... ac ATI
Rest on the Flight into Egypt - Frederico Fiori Barocci (1526-1612); The Flight into Egypt - Adam Elsheimer (1578-1610) a Rest on the Flight into Egypt - Luc-Olivier Merson (1846-1920).
Rest on the Flight into Egypt gan Frederico Fiori Barocci (1526-1612)“Wedi (i’r sêr-ddewiniaid) ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, a dweud, “Cod, a chymer y plentyn a’i fam gyda thi, a ffo i’r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.”” (Mathew 2: 13)
The Flight into Egypt gan Adam Elsheimer (1578-1610) Mae’n rhaid bod y daith i’r Aifft yn frawychus i Mair a Joseff, a’r bychan. ‘Roeddent ar ffo, yn dianc rhag gwallgofrwydd Herod. Cyfleu ymdrech a dychryn y daith i’r Aifft a wna llun Elsheimer; ef oedd y cyntaf i fod yn gwbl driw i’r hanes yn Efengyl Mathew a phortreadu teulu bach yn ffoi yn y nos (Mathew 2:14). Mae’n dywyll arnynt, ond mae’r llun - yn rhyfedd iawn - yn llawn golau: golau disglair y lleuad, golau cynnes y tân, a’r golau hyfryd, bregus sydd fel gwawl o amgylch Mair, Joseff ac Iesu. Mae golau’r lleuad yn gymorth, mae golau’r tân yn gysur, ond Iesu yw ffynhonnell y goleuni gwir cynhaliol. Er mor dywyll gwylltineb oesol Herod, mae’r goleuni Duw’n anniffodd.
Rest on the Flight into Egypt gan Luc-Olivier Merson (1846-1920) Mae Joseff, wedi llwyr ymlâdd, yn cysgu eisoes, ond mae Mair ac Iesu, yn gorffwyso - yn dawel ddiogel - rhwng pawennau’r Sphinx! Mae’r Sphinx yn hanner gwenu. Credaf fod Merson yn awgrymu rhywbeth pwysig. Mae’n dywyll, mae pawb wedi blino’n lân, ond mae diogelwch yr Aifft yn agos iawn. Ni all neb na dim atal dyfodiad Teyrnas Iesu. Mae’r un bach wedi dianc, mae’n ddiogel ym mreichiau’r Aifft ... ond daw awr ei ddychwelyd at ei bobl: “O’r Aifft y gelwais fy mab” (Mathew 2:15). Daw amser cychwyn ar ei weinidogaeth fawr - ac yn sgil y weinidogaeth honno fe dry’r byd a’i ben i waered, tu chwith allan.
Apostles Peter and Paul gan El Greco (1541 – 1614) - Hydref 2011
Conversion of Saint Paul gan Caravaggio (1571 - 1610) - Medi 2011
Apostle St James the Greater o'r gyfres Apostolados gan El Greco (1541 – 1614) - Awst 2011
Die Vier Apostel (Y Pedwar Apostol) gan Albrecht Dürer (1471 – 1528) - Gorffennaf 2011
Le Coup de Lance gan Reubens (1577 - 1640) - Mai 2011
Stopping by Woods on a Snowy Evening gan Robert Frost - Ebrill 2011
Gwawl Byw: Ffenestri Lliw Cadeirlan Caerloyw gan Tom Denny - Chwefror 2011
Adoration of the Kings (1564) gan Pieter Breugel (1520-1569) - Rhagfyr 2010
