefnyddio i adlewyrchu ei ogoniant. Gadawodd y tri eto ond, y tro hwn, yn dri gŵr doeth ac ar hyd ffordd wahanol! (Noder: bydd cyfle i fyfyrio ymhellach ar y doethion trwy gyfrwng y wefan ar Fore’r Ystwyll).
Simeon yn bendithio'r Baban Iesu (Luc 2: 28) Hawlfraint: Greg Olsen - gregolsengallery.comDeml a wnaeth y Gweinidog a’n hatgoffa o sut y bu i Simeon wybod mai Mab arbennig Duw oedd y bychan hwn. Gafaelodd Simeon yn y baban Iesu yn ei freichiau gan ganu’r geiriau cyfarwydd o ddiolch i Dduw: “Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: canys dy lygaid a welsant dy iachawdwriaeth …” (Luc 2: 29-32) Cyfeiriodd y Gweinidog at sut y bu i Simeon ac Anna ddeall yr un peth sydd angen i ninnau gydio ynddo ar ddechrau 2012 sef er mor fychan y baban, bychan eithriadol beryglus ydyw. Gwyddai Simeon hynny: “… gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer …” (Luc 2: 34). Onid yw hwn yn gymal rhyfedd?, gofynnodd y Gweinidog. Onid yw’r drefn yn wahanol i’r arferol? Yn Saesneg sonnir am ‘rise and fall’ o rywbeth, rhywun neu’i gilydd. ‘fall and rise’ yw trefn Duw! Gyda llif y flwyddyn bydd pawb ohonom rywbryd, rhywsut yn syrthio - mae’r peth yn anorfod - ond, atgoffwyd ni gan y Gweinidog, yn y cyfnod anodd hwnnw, cofiwn mai bwriad Duw ar ein cyfer yw ‘fall and rise’ nid ‘rise and fall’!
Clawr llyfr o Bregethau Ffarwel nifer o weinidogion a gafodd eu diarddel yn y 'Troi Allan' yn 1662Cofio Geni Oes yr Eglwysi Anghydffurfiol a wna Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei Neges ar Ddechrau Blwyddyn Newydd. Yn 1662 digwyddodd y ‘Troi Allan Mawr’ pan gafodd cannoedd o Weinidogion Anghydffurfiol eu disodli mewn Eglwysi Plwyf gan Offeiriaid Eglwys Loegr. O ganlyniad, bu Annibynwyr ac eraill yn cyfarfod mewn ogofau, ysguboriau a thai. Gan fod hynny yn anghyfreithlon, fe darfwyd ar sawl cyfarfod gan yr awdurdodau a chafodd nifer o arweinwyr eu harestio a’u carcharu. Yn dilyn Deddf Goddefgarwch 1689, bu i bethau wella yn raddol, a dechreuwyd sefydlu Eglwysi Annibynnol ar hyd a lled Cymru. Yn ei neges, dywed y Parchedig Andrew Lenny: “Mae’n gyfnod tywyll unwaith eto yn hanes ein gwlad, a’r angen am adfywiad crefyddol gymaint ag erioed. Ein braint ni, Annibynwyr 2012, yw cadw’r fflam ynghyn mewn dyddiau o dywyllwch gwahanol - tywyllwch anffyddiaeth, gofid economaidd ac ansicrwydd cymdeithasol mawr. Yn 2012, gweddïwn y bydd y fflam Gristnogol yn tanio cenedl y Cymry unwaith eto, er mwyn i bobl ddod i deimlo'r angen am Dduw yn eu bywydau, a gweld sut y gall goleuni’r Arglwydd Iesu Grist chwalu pryderon ac ofnau personol a chymdeithasol o bob math.”
