WEDI 7
Cyfarfod misol o drafod a chymdeithasu i fyfyrwyr.
Y mae Eglwys Minny Street ar ei deng ewin yn gofalu am ein pobl ifanc ac amcenir perffeithio pob moddion i’w hyfforddi a’u hymgeleddu.
Mawr yw ein cyfrifoldeb, yn arbennig mewn lle fel Caerdydd.
Mae cyfarfodydd Wedi 7 yn perthyn i’n hymgais i ddiogelu’r ifanc a gwneud Minny Street yn gartref ysbrydol iddynt; cynnig Wedi 7 gyfle i ymalcio a chymdeithasu wrth drafod a datblygu ymwybyddiaeth o'r Ffydd.
Wedi 7 2010-2011
Daeth tymor Wedi 7 i ben am eleni. Braf yw edrych nôl ar weithgarwch y flwyddyn. Byddwn yn ail-gychwyn ym Mis Hydref 2011.
"Byddwn ni'n dau'n edrych ymlaen yn arw at ddydd Sul cynta'r mis! Mae 'Wedi 7' yn gyfle unigryw i drin a
thrafod, rhannu barn a phrofiad, ac i anghytuno'n gyfeillgar(!) ar aelwyd groesawgar Owain a Lona. Mae'r trafodaethau ar themau ac egwyddorion Cristnogol neu rannau penodol o'r Beibl ymysg ffrindiau wedi bod mor fendithiol, ac wedi ehangu'n syniadau a'n safbwyntiau wrth geisio 'nabod Iesu Grist ac hefyd ni'n hunain. Dan arweiniad hwyliog ac addfwyn Owain a Hefin cawsom nosweithiau gwerth chweil dros y flwyddyn diwethaf, a llond bol o fwyd blasus hefyd! Mae cwmniaeth 'Wedi 7' yn ysbrydoliaeth ar ddechrau'r mis i ystyried a gwerthfawrogi'n bywydau, i ddal ati a gwneud ein gorau a pharhau i wenu. Diolch o galon i'r criw i gyd."
Siwan a Rhodri
"Tân, geometreg, a hyd yn oed pechod; do, bu’r pynciau trafod eleni yn Wedi 7 yn rhai digon amrywiol a distadl, o’u rhestru fel yna. Ond dan arweiniad deallus ein Gweinidog, a rhywfaint o help ond mwy o dynnu coes gan Dr. Hefin Jones, fe lwyddon ni fel criw i gael trafodaethau rhyfeddol o ddadlennol a gwerthfawr am y Beibl ac am brofiad y Cristion o fewn yr eglwys leol ac yn y byd.
Ar nos Sul cynta’r mis caem ein croesawu’n gynnes gan Lona, Shani a Connor, cyn cael ein cyflwyno mewn modd syml a dyfeisgar i agweddau penodol ar y Gair neu ar ein ffydd. Y llinell, y sgwâr, a’r ciwb, un noson, oedd ein bywyd materol, ein bywyd ymenyddol a’n bywyd ysbrydol. Dro arall, profodd y gweinidog i ni heb amheuaeth ei fod wedi derbyn addysg ddiwinyddol, drwy egluro ystyron y gwahanol eiriau Groeg am bechod wrthym - mae’n fwy diddorol nag y mae’n swnio!
Y drafodaeth sy’n aros efo mi yw’r un a gafwyd am yr aelwyd, a sut y gall y Beibl, a thrwy hynny sut y gall Duw a Iesu fod inni’n fflam, ond yn fwy na hynny hefyd yn fegin i gynnal y fflam honno, ac yn gyfarpar i glirio ymaith y llwch nad oes mo’i angen arnom bellach, er mwyn gallu cadw’r fflam honno’n llosgi’n gryf a glân. Beth a’m trawodd y tro hwnnw oedd, nid yn unig ein bod yn cael ein cyflwyno i rannau lled ddieithr (i rai ohonom beth bynnag!) o’r Beibl mewn modd syml ac effeithiol, ond bod cymaint o hwyl ar y drafodaeth nes nad oedd hyd yn oed mawredd ymenyddol Hefin yn ddigon i rwystro pawb rhag teimlo’n hyderus i gyfrannu ac i drafod.
Oni bai fod arogl y bwyd o’r gegin yno’n flasus i’n temtio, peryg mai yno fyddem ni o hyd. Ond i mi, er y trafod diddorol a chalonogol, dyma’r peth gorau o fod yn rhan o griw Wedi 7. Cael eistedd o amgylch y bwrdd, cael ein croesawu mor gynnes i’w cartref gan Owain a Lona, a chael bwyta llond ein boliau yng nghwmni’n gilydd - gallu teimlo’n gartrefol ac yn rhan o gymdeithas o rai o’r un fryd yma’n y ddinas. Y gwmnïaeth honno fydd yn aros yn anad dim, rwy’n siŵr, yn y cof.
Un sesiwn arall a gawson ni oedd pan soniwyd am y gân ‘I was there’ gan Max Boyce, a dychmygu lleoedd yr hoffem ni fod wedi gallu dweud ein bod wedi bod yno ar adeg arbennig. Nid profiad hawdd yw bod yn Gristion ifanc yng Nghaerdydd heddiw, ac fel pawb arall alla i ddim llwyddo yn hynny bob amser. Nid â chalon ysgafn, felly, y cychwynnais i, bob tro, am yr oedfa ac am Wedi 7 ar ôl hynny. Ond yn ddi-ffael mi ddown oddi yno wedi diosg pryderon ac â’m henaid a’m calon yn gymaint ysgafnach. Am hynny, felly, y mae hi wedi bod yn bleser gallu dweud am y cyfarfodydd hyn: ‘I was there’!"
Llŷr