Hanes Minny Street
Gellir olrhain hanes Eglwys Annibynnol Minny Street yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O 1881 ymlaen dechreuodd dyrnaid o drigolion ardal Y Waun Ddyfal gyfarfod i drafod y syniad o sefydlu addoldy Cymraeg yn eu hardal. Erbyn 1883 yr oedd y penderfyniad o agor Ysgol Sul wedi ei wneud a chodwyd ysgoldy a thÅ· ar gornel Minny Street a Fanny Street ar gost o £585. Yn 1884, yn sgil llwyddiant yr Ysgol Sul, aethpwyd ati i ffurfio eglwys. Ar 18 Chwefror 1885 corfforwyd Minny Street yn Eglwys Annibynnol ac erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd 100 o aelodau yn perthyn iddi.
Yn dilyn dyfodiad y Parchedig O.L. Roberts yn weinidog ar yr eglwys newydd, adeiladwyd capel wrth ochr yr ysgoldy gan Solomon Andrews yn 1887. Costiodd y gwaith £2000 a dyma lle mae’r aelodau yn addoli hyd heddiw.
Ers ei dechrau bu wyth o weinidogion yn gwasanaethu’r Eglwys a phob un yn eang ei weledigaeth a’i gyfraniad i’r achos:
1886-1891 Y Parchedig O. L. Roberts
1892-1920 Y Parchedig Thomas Hughes
1921-1928 Y Parchedig Rowland Hughes
1931-1961 Y Parchedig R. J. Jones
1962-1983 Y Parchedig D. T. Evans
1984-1989 Y Parchedig Eifion Powell
1989-1998 Y Parchedig Ieuan Davies
1999-2002 Y Parchedig Eifion Powell
