Munud i Feddwl
"But even after two centuries of technological and social revolution, there are still shadows of Dickens's world in our own … Every young person should have read at least one Dickens novel …” (Nick Gibb, Gweinidog Ysgolion Llywodraeth San Steffan 6 Chwefror 2012, Noswyl Dathliad Daucanmlwyddiant Charles Dickens (1812 - 1870)). Yng Nghymru, tebyg mai T Rowland Hughes (1903-1949) a’i nofelau (e.e. William Jones, Yr Ogof, Chwalfa) fyddai'r disgwyl.
Mr Dombey a ‘Fi’ ...
Mae’n rhyfedd meddwl mor hunanol yw rhai pobl! Meddyliant am eu hunain yn hytrach na fi!
Clawr argraffiad y gyfres gyntaf o Dombey and Son - 1847Fel hyn mae Charles Dickens yn cyflwyno Mr Dombey: “Dombey and Son. These three words conveyed the one idea of Mr Dombey’s life. The earth was made for Dombey and Son to trade in,, and the sun and moon were made to give them light. Rivers and seas were formed to float their ships; rainbows gave them promise of fair weather; winds blew for or against their enterprise; stars and planets circled in their orbits to preserve inviolate a system of which they were the Centre … A.D. had no concern with Anno Domini, but stood for Anno Dombey and Son.” (allan o Dealings with the Firm of Dombey and Son: Wholesale, Retail and for Exportation gan Charles Dickens 1846 - 1848)
Mae’r geiriau’n frawychus o berthnasol. Collodd Cymru ddiddordeb mewn crefydd - dyna sy’n esbonio capeli ac eglwysi gwag ein cyfnod. Nid gwrthwynebiad i grefydd yn gymaint, ond dim diddordeb! Nid llwyddo gwna crefydd bellach, ond llwydo! Mae’r awydd i gadw-pethau-i-fynd-gorau-gallwn-ni oherwydd bod llai a llai o bobl yn dod i’r cwrdd, yn arwain ar fwy a mwy o gadw-pethau-i-fynd-gorau-gallwn-ni, ac, o’r herwydd, llai eto o bobl yn ymddiddori yn ein crefydda di-antur, dihyder.
Darllen y Beibl fel teuluGall Siôn a Siân fyw yn hapus, a llwyddiannus ddigon, heb ddarllen y Beibl, dysgu gweddïo na dod i’r cwrdd, ond mae byw yn hapus a llwyddiannus heb Dduw yn beth cwbl wahanol i fyw yn hapus a llwyddiannus gyda Duw. Cyfryngau’n unig yw darllen y Beibl, dysgu gweddïo a dod i’r cwrdd. Cyfryngau i ddarganfod Duw. Nid ydynt mor ddof (a diflas) ag y tybiwn! Heb eu harfer llaciwn ein gafael ar Dduw (nid yw Ef, cofier, byth yn llacio ei afael arnom ni, ond peth arall yw hynny!). Wedi llacio ein gafael ar Dduw, mae bywyd yn newid.
Pan dderbynnir fod Duw yn bod, a bod ei gariad yn berthnasol i fywyd, try hanfod ein bywyd yn berthynas. Duw a fi, mae perthynas rhyngom, po agosaf y dof at Dduw, agosaf y dof ataf i fy hun, a po agosaf y dof ataf i fy hun, agosaf y dof at ddeall ystyr ‘Ni’.
Wedi gollwng Duw o’r neilltu, hanfod bywyd o’r herwydd yw ‘Fi’. O ddewis byw heb Dduw, daw ‘Fi’ yn bwysicach na ‘Ni’. Try gwleidyddiaeth yn ddim amgenach na phleidleisio ‘Fi’; a thry’r economi ar echel y prynwr ‘Fi’. Cymaint ein ‘I-strain’ fel na welwn dim amgenach na ‘Fi’ ... ‘A.D. had no concern with Anno Domini, but stood for Anno Dombey and Son’. Mae ‘Fi’ yn erydu cymunedau, yn dibrisio brawdoliaeth ac yn treulio sodlau ymddiriedaeth.
