Crynodeb Pregethau:
Oedfa Bore Sul, 19eg Chwefror 2012
Ystyried y Lili … (Mathew – 24)
“... Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu.” (Mathew 6: 29b)
Ystyriwch y Lili … a thyfwch … Fe’n cymhellir drwy’r Testament Newydd i dyfu ac i ddatblygu: “Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.” (2 Pedr 3: 18); “… gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist.” (Effesiaid 4: 15). Rhaid annog ein gilydd i gymryd ein trwytho yng Nghrist. Crist yw’r Athro, Crist yw’r Wers a Christ yw’r Ysgol. Disgwylir i ni ddysgu Crist a thyfu ynddo, a thrwyddo. Nid digon i unrhyw eglwys leol fod yn gartref a chorlan, rhaid iddi hefyd fod yn ysgol a choleg. Ni ellir adeiladu ffydd ar anwybodaeth. Dysgu Crist yw’r dasg fwyaf diddorol, bywiog ac anturus a elwir arnom i’w chyflawni … mae bob amser yn rhyfedd a rhyfeddol o berthnasol.
Ystyriwch y Lili … a chwiliwch am y pethau prydferth ... “Ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain.” (Mathew 6: 28) Pa lili fu Iesu yn sôn amdani? Cred arbenigwyr mai’r anemoni coronog yw’r planhigyn arbennig y sonia Crist amdano - Anemone coronaria; yn dilyn glaw cynnar dechrau’r Gwanwyn blodeua’r anemoni yn borffor, pinc a glas. Yn gyffredinol, cyfeirio at flodau gwyllt, hardd a wna Iesu; boed i ninnau sylwi ar sut mae Duw yn gwasgaru prydferthwch ym mhob man ... fel blodau gwyllt: “Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.” (Philipiaid 4: 8). Y prydferthwch pwysicaf yw prydferthwch ein byw. Prydferthwch a lwyddodd i’w gasglu o’i amgylch oedd prydferthwch Solomon, ond ceir gogoniant a phrydferthwch arall, a gwahanol, ym mhrydferthwch y lili. Prydferthwch yr hyn oeddent oedd prydferthwch lili’r maes, nid yr hyn oedd ganddynt. Dyna’r prydferthwch dylid ei geisio - prydferthwch daioni, cariad, gofal a chonsyrn. Wrth edrych ar ein gilydd hawdd gweld y beiau. Ni ddaw neb yn lân drwy edrych ar frynti eraill! Wrth ddarllen a chlywed newyddion dyddiol cofiwn hefyd na ellir byth adrodd hanes cyfanwaith ffyddlondeb, gonestrwydd, caredigrwydd a hunanaberth pobl.
Ystyriwch y Lili … ac na phryderwch … Byddai rhai yn dadlau bod bywyd yn elyn i ddyn, ac mai dyletswydd dyn yw trefnu ei fywyd i’w amddiffyn rhagddo. Dysg Iesu bod bywyd yn ffrind i ni am fod llywodraeth Duw drosto. Tad yw Duw sy’n deall eisiau ei blant; Ef sydd yn ein cynnal. Meistr y canrifoedd yw Duw, nid oes iddo ddechrau dyddiau na diwedd blwyddyn. Eto, Hwn sydd o’n plaid, Hwn sydd yn ein cynnal a Hwn sydd yn ein hadnewyddu o ddydd i ddydd. Ni wyddom beth sydd o’n blaenau ar ddechrau wythnos newydd ond gwyddom beth bynnag a ddaw, ni phall ei gariad a’i ofal. “A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith” (Ioan 1: 14a). Cyhoedda Cristnogaeth bod Duw wedi gwneud mwy nag edrych arnom a theimlo piti drosom. Yn Iesu o Nasareth rhannodd Duw yn ein bywyd ni. Gŵyr Iesu, yn a thrwy brofiad personol, beth yw bod yn ni! Gŵyr beth yw blas ein bwyd, beth yw baich blinder a gofid, a beth a wyddom am boen a thor calon. Gŵyr hefyd am drallod. Neges ein ffydd yw bod Duw yng Nghrist yn rhannu ein bywyd ni.
Ystyriwch y Lili …
- a thyfwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist
>- a chwiliwch am y pethau prydferth. Nid yw daioni’n dda iawn am alw sylw ato’i hun, ond y mae’n bod - mae’n bod ym mhawb ac ym mhob man, a dylid ei geisio
- ac na phryderwch. Mae cariad Duw a’i ofal yn dynn amdanom am iddo ein gweld a’n deall, nid o’r tu allan, ond o’r tu mewn.
Oedfa Nos Sul, 19eg Chwefror 2012
Y Tabl Cyfnodol - 5
Yn 1869, cyhoeddodd Dmitri Ivanovich Mendeleyev (1834- 1907) y Tabl Cyfnodol; gorchest Cemeg yn y 19eg Ganrif! Creodd Mandeleyev dabl a oedd yn hyblyg ac ystwyth, ac a fyddai’n tyfu gyda phob darganfyddiad newydd. Erys y Tabl, hyd heddiw, yn allweddol i’n dealltwriaeth o’n hunain a’r byd o’n cwmpas. Estyn y Tabl hefyd gyfle i ni weld a dysgu rhywbeth am ein crefydd a’n ffydd.
