Pobl Ifanc Minny Street (PIMS)
Gan, a gyda, Pobl Ifanc Minny Street mae’r eglwys yn dysgu mai pennaf gymwynas yr eglwys leol â’r ifanc yw cynnig - yn yr Efengyl - cydymdeimlad.
Aeth cydymdeimlad â’r ifanc yn beth prin i’w rhyfeddu. Fe’i ceir ar dro mewn mannau annisgwyl, ac y mae’n absennol mewn personau a sefyllfaoedd lle disgwylid ei gael. Gwaith eglwys yw cydymdeimlo â phobl ifanc gan gynnig iddynt lle diogel i fod yn hwy eu hunain, heb orfod bod yn ddim byd arall.
Golyga hynny sicrhau fod ganddynt gyfle ac awyrgylch diogel i fynegi barn a gofid, ffydd ac amheuaeth. Gall gwybod y cwbl olygu maddau’r cwbl, meddai un hen ddihareb. Dengys yr ifanc, fel pawb am wn i, ddiddordeb mewn pobl sydd â diddordeb ynddynt. Dyma, yng Nghrist ein bwriad yn a thrwy PIMS.
Beth fu PIMS yn ei wneud Ionawr – Ebrill 2011?
Yr Offeiriad a'r Lefiad yn gwrthod plygu; y Samariad yn plygu i helpu'r truan yn gorwedd ar y llawr a rhoi dau ddarn arian i'r gwestiwr Yn ystod y pedwar mis diwethaf bu PIMS yn trafod nifer o faterion yn ymwneud â’r Ffydd Gristnogol. Cawsom sesiynau ar y Samariad Trugarog a hefyd ar ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr. Cafwyd trafodaeth ‘seriws’ iawn i gychwyn 2011 ar: “Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:” (Pregethwr 3:1-8). Fel Pobl Ifanc Minny Street sut dylid treulio, defnyddio a gwneud y gorau o amser? Dyna fu’r cwestiwn dyrys - cafwyd ymatebion athrylithgar, profoclyd ac ambell un doniol! Trafodaeth arall a ysgogodd ddadlau mawr oedd ceisio ateb y
cwestiwn: Beth sy’n cadw Tân Ffydd i fflamio? Pan fydd tân yn mudlosgi rhaid ei brocio i sicrhau bod digon o aer yn symud trwyddo; rhaid hefyd clirio’r lludw - glo a oedd unwaith yn danwydd effeithiol ond bellach heb ddefnydd iddo - ‘wedi chwythu’i blwc’! Felly hefyd ein ffydd; da ambell brociad i’n dihuno a rhaid wrth glirio rhai pethau nad sydd o wir bwys i’n dealltwriaeth a’n hadnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu. Beth yw Hanfodion y Ffydd Gristnogol? Buom yn trafod mor hanfodol yw byw a gweithio gyda Duw, yn union, fel gefail yn codi darn o lo - y naill fraich yn dibynnu ar y llall.
Digwyddiad ‘mawr’ y pedwar mis oedd Oedfa Derbyn Enlli, Manon a Sioned. Fel rhan o’r paratoi bu PIMS yn holi beth yw bod yn aelod cyflawn o Eglwys Iesu Grist? Mynd ati i adeiladu tepee wnaethom! Mae gan y tepee chwe pholyn i sicrhau fframwaith soled: wrth ddod a bod yn gyflawn aelod (i) dewiswn fod yn ufudd (2 Ioan 6) i Iesu yn ein bywyd bob dydd, ac i ddysgu o’n gilydd o fewn yr eglwys; (ii) dewiswn
barchu (Effesiaid 6: 2-3) barn, gwerth a hunaniaeth eraill, a chawn ninnau ein parchu am beth ydym; (iii) cawn brofi o lawenydd (Mathew 5: 9) cyfeillgarwch cwmni a chymdeithas Pobl Dduw yn Eglwys Minny Street; (iv) diolchwn (Philipiaid 4:6) am Ofal Duw ac am Gariad Iesu Grist; (v) dewiswn rannu (Luc 3: 11) ein cyfoeth ariannol a chyfoeth ein profiad, dawn a dysg er mwyn Achos Iesu; a (vi) dewiswn Gariad (1 Ioan 4: 20-21) Duw fel ffordd i fyw. Rhaid clymu’r polion at ei gilydd gyda chortyn perthynas (Salm 68: 6); wrth ddod a bod yn gyflawn aelod down yn aelod o Deulu’r Eglwys yn lleol a byd-eang. Rhaid hefyd wrth orchudd; wrth ddod a bod yn gyflawn aelod cawn dderbyn o ofal a chynhaliaeth Duw (Salm 91: 2) beth bynnag ddaw mewn bywyd. ‘Roedd hon yn noson gofiadwy iawn.