Mae presenoldeb neu absenoldeb Duw yn ein bywyd yn gwneud gwahaniaeth anferthol yn ein byw. Ni ellir gwthio Duw o’r neilltu, heb wthio peth wmbredd o bethau allweddol pwysig o’r neilltu hefyd: ein dyhead am wirionedd, ein gwybodaeth o dda a drwg, ein hawl i urddas, ein gallu i greu rhywbeth a fydd yn gwrthsefyll dinistr di-weld amser.
Dim ond hwb, cam a naid sydd rhwng dewis byw fel Dombey and Son ag uffern ar y ddaear.
Great Expectations
‘Wnewch chi flasu’r cawl os gwelwch yn dda?’Yn ôl y penawdau breision y newyddion mae Gweinidog Ysgolion San Steffan - Nick Gibb - yn awyddus i blant fod wedi darllen Great Expectations (1860 - 1861) gan Charles Dickens erbyn iddynt adael addysg gynradd. Wedi darllen y tu hwnt i’r penawdau, fe welir fod Mr Gibb wedi defnyddio Great Expectations fel enghraifft o’r fath lenyddiaeth y dylid galluogi plant i ddarllen erbyn cyrraedd diwedd eu cyfnod yn yr ysgol ‘fach’.
Mae’r cawl cennin yn flasus, wrth gwrs; ond mae angen llwy er mwyn cael ei fwyta a’i fwynhau! Hawdd o beth yw dweud fod angen i’n plant fedru darllen Great Expectations yn 10 oed, ond gwaith llawer anos yw rhoi yn nwylo ein plant yr arfau addysgol a’i gwna’n bosibl iddynt wneud hynny! Nid digon gosod powlen yn llawn o gawl o’u blaen ar y bwrdd!
Gwaith brawychus o hawdd yw dweud fod angen i ni weddïo. Gwaith llawer anos yw rhoi yn nwylo ein pobl yr arfau ysbrydol a’i gwna’n bosibl iddynt weddïo! Mae gweddi’n allu nerthol, grasol ac achubol, ond Hawdd hefyd yw dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Nid gwiw gwadu fod angen dybryd i bobl Dduw ddarllen rhagor ar Air Duw, ond dylid sicrhau fod gan bobl yr hyn oll a’i gwna’n bosibl iddynt wneud hynny. Mae angen dysgu pobl – a phobl ifanc yn fwyaf arbennig – sut i ddarllen y Beibl, heb hynny sut allwn ddisgwyl iddynt fedru ‘agor yr Ysgrythurau’? Dylid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus – efallai, yr unig ffordd o wir ddarllen Gair Duw – gyda’i gilydd, ac o’r herwydd rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau. Nid digon gosod Gair Duw fel powlen o gawl cennin ar y bwrdd, heb fod gan bobl lwy i’w flasu a’i fwynhau! OLlE Mae anghofio yn boen bywyd, ac mae colli cof yn ddolur enaid; mae cofio ac anghofio yn allweddol bwysig i bobl. Yn y dechreuadau cynnar, ‘roedd y cof yn gyfyngedig i’r unigolyn. Yr unig ffordd i gadw rhyw bethau ar gof a chadw oedd trosglwyddo’r pethau hynny o berson i berson. Er mor bwysig a buddiol eich gwybodaeth, anodd iawn oedd rhannu’r wybodaeth hwnnw’n effeithiol dros bellter ffordd ac amser. O’r herwydd, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol! Mae rhannu yn allweddol bwysig yn y broses o gofio, a gyda datblygiad iaith, daeth rhannu gallu a dawn, defnyddio gwybodaeth a rhyddhau grym dychymyg yn haws o lawer. Ond, nid digon iaith i gynnal cof, ac o’r herwydd ‘roedd anghofio yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!