Aur: Nid yw aur yn ddefnyddiol! Trwy gymharu ag arian, gwelwn y gwahaniaeth! Mae arian, fel aur, yn fetel deniadol, ond yn wahanol i aur mae arian hefyd yn ddefnyddiol. Perthyn i arian ddefnyddioldeb diwydiannol amlwg ac eang - mae’n hyblyg a hydrin, llifa trydan a gwres yn hwylus ar ei hyd ac adlewyrchir golau yn dda ganddo. Er ei ddefnyddioldeb, gwerthir arian yn 2012 am 57 ceiniog y gram; gwerthir aur am £12 y gram! Tebyg yw stori copr. Metel arall deniadol a hynod o ddefnyddiol. O’i gymharu ag arian a chopr, mae aur yn annefnyddiol … ond aur yw’r trysor. Cyfeiriwn at aur fel trysor, milwaith gwell na chopr, canwaith gwell nag arian. Rhyfedd o fyd!
Gyda’r dirwasgiad daeth galw cyson am aur. Beth yw diben arian parod? Mae’n gyfrwng cyfnewid ac yn fodd i brynu nwyddau. Gellir hefyd ymddiried arian i ofal fanc, neu ei fuddsoddi gan ddiogelu os nad ychwanegu at ei werth. Argraffwyd gormod o arian parod ar hyd y blynyddoedd ac o ganlyniad cloffodd y broses economaidd a chollodd arian ei werth. I osgoi'r fath drybini un peth sydd raid - defnyddio arian parod i brynu aur. Erys aur, ceidw ei werth! Gwnaethpwyd hyn ar hyd y canrifoedd oherwydd ystyriwyd aur yn drysor. Pryd bynnag y gwêl pobl werth ei harian mewn perygl, prynant aur - tra disgyn a darfu gwerth popeth arall, erys gwerth aur. Efallai nad yw aur o ddefnyddioldeb mawr - ond nid ‘worthless’ popeth ‘useless’!
Yr Eneinio ym Methania (Marc 14: 3 - 9). Yng nghanol galwadau ymarferol bywyd cyfoes, hawdd ildio i’r demtasiwn o ysgubo ymaith popeth sy’n dda i ddim! Mynnwyd gwastraffu’r blwch o ennaint drudfawr ar Iesu: “Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.” (Marc 14: 6b), meddai Iesu. Onid dyna’r Efengyl? Efallai bod y cariad a amlygwyd yn nhŷ Simon y Gwahanglwyfus, fel aur, yn annefnyddiol, ond ‘roedd yn drysor! Nid da bob amser mesur gwerth rhywbeth yn ôl ei ddefnyddioldeb.
“A gwelodd Duw fod hyn yn dda” (Genesis 1:12) Geiriau awdur Llyfr Genesis ar ddiwedd pob dydd! Gwyddom mai da yw Duw, da ei fwriad, ei ffordd a’i waith. Pam, felly, tynnu’n sylw at y ffaith mai da yw Duw? Oni wyddom hyn eisoes? Ai sôn am ansawdd gwaith y Creawdwr a wna awdur Genesis, neu, yn hytrach, bwriad gwaith Duw? Onid sôn am ddiben anhygoel y Creu a wna’r geiriau? Crëwyd y cyfan gan Dduw da yn adlewyrchiad o’i ddaioni. Fe’n crëwyd ninnau ar lun a delw Duw da i wneuthur daioni. Diben byw yw gwneuthur daioni - i ledu cariad, a thaenu gobaith, a hybu ffydd - i hyn y’n crëwyd bob un. Mae perygl anghofio hyn, oherwydd bod diwylliant o’n cwmpas yn mynnu bod gwneud yn dda yn bwysicach na bod yn dda. Pan ddigwydd hyn diberfeddir bwriad gwreiddiol Duw a thry bywyd yn ddim mwy nag ennill bywoliaeth dda. Nid digon gwneud yn dda, rhaid hefyd bod yn dda.
Jacob yn yr Aifft (Genesis 47: 27-21). Cawn hanes Jacob yn ymbil ar Joseff i gladdu ei gorff yn Israel - “Yna ymgrymodd Israel a’i bwys ar ei ffon” (Genesis 47: 31). Pam ymgrymu o flaen Joseff? Ai, yn hytrach, ymgrymu mewn gweddi a wnaeth Jacob? Ymgrymu mewn gweddi o ddiolchgarwch bod Joseff yn ddyn da? Ai diolch a wnaeth Jacob nid yn gymaint am fod Joseff wedi gwneud yn dda, ond am fod Joseff yn dda, yn garedig, yn gyfiawn a gonest.
Llinyn mesur ein byw yw’r da a wnawn nid y da sydd inni. Os medrwn ddysgu ein plant, y plant a ymddiriedwyd i’n gofal, a phlant ein plant, bod gwneud yn dda mewn bywyd fel arian yn drysor werth ei gael, a bod ennill bywoliaeth dda, fel copr, hefyd yn drysor, ond mae’r pennaf drysor yw aur – bod yn dda, efallai byddwn ninnau, fel Jacob, yn medru diolch i Dduw bod ein plant yn garedig, yn gyfiawn a gonest, a gwybod na fu ein byw yn ofer.
Crynodeb Pregethau - 12 Chwefror 2012
Crynodeb Pregethau - 5 Chwefror 2012
Crynodeb Pregethau - 15 Ionawr 2012
Crynodeb Pregethau - 8 Ionawr 2012
