Croeso i Eglwys Minny Street, Caerdydd
Croeso i wefan Eglwys Annibynnol Minny Street, Caerdydd. Anfonwch ebost atom os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer y wefan.
Mae eglwys fyw, ifanc ei hysbryd, ac aelwyd Gristnogol gynnes yn eich disgwyl yn Eglwys Minny Street.
Ar hyd y blynyddoedd llwyddodd yr eglwys hon i fod yn gartref ysbrydol ac hefyd yn ganolfan cymdeithasol i bobl Caerdydd a’i chyffiniau, ac yr ydym ar ein heithaf yn ceisio parhau’r traddodiad. Yn ychwanegol at y darpariadau pwysicaf mewn addoliad, Ysgol Sul ac astudiaethau Beiblaidd, mae gennym hefyd raglen gymdeithasol lawn, amrywiol, hynod boblogaidd ac atyniadol, a’r cyfan oll yn nwylo aelodau talentog a ffyddlon yr achos.
Fe wnawn bopeth a allwn i’ch gwneuthur yn gartefol gyda ni.
Croeso i ymwelwyr i'n hoedfaon arferol bob Sul am 10.30 y bore a 6.00 yr hwyr. Yn ogystal, unwaith y mis cynhelir oedfa gynnar am 9.30 ar ail Sul y mis.
Am fanylion pellach, cysylltwch a ni trwy e-bostio'r gweinidog, Owain Llyr Evans (gweinidog@minnystreet.org).