Myfyrdod y Mis

Myfyrdodau Byrion ar Ferched yr Hen Destament: Hanna a Mam Ichabod 

 

Hanna

(1 Samuel 2: 1-10)

Hannah presenting her son Samuel to the Prophet Eli gan Gerbrand van der Eeckhout (1621-1674)Gwelsom y peth o’r blaen ... diflastod rhwng Sarai ac Hagar. Y tro hwn Peninna, ail wraig Elcana’r Effraimiad, sydd byth a hefyd yn gwawdio Hanna, a oedd heb blant. Eto, daeth dydd pan anwyd mab i Hanna. Chwerthin gwnaeth Sara (Sarai) (Genesis 18:12), canu mae Hanna, nerth ei llais - cân o orfoledd, a diolchgarwch, bwrlwm o fawl. Hanna’n canmol Duw am ei drugaredd; Duw sy’n troi’r byd â’i ben i waered; Duw'r chwyldroadau mawr.

Pa ots ai Hanna ei hun a gyfansoddodd y geiriau, neu rywun arall ymhen blynyddoedd a osododd y geiriau yn ei genau? Y mae’r gwirionedd sydd yn y gân yn aros drwy’r oesau, hyd ein dydd ni:

Y mae’n codi’r gwan o’r llwch
ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
i’w osod i eistedd gyda phendefigion
ac i etifeddu cadair anrhydedd;
canys eiddo’r Arglwydd golofnau’r ddaear,
ac ef a osododd y byd arnynt ... (1 Samuel 2: 8).
 

Do, gwrandawyd ei chwyn, atebwyd ei gweddi a chyflawnodd hithau ei haddewid. A Samuel yn ddigon hen i fwydo a gwisgo’i hun, aeth Hanna â’r un bach i Seilo at Eli a’i fenthyg i Dduw. Arferai Hanna o flwyddyn i flwyddyn fynd i weld Samuel. Byddai’n mynd â chot hardd newydd iddo bob tro, bob un fymryn yn fwy na’r olaf. Ychydig a wyddom amdani ar ôl hyn, dim byd mwy nag iddi ddychwelyd gydag Elcana, ei gwr, i’w chartref a bod iddynt dri o feibion a dwy o ferched.

Moes i mi, ein Tad, ysbryd iach a chymhelliad pur wrth dy wasanaethu di ar bob adeg. Amen.

 

Mam Ichabod

(1 Samuel 4: 19-22; 6: 1; 7: 12)

Death of Eli gan Matthaus Merian the Elder (1593 - 1656) ‘Roedd y Philistiaid wedi goresgyn Israel ac, os nad oedd hynny’n ddigon,  wedi dwyn Arch Duw, Arch y Cyfamod. Yn arwynebol nid oedd yr Arch yn ddim byd mwy na chist ychydig yn llai na bwrdd cymundeb capel, ynddo oedd ffon Aaron, dysgl o fanna a dwy lech y Deg Gorchymyn. ‘Roedd yr Arch yn arwydd o gariad a thrugaredd Duw tuag at ei bobl, ac o lwyr ddibyniaeth y bobl ar Dduw; yn syml, ‘roedd yr Arch yn arwydd o bresenoldeb Duw gyda’i bobl. Pan syrthiodd yr Arch i ddwylo’r gelyn, credai’r Iddewon fod y berthynas rhyngddynt â Duw wedi ei dorri - pobl oeddent heb Dduw. Felly, pan aned yr un bach hwn ‘roedd Arch y Cyfamod mewn dwylo estron, y bobl heb Dduw a heb obaith yn y byd, ei daid Eli a’i dad Phinees yn gelain, poen geni wedi profi’n ormod i’w fam ... pa ryfedd iddi, gyda’i hanadl olaf, rhoddodd i’r bychan yr enw Ichabod - “Ciliodd y gogoniant o Israel(1 Samuel 4: 21).

Ymhob twll a chornel o fyd a bywyd mae yna helynt - rhyfel, artaith, newyn, tlodi a gormes, cyffuriau, gofid, unigrwydd a galar. Mae’r capeli’n wag neu wagio, nid yw pethau'r un fath ag yr oeddent, mae’n dywyll, dywyll - ciliodd y gogoniant a fu! ‘Doedd dim angen i’r Hen Genedl ddiflasu a digalonni gymaint. Nid am yn hir bu Arch Duw gyda’r gelyn. Achosodd gymaint o ofid iddynt, ‘roeddent yn falch o gael gwared ohoni! Wrth edrych yn ôl i’r gorffennol a sylweddoli maint a dyfnder gofal Duw, yn arwain ei bobl; trwy bob cyfnod anodd a thywyll i oleuni a gogoniant newydd, cododd Samuel faen coffa, Ebeneser: “Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd ni(1 Samuel 7: 12). Meddyliwch am y peth - nid yw’r sefyllfa yn dywyll i gyd! Nid yw’r un sefyllfa yn dywyll i gyd!

Arglwydd, diolch mai bob-yn-damaid y mynegaist ti dy feddwl a’th fwriad i bobl erioed. Amen

 

Myfyrdod y Mis - Ionawr 2012: Ruth a Naomi

Myfyrdod y Mis - Rhagfyr 2011: Seffora a Miriam

Myfyrdod y Mis - Tachwedd 2011: Siffra a Pua

Myfyrdod y Mis - Hydref 2011: Rebeca, Lea a Rachel

Myfyrdod y Mis - Medi 2011: Sarai (Sara) a Hagar

Myfyrdod y Mis - Awst 2011: Efa

Myfyrdod y Mis - Gorffennaf 2011

Myfyrdod y Mis - Mehefin 2011

Myfyrdod y Mis - Mai 2011

Myfyrdod y Mis - Ebrill 2011

Myfyrdod y Mis - Mawrth 2011

Myfyrdod y Mis - Chwefror 2011

Myfyrdod y Mis - Ionawr 2011

Myfyrdod y Mis - Rhagfyr 2010

Myfyrdod y Mis - Tachwedd 2010