Maddeued y cleber coeg-addysgol, at hyn ‘rwy’ am ddod: teimlaf ym mêr fy esgyrn ei bod yn argyfwng yn hanes cyfathrebu Cristnogol Cymraeg. Mae pobl yn cadw draw o’n hoedfaon! Ydynt, ac mae cymaint o wahanol resymau am gadw draw ag sydd o bobl yn cadw draw o’r cwrdd. Mae angen i eglwys ac enwad gydnabod mai hawdd o beth yw dweud wrth bobl bod angen iddynt ddod i’r cwrdd, ond gwaith llawer anos yw rhoi yn nwylo pobl yr arfau ymarferol - croeso, cwmni, gwybodaeth, mynegi’r Efengyl mewn priod-ddull cyfoes - a’i gwna’n bosibl iddynt wneud hynny’n esmwyth a dedwydd ar ôl cyfnod hir o beidio dod. Mae cawl cennin ein hoedfaon yn flasus ddigon - nid oes rhaid newid y rysáit o hyd fyth - ond mae rhaid sicrhau fod gan bobl lwy!
mae angen dysgu gweddïo; mae angen cyfle i ymarfer y ddawn o eiriol. Mae cawl cennin gweddi yn faethlon ddigon – ond mae rhaid sicrhau fod gan bobl lwy! 15 Chwefror 2012
Anghofio a Chofio, Cofio ac Anghofio ...
Mae’r ymennydd dynol yn rhyfeddol o gymhleth; perthyn iddo’r gallu anhygoel i brosesu a chadw pentwr o wybodaeth, ond mae anghofio’n anhepgor i’w lwyddiant. Buasai’r ymennydd yn chwythu ei blwc yn reit sydyn pe bai’n gorfod cofio pob peth! Er yn anhepgor i’n iechyd ymenyddol, nid hoff gennym anghofio, a buom yn brysur, ers dechrau’r dechrau yn ceisio sicrhau fod rhai pethau’n cael eu cadw’n ddiogel yn y cof. Ond, o’r dechrau, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio! Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!
Celfyddyd Ogof - Gwastatir Ennedi, Chad.
Datblygwyd ysgrifen, a maes o law, llyfrau. Dyma ddatblygiad rhyfeddol yn ein hymdrech i gofio. Gyda datblygiad ysgrifennu daeth modd i gadw ein profiad, gallu a gwybodaeth yn ddiogel a chywir, ar femrwn. Ond eiddo’r ychydig dethol bu’r gallu i ysgrifennu a pherchenogi'r hyn a ysgrifennwyd am ganrifoedd lawer eto. ‘Roedd y gwaith o gofnodi ar bapur yn anferth ac araf. Amcangyfrifir fod cwmni o ysgrifellau mewn mynachlog yn Lloegr yn yr 11eg Ganrif wedi cynhyrchu 66 llyfr mewn ... 22 blynedd o lafur di-dor! Ar ddechrau’r 15fed Ganrif, ‘roedd llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn cynnwys 122 o lyfrau! Yn 1450, daeth newid byd, daeth Gwasg Argraffu Gutenberg. Daeth llyfrau’n bethau llawer llawer fwy cyffredin, llaciwyd gafael y dethol rhai ar wybodaeth, ond yn sgil pris uchel llyfrau, ac anllythrennedd
Gwasg Gutenberg gan Francis Rolt-Wheeler. The Boy with the U.S. Inventors; Lee & Shepard Co., Boston UDA 1920lled gyffredin, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio o hyd. Ie, anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!
Gyda’r papur newyddion beunyddiol, daeth modd i bobl cael gwybod beth oedd yn digwydd yn eu cymuned a’u byd. ‘Roedd gwybodaeth ar gael i fwy a mwy o bobl, ond mae’r newyddion beunyddiol yn troi’n hen dros nos! ‘Roedd y pwyslais ar heddiw - rhyw edrych ar bethau fesul diwrnod - mae’r papur newyddion. Mae’r pwyslais ar ddeall, nid cofio, ac o’r herwydd parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol. Maes o law, daeth ffotograffiaeth, recordiau a ffilm. A ydych yn cofio eich camera cyntaf? Er yn ddigon o ryfeddod ar y pryd, gwyddom erbyn heddiw mai gwaith digon anodd a chymharol ddrud oedd prosesu’r lluniau hyn, ac o’r herwydd ‘roedd gofyn i bobl bwyllo wrth gymryd llun,
rhag gwastraffu o’n o’r 36 llun a berthyn i’r ffilm arferol! Arhoswyd am yr amser iawn i wasgu’r botwm, gosodwyd pobl mewn trefn, a gofynnwyd iddynt wenu’n ddel er mwyn argraffu’r lluniau a’u gosod yn dwt mewn albwm trwm a thrwchus. Mawr bu’r newid! Gall cof bach y camera digidol cadw miloedd o luniau, ond yn y cyfnod analog hwnnw ein ganed ni iddo, gwaith anoddach o lawer oedd cadw atgofion a chynnal y cof, a do, parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol hyd nes yn gymharol ddiweddar.