Fel rhan o’n rhaglen o gyfarfodydd cawsom gyfle i ymuno mewn Oedfa Gŵyl Ddewi wedi ei threfnu gan Gymdeithas Ddiwylliannol Minny Street. Dau ddigwyddiad arall a wnaeth argraff fawr arnom oedd ymweliad Mari McNeill, gwirfoddol-wraig o Gymorth Cristnogol, â ni i sôn am ei phrofiadau o dreulio pythefnos yn ne-ddwyrain Asia, yng Nghambodia (neu Kampuchea fel ei gelwid ar un adeg), ac ymweliad a Siopa Teg yn Nhreganna, Caerdydd. Dyma atgofion Caradog Huws o’r noson y bu i Mari ymweld â ni:
“Chwaraeodd gem ar y dechrau a nes i hoffi’r gêm oherwydd ‘roedd yn dangos pa mor wael yw cyflog pobl mewn gwledydd Trydydd Byd a pa mor annheg yw masnach. Siaradodd am wlad fach ar bwys Fietnam o’r enw
Cambodia a dangosodd i ni pa fath o wlad yw hi. Mae’n wlad dlawd iawn ac mewn rhai o’r pentrefi mae yna ffrwydradau tir o gwmpas y lle sydd yn gwneud e’n wlad beryglus iawn i fyw. Ar ôl gwrando ar Mari rydw i wedi dechrau helpu gydag elusennau eraill i helpu gwella pethau fel cancr, malaria ac i helpu pobl rhai ffodus. Roeddwn wedi talu sylw ar y ffeithiau yn ystod y noson fel faint o arian mae pobl yn cael eu talu yn Cambodia a beth oedd y peryglon o fyw yna. Mae’r bobl yn cael bywyd caled yna a llawer o blant ddim yn gallu mynd i’r ysgol oherwydd eu bod yn gorfod gweithio. Nid yw’r brif ddinas yn fawr iawn a gallwch gael llawer o bethau y byddwch yn gallu ffeindio yng Nghaerdydd fel bwyd cyflym, Sony a Nike ond mae’r tlodi yn llawer gwaeth na beth sydd gyda ni. Roeddwn hefyd wedi hoffi dysgu am sut mae pobl yn Cambodia yn addoli, am Bwda ac am y temlau. Dwi’n reli hoffi gweld y llefydd mae nhw’n addoli.
Atgofion tebyg oedd gan Gruff, ei frawd:
“Roedd dysgu am hanes Mari yn ddiddorol iawn oherwydd roedd hi wedi gweld llawer o brojectau a gwaith yr elusen yn Cambodia. Mae Cambodia yn wlad bell iawn o Gymru - yn agos iawn i Wlad Thai a Fietnam ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd roedd rhyfel arall yno a chafodd miloedd o bobol eu lladd. Mae yn wlad sydd yn ail-adeiladu ei hun ar ôl y gwrthryfel ond mae dal yn wlad dlawd.
‘Roedd rhai o brojectau Cymorth Cristnogol yn ymwneud a helpu pobol ifanc fel ni yn PIMS i wella eu bywydau. Mae’r gwaith yn ceisio cael plant oddi ar y strydoedd a chael addysg dda iddynt a rhoi cymorth i’r teuluoedd fel bod plant ddim yn gorfod gweithio. Er enghraifft un project yw i gael pobl fwy cefnog i helpu edrych ar ôl babanod tra bod rhieni tlotach yn gallu mynd allan i weithio.
Cafodd Mari gyfle i fynd i ardaloedd gwledig i weld sut roedd bywyd y wlad yn wahanol i fywyd mewn dinas. Roedd rhai pentrefi anghysbell hyd heddiw gyda sgil effeithiau'r gwrthryfeloedd gyda ffrwydradau tir heb gael eu clirio yn creu perygl. Mae’r plant yn chwarae allan yn y caeau ac fe fydd yna arwyddion am beryglon y ffrwydron o’u cwmpas. Mae nifer o blant ac oedolion wedi cael eu lladd neu gael niwed mawr gan y ffrwydron yma ond mae hyn yn rhan o fywyd bob dydd yn yr ardaloedd yma. Yn Cambodia mae plant yn cael eu gorfodi i weithio’n galed am oriau hir ar gyflog isel ac o dan amodau gwael ond mae Cymorth Cristnogol yn helpu i wella'r sefyllfaoedd yma ac yn gweithio gydag elusennau eraill i gael addysg i’r plant a hybu Masnach Deg. Mae Cambodia yn wlad dlawd ac angen ein help i’w gwneud yn wlad well. Mae angen arian a buddsoddiad i’w helpu i adeiladu tai, ysbytai ac ysgolion. Fel dywedodd Mari: “mae popeth bach rydych yn gwneud yn gallu gwneud yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.”
