Eglwys Minny Street 1884 – 2009

Dathlu 125 Mlynedd

Yn ystod 2009 bu Eglwys Annibynnol Minny Street yn dathlu 125 mlynedd ers dechrau addoli ar y safle yn y Waun Ddyfal. Cynhaliwyd cyfres o oedfaon ac amrywiol ddigwyddiadau i nodi’r achlysur arwyddocaol yn ei hanes.

Dechreuodd y dathlu gydag oedfa Gymundeb arbennig ar fore’r Sulgwyn gyda’r eglwys yn croesawu aelodau o eglwysi Cymraeg eraill Caerdydd i ymuno â’r addoliad gyda’r hwyr, a phlant yr eglwys yn chwarae rhan amlwg mewn dau wasanaeth arall yn ystod  mis Mehefin. Cafwyd cyfle yn ystod oedfaon y mis i gyflwyno emynau gan aelodau’r presennol a’r gorffennol, yn eu mysg gwaith buddugol cystadleuaeth Emyn y Dathlu gan y Parchedig Huw Ethall.

Yn ogystal, cyhoeddwyd “Llewyrch Ddoe, Llusern Yfory”.  Bu criw gweithgar yn archwilio cofnodion a dogfennau’r eglwys i greu cyfrol o’i hanes oedd hefyd yn cynnwys atgofion aelodau (mae copiau o'r gyfrol yn dal ar gael). Ymgais arall i adlewyrchu gwahanol agweddau o fywyd Minny Street yn ystod mis y dathlu oedd arddangosfa o luniau a chreiriau yn olrhain hynt a helynt yr eglwys yn ystod y 125 mlynedd. Dros gyfnod y dathlu, harddwyd blaen y capel gan faner fawr oedd yn glytwaith o enwau aelodau a theuluoedd fu, ac y sydd, â chysylltiad â Minny Street. 

Parhaodd y dathliadau gyda The’r Dathlu ar gyfer y plant a chyfle i aelodau o bob oed fwynhau darn o deisen wrth edrych ymlaen at flynyddoedd eto o addoli yn Y Waun Ddyfal.