Ffydd yn gweithio trwy gariad (Galatiaid 5:6)
EIN HAMCAN
Hyfryd yw cael estyn croeso twymgalon i chwi i addoli gyda ni ym Minny Street.
Mae pawb ohonom, fel hadau dant y llew, hwyr neu hwyrach yn blino ar nofio’r gwynt, ac yn dymuno darganfod tir da a diogel i gael plannu’n gwreiddiau. Nid ydym yn gyflawn hyd nes y gwnawn hyn. Mae mynychu Eglwys Crist yn gymorth yn hyn o beth.
Ond beth sydd i ddweud am yr Eglwys? Nid adeilad sanctaidd yw’r eglwys, ond pobl yn credu. Yn union fel mai nid chi yw eich dillad, nid ein hadeilad yw eglwys Minny Street. Nid lle mohonom ond pobl yn cydaddoli.
Fel eglwys, estynnwn groeso i chwi. Estynnir croeso i chwi am yr hyn y medrwch chwi ei gynnig i ni: eich cymeriad a’ch profiad, eich doniau a’ch grasusau, a hyd yn oed eich ffaeleddau a’ch gwendidau.
Fe wyddoch yn barod mae’n siŵr nad oes yr un eglwys yn berffaith! Ym Minny Street diolchwn i Dduw fod gan ddrain rosynnau, yn hytrach na dannod Duw fod gan rosynnau ddrain.
Estynnwn i chwi groeso a derbyniad am bwy a beth ydych, yn union fel y cawsom ni ein derbyn am beth a phwy oeddem, ac ydym, ni. Hyderwn y byddwch yn profi yn ein plith ymdeimlad o berthyn. Plant Duw ydym oll, brodyr a chwiorydd yn cydweithio i weld cariad a gras Duw yn ffynnu yn ein plith, ac yn wir gyda’ch help chi, pwy a ŵyr os nad allwn wneud hynny’n well fyth.