At hyn ‘rwy’n dod! O’r dechrau, ‘roeddem yn anghofio llawer mwy o bethau nag ‘roeddem yn gallu eu cofio. ‘Roedd maint ein byd, natur ein cymdeithas â’n gilydd yn sicrhau fod anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol. Gyda datblygiad technoleg ddigidol a rhwydweithiau rhyngwladol mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Erbyn hyn, mae cofio’n arferol ac anghofio’n eithriadol! Yn 2007, cyfaddefodd Google fod pob un cais
o eiddo ei ddefnyddwyr, a phob un canlyniad a gliciwyd arno wedi ei gofnodi’n gymen gan y cwmni. Cystal cyfaddef felly, fod Google yn cofio trwch o bethau amdanom, am ein bywyd ac am ein ffordd o fyw, sydd wedi hen fynd yn angof gennym! Mae Google yn gwybod fwy amdanom ni na fedrwn gofio amdanom ein hunain! Mae polisïau Google wedi newid bellach, ond erys hyn fel esiampl o beryglon enbyd y cofio dwfn sydd mor nodweddiadol o’r oes ddigidol hon.
Bellach, mae’r hyn oll a wnawn ar gof a chadw digidol, ac mae hynny, wrth gwrs yn newid y ffordd yr ydym yn ymwneud â’n gilydd. Yr ydym yn cofio, ac anghofio, fel cymunedau, ac felly mae ein hanallu i anghofio yn yr oes ddigidol hon yn golygu nad oes gwir gyfle i’r sawl a droseddodd yn erbyn y gymuned i symud ymlaen ac ailddechrau wedi iddo ateb am ei drosedd. Mae ein ddoe, a’n hechdoe, fel tatŵ ar fraich ein byw. Ni ellir dianc rhagddo.
Nid wyf am eiliad yn annog agwedd Canute (985 - 1035)-debyg - nid oes troi llanw technoleg yn ôl! Ond, fe ddylem, yn union oherwydd hynny, sylweddoli fod anghofio troseddau a chamgymeriadau, a phob cyfle i ailddechrau ac ailgydio a ddaw yn sgil yr anghofio hwnnw, yn mynd yn anoddach o hyd fyth. Heb ein bod ni a’n tebyg ym mynd i’r afael a hyn, bydd ein plant, a phlant ein plant yn byw a’u ddoe a’u heddiw yn gymysg gawl! Yng ngeiriau T.S.Eliot (1888-1965): “If all time is eternally present, all time is unredeemable.” (Burnt Norton. No.1 Four Quartets. 1943, Harcourt Press) OLlE
8 Chwefror 2012
Munud i Feddwl: Mahmoud Ahmadinejad - 1 Chwefror 2012
Munud i Feddwl: Dydd Cofio'r Holocost - 27 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: "It will be a very long time ere I'll be back" - 25 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: Camu Mlaen - 25 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: Sawl Tim - 18 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: 'Dywedodd Duw ...' - 11 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: Cyfrinach Blwyddyn Newydd - 4 Ionawr 2012
Munud i Feddwl: Cyflwr ein Gwreiddiau - 28 Rhagfyr 2011
Munud i Feddwl: Dydd Nadolig - 25 Rhagfyr 2011
Munud i Feddwl: F - 21 Rhagfyr 2011
Munud i Feddwl: Pethau a Phetheuach - 14 Rhagfyr 2011