Atchar, dom eliffant, cnau tagua a chyrn byfflo. Beth sydd a rhain i’w wneud â PIMS a hyfforddi’n Pobl Ifanc ar gyfer aelodaeth o Eglwys Crist? Mae’r ateb yn syml - dysgu bod yn ddinasyddion teilwng o’n Harglwydd. Bu rhyw ddwsin o aelodau PIMS yn ymweld â Siop Masnach Deg yn Nhreganna. Yno, daethpwyd ar draws ystod eang, a rhyfedd, o nwyddau wedi eu creu o bob math o ddeunydd ac adnodd (gan gynnwys atchar, dom eliffant, cnau tagua a chyrn byfflo!). Dyma adroddiad Lleucu Parri o’r noson:
“Un nos Lun aeth PIMS i’r siop Fasnach Deg ar Heol Llandaf yn Nhreganna. Yn gyntaf cawsom hanes a nodau Masnach Deg a hefyd llawer o ffeithiau diddorol a oedd yn gwneud i ni sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni a beth
allwn ni ei wneud i helpu eraill. Wedi hyn fe wnaethom rannu’n barau i gymryd rhan mewn cwis. Roedd yr holl atebion i’w cael yn rhywle yn y siop ac felly cawsom gyfle i fynd rownd y siop a gweld yr holl nwyddau gwahanol oedd yno. Roedd yna deganau plant, offerynnau cerdd, dillad, degau o wahanol fathau o goffi a jam. Roedd rhai pethau wedi eu gwneud o gyrn byfflo a hyd yn oed dom eliffant (dim y jamiau!!) Cai ac Owain enillodd y cwis a gan ein bod ni gyd yn ffrindiau yn PIMS fe wnaethon nhw rannu eu gwobr gyda ni gyd. Cefais fy synnu gyda’r amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg oedd yn cael eu gwerthu yn y siop. Mae rhywbeth yno ar gyfer pawb - pethau bob dydd fel bwydydd a hefyd anrhegion hyfryd. Fe es i yn ôl yno ar y dydd Sadwrn canlynol i brynu anrheg pen-blwydd i fy ffrind. Ar ôl gorffen yn y siop aethom ar draws y ffordd am fwyd i Chapter. Diolch yn fawr iawn i Dianne Bartholomew am drefnu.”
Gyda’r Haf yna agosáu bydd gweithgarwch PIMS ychydig yn dawelach dros yr wythnosau nesaf - ond tebyg iawn na fydd i Owain Llyr adael i ni segura!
Erthygl o'r Tyst: Gwers y Tepee
Beth fu PIMS yn ei wneud Medi – Rhagfyr 2010?
Llythyr oddi wrth y Gweinidog bu sail trafodaethau PIMS dros y misoedd diwethaf. Cyn pob cyfarfod mae’r Gweinidog yn anfon llythyr yn y post i Aelodau PIMS gan ofyn iddynt ddarllen ac ystyried y cynnwys a’r cwestiynau cyn cyrraedd y Festri. Ers Mis Medi mae PIMS wedi bod yn trafod beth yw, a beth sy’n dylanwadu a phenderfynu Cymeriad, dehongli'r berthynas rhwng y math o Lyfrau y darllenwn â’n personoliaeth, ynghyd â rôl y Beibl yn cyfeirio pwy yn union ydym … y cyfan yn cyfrannu i hyfforddiant a pharatoad ein pobl ifanc ar gyfer cyflawn aelodaeth o’r eglwys. Mae’r trafod yn elfen bwysig yn PIMS: “cyfle i glywed barn pobl eraill ac wedyn sylwi ‘pwynt da’!” (Lleucu Parri); “dysgu bod pawb â lle, a dylem fod â meddwl agored” (Sioned Press a Cai Wilshaw); “rwy’ wedi gorfod meddwl mewn ffordd newydd a mwy eang” (Heledd Wilshaw).
Beth felly sy’n dylanwadu a phenderfynu cymeriad? – “sut mae pobl eraill yn meddwl amdanoch” (Heledd); “sylweddoli pwysigrwydd datblygu cymeriad da ac adnabod cymeriad da!” (Daniel Edwards); “gwnaeth heno i mi feddwl am bobl mewn ffordd newydd” (Ffion Roblin); “dysgu wrth drafod bod pawb yn ffitio i mewn!” (Sioned a Cai); “angen meddwl mwy am gymeriad Iesu” (Gruff Huws).
