EGLWYS ANNIBYNNOL MINNY STREET
Oedfa Nos Sul, 31ain Mai 2009
“y peth gwerthfawr” (2 Timotheus 1: 14)
2 Timotheus. Hawdd iawn gwibio heibio! Llythyr byr - pedair pennod, 83 adnod, dwy dudalen a hanner! ’Roedd Paul yn garcharor pan ysgrifennodd y llythyr; cefnodd ei gyfeillion arno a gwyddai bod yr Ymerawdwr am ei waed. Cyn marw, mae gan Paul rhywbeth o allweddol bwys i’w gyflawni. Mae am gyflwyno i Timotheus, “ei blentyn annwyl” (2 Tim 1:2) “y peth gwerthfawr” a ymddiriedwyd iddo gan Dduw. Nid oedd Timotheus yn fab gwaed i Paul; yn hytrach, plentyn bedydd, ei fab trwy ffydd. ‘Roedd Paul yn adnabod teulu Timotheus yn dda: ei fam-gu Lois, a’i fam Eunice. Ni wyddom fawr iawn am ei dad heblaw mai Groegwr oedd. Efallai iddo farw yn ifanc; llais Paul, efallai, oedd yr unig lais gwrywaidd a glywodd Timotheus yn ei gyfarch fel “ei blentyn annwyl”. Bu Timotheus yn teithio llawer gyda Paul a gwyddom pa mor allweddol bwysig bu o Paul: “nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef”. (2 Tim 2:20) Gwyddai Timotheus mai ef oedd cannwyll llygad Paul; ‘roedd yr henwr, yn ei dro, yn gadernid i Timotheus: yn fentor, yn gynhaliaeth, yn amddiffyn, yn gyfaill ac yn dad. ‘Roedd gwres y tân a losgai yn Paul yn wawl o gwmpas Timotheus. Bu’r llythyr hwn oddi wrth Paul yn ysgytwad iddo; cyfeiriadau at ddiwedd oes, cael pethau i drefn, cau pen y mwdwl, am redeg yr yrfa i’r pen - beddargraff o lythyr.
“I’r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi’n bregethwr, yn apostol ac yn athro. Dyma’r rheswm,… fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd … mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac ‘rwy’n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw’n ddiogel …yr hyn a ymddiriedodd i’n gofal. Cymer … y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw y ffydd a ‘r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Cadw’n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glan sy’n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’th ofal” (2 Tim 1: 11-14).
“y peth gwerthfawr”: beth oedd ymateb Timotheus? Siom, ofn, gofid, ysu am fynd at Paul ac estyn cymorth iddo: “yr wyt ti wedi dilyn yn ofalus fy athrawiaeth i a’m ffordd o fyw ….” (2 Tim 3: 10)
“glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt” (2 Tim 3:14)
“pregetha’r Gair… argyhoedda; cerydda; calonoga; … ag amynedd di-ball” (2 Tim 4:2)
“goddef galedi; … cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth” (2 Tim 4:5).
Sut oedd disgwyl i Timotheus gyflawni’r holl ddisgwyliadau hyn? Nid apostol mohono! ‘Roedd Timotheus yn cynnal y tân, ond nid oedd tân ynddo fel ag yr oedd yn Paul! Pa ryfedd i Timotheus ymdeimlo na fyddai’n bosibl iddo barhau’r gwaith yr oedd Paul yn dymuno ymddiried iddo.
Dathlu 125 mlynedd yn Eglwys Minny Street: gwyddom sut y teimlai Timotheus! Wrth bori trwy drugareddau'r blynyddoedd daethom yn ymwybodol o werth a phwysau'r hyn a ymddiriedwyd i ninnau. Ers 125 mlynedd trosglwyddwyd ffydd, gobaith a chariad, gan ymddiried yn y genhedlaeth nesaf i gadw’n ddiogel “y peth gwerthfawr”. Gwyddom wir faint a dyfnder yr ymddiriedaeth honno: “Cadw’n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glan sy’n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’th ofal”. Ceisiodd Paul yn ei lythyr gyflwyno i Timotheus yr hyn a fu’n gysur iddo, yn gymorth i fyw a chredu, yn gynhaliaeth trwy hindda a drycin, gan obeithio y byddai Timotheus yn gwybod beth i’w wneud a’r peth gwerthfawr hwnnw - ei gynnal, ei gadw, a’i drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
Tradition is not the worship of ashes but the preservation of fire (Gustav Mahler 1860-1911). Onid dyma’r gwirionedd am fywyd? Onid ein gwaith yw peidio plygu glin i’r lludw ond cynnal y tân! O dderbyn gofal am dân rhaid ei gynnal, ei gadw a’i fegino’n gyson. Hanfod diogelu’r “peth gwerthfawr” a ymddiriedwyd i ni yw ailgynnau heddiw y tân o ludw ddoe.
Nid bwrw trem yn ôl yw unig ddiben dathlu.
Hanfod pob dathliad eglwysig yw ysbrydoli’r eglwys i gynnal y tân.
Estyn dathlu 125 mlynedd o dystiolaeth Gristnogol yn Y Waun Ddyfal gyfle i ninnau gynnig ein hunain fel Timotheus i’r gwaith o ddiogelu “y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’n gofal”.
Her y dathlu: parhau a dyfalbarhau i gadw i’r oesoedd a ddel y fendith a fu.