BETHANIA
Gair Duw ac angen pobl – dyna’r ddau begwn.
Bwriad Bethania yw pontio rhwng y ddau begwn.
Cawn gyfle yn gwmni bychan, agos i drafod Gair Duw a sylwedd y Ffydd Feiblaidd gyda’n gilydd. Wrth gyfarfod yn gyson ar yr aelwyd, cawn gyfle i gymryd ein trwytho yng Ngair Duw. Dyma ddywed Menna Brown, un o aelodau Bethania am y cyfarfodydd:
“Mae'r enw ‘Bethania’ yn dwyn i gof y pentref ger Jerwsalem, lle y trigai dwy chwaer a brawd, a chyfeillion agos i'n Harglwydd Iesu Grist, ar aelwyd groesawgar. Enciliai'n Gwaredwr i'r cartref hwn yn gyson, i fwynhau lletygarwch Mair, Martha a Lasarus. Cyflwynai ei arweiniad ysgrythurol ac ysbrydol iddynt, yn arbennig yn cael sylw cyson ac astud Mair i'w eiriau, a hithau yn "dewis y rhan orau."
Tudalen flaen Efengyl Mathew - Efengylau Lindisfarne yn y Llyfrgell BrydeinigRhai blynyddoedd yn ôl, gyda'r darlun hwn mewn cof, rhoddwyd yr enw ‘Bethania’ ar gyfarfodydd astudiaeth Feiblaidd pythefnosol Eglwys Minny Street. Wrth gyfarfod ar wahanol aelwydydd gyda'n gilydd, dan arweiniad ein Gweinidog buom yn trin a thrafod Teithiau Paul y llynedd (2010 – 11). Bellach Efengyl Mathew yw’r Maes Llafur. Ein bwriad eleni yw olrhain twf a datblygiad gweinidogaeth Iesu Grist. Y gobaith yw y bydd taith Bethania, fesul gam trwy Efengyl Mathew, yn gymorth i ni weld mawredd person, bywyd a gwaith yr Hwn y gellir dweud amdano ei fod yn:Yn ei ragarweiniad, a gyhoeddir a’i ddosbarthu i bob aelod ymlaen llaw, cyflwyna'r Gweinidog y maes dan sylw gan nodi'r elfennau sylfaenol ar gyfer trafodaeth a myfyrdod. Cynorthwyir ni i feddwl am y cyfle a'r her sy'n ein hwynebu fel unigolion a chymuned Gristnogol mewn eglwys a chymdeithas. Trafodir dealltwriaeth o'r Gair, a rhennir syniadau amrywiol a dadleuol, a cheir gweledigaeth newydd trwy wahanol safbwyntiau. Trafodir crefyddau eraill hefyd. Trwy ‘ddewis y rhan orau’, mewn trafodaeth a thros gwpanaid o de cawn fyfyrio, a thrwy lygaid ein gilydd, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, dod yn fwy goleuedig ynghylch yr hyn sy'n ganolog i'n ffydd Gristnogol.
Bethania 2009-2010: Erthygl o'r Aelod (Gwanwyn 2010)