Pa mor bwysig yw llyfrau? Pa mor bwysig yw’r Beibl? - “er mod i’n ‘joio’ darllen y Beibl yn PIMS a’r Ysgol Sul byth wedi codi’r Beibl a’i ddarllen o glawr i glawr” (Heledd); “’rwy wedi dysgu yn PIMS pwysigrwydd ystod eang o ddarllen a gweld dwy ochr pob dadl” (Daniel); “angen i Gristnogion ddarllen mwy o lyfrau gan wyddonwyr” (Gruff); “dylem ddarllen y Quran hefyd” (Sioned a Cai).
‘Xmas’ neu ‘Christmas’? - “ma’ Xmas yn amharchus - tynnu Iesu mas o’r Nadolig” (Caradog Huws); “’rown i heb feddwl am hynna - ydy Xmas yn torri Iesu allan? - mmmm!” (Lleucu); “ydy, ma’ Xmas yn gadael allan y rhan ‘Christ’ ac yn anghofio Iesu - ond wyddwn i ddim tan heno bod X yn symbol o Iesu - efallai nad yw e wedi’r cwbl!” (Enlli Parri); “mae 'na lot o wahaniaeth rhwng Nadolig y cyfryngau a Nadolig iawn” (Daniel); “sut mae’r genhedlaeth nesaf i wybod am Iesu os nad yw ei enw i weld yn unlle?” (Ffion).
Yng nghanol yr holl drafodaethau dyrys hyn rhaid wrth gwrs cael ambell sesiwn o ymlacio, mwynhau a chymdeithasu. Mae agwedd gymdeithasol PIMS yn hollbwysig wrth feithrin yr ymdeimlad o Gymuned Gristnogol ymhlith Cristnogion Ifanc Eglwys Minny Street. Bob blwyddyn bydd PIMS yn treulio Penwythnos yng Ngholeg yr Iwerydd - Manon Browning sydd â’r adroddiad: “Dyma’r trydydd tro i mi fynd i’r Coleg, ond cawson ni’r un hwyl ag arfer! Cyrhaeddais i yn hwyr nos Wener, a cholli’r cyfle i gymryd rhan yng ngweithgaredd y noson gyntaf, ond o’r hyn glywais i, cawson nhw lawer o hwyl ar y cwrs rhaffau! Arhosodd
pawb i fyny tan oriau mân y bore (sori Owain!) cyn llwyddo cael ychydig oriau o gwsg. Yn anffodus, roedd Dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur iawn! Yn y bore, cawsom sesiwn ddifyr o ganŵio, a chafodd pawb hwyl yn chwarae’r gemau! Ar ôl cinio, aethon ni lawr i Merthyr Mawr i wneud ychydig o ‘sand sledging’, ac yn y nos, cawson ni reid ar y ‘zipwire’ a gwneud gweithgareddau yn y pwll nofio. Os cymysgwch chi lond bol o chwerthin, grŵp mawr o bobl ifanc bywiog, gemau traddodiadol gyda’r hwyr, dim llawer o gwsg yr hyn a gewch yw penwythnos gwych gyda PIMS yng Ngholeg yr Iwerydd! Diolch i Owain a Lona am ofalu amdanom dros y penwythnos, ac am drefnu trip arall bythgofiadwy!”
Noson arall bwysig yng Nghalendr Cymdeithasol PIMS yw Noson Tân Gwyllt. Yng nghartref y Gweinidog y cynhelir hwn a mawr yr edrych ymlaen ... fel y tystia adroddiad Heledd o’r noson: “Mae noson tân gwyllt PIMS yn llawer o hwyl - er ei bod ychydig yn hwyrach nag arfer eleni! Ar ôl cyrraedd tŷ Owain a Lona ‘roedd pawb yn gyffrous, yn siarad fel pwll y môr a chwerthin ar glecs y dyddiau cynt. Y peth cyntaf wnaethon ni oedd stwffio ein hunain gyda bwyd blasus y ’chef’. Yna daeth yr amser yr oedd pawb wedi bod yn aros amdano … yr arddangosfa tân gwyllt! Aeth pawb allan i’r ardd i wylio dwy olwyn ‘Catrin’ yn troelli yn berffaith (dim
hedfan i ffwrdd fel llynedd). Er ein bod ni gyd yn Ysgol Gyfun erbyn hyn, ’dydyn ni byth yn rhy hen i gael sbarclers, a dyna gawson ni! I orffen y noson cawsom baned o siocled poeth gyda hufen chwip a ‘marshmallows’! Roedd hi’n hynod o oer tu allan, ac ‘roedden ni’n haeddu paned! ‘Roedd Connor yn mwynhau rhedeg fel dyn gwyllt trwyddom ni gyd a Shani gyda ni’r merched ... ac Owain a Lona yn dawnsio i ganeuon yr 80au!! Alla’i ddim aros tan y flwyddyn nesaf!"